sabato, maggio 12, 2007

Hunan-dadansoddiad darogan canlyniadau

Oeddwn i jyst yn edrych dros fy narogan am y Cynulliad, a dyma rai pethau y ges i'n iawn a dw i bron yn synnu fy mod i wedi...

  • Bro Morgannwg (LLAF) – Ceidwadwyr yn agosáu
  • Canol Caerdydd (DEM RHYDD) – gyda mwyafrif ((cryn dipyn yn)) llai
  • Castell-nedd (LLAF) – bydd Plaid yn lleihau mwyafrif Llafur yma a bydd hi’n gymharol agos
  • Ceredigion (PC) – a bod yn onest, dw i’n gweld Elin Jones yn cadw’r sedd yn gymharol hawdd
  • Dwyfor Meirionnydd (PC) – nid yn unig yn ddiogel i’r Blaid ond hwn bydd sedd mwyaf diogel Cymru
  • Gogledd Caerdydd (CEID) – un gweddol hawdd i’r Ceidwadwyr
  • Maldwyn (DEM RHYDD) – bydd y mwyafrif Rhyddfrydol yma’n llai o lawer

Y seddau (nifer go iawn)
Llafur 25 (26)
PC 16 (15)
Ceidwadwyr 12 (CYWIR!)
Dem Rhydd 5 (6)
Eraill 2 (1)


Dim yn ddrwg o gwbl! Gwell i Gareth Wales Decides wylio'i swydd...!

1 commento:

Anonimo ha detto...

Gad Gareth fod. Dwi'n poeni am dy obsesiwn di ag o i ddweud y gwir. Iason Gareth Garwr yw'th enw di o hyn ymlaen! IGG