giovedì, maggio 17, 2007

Iaith Prydfertha'r Byd. Ffaith.

Gwych a godidog iaith yw’r Gymraeg, yn wahanol i Uzbek sef un o’r ieithoedd a seliodd Tolkien yr Iaith Ddu arni. Ond rydym ninnau’n ddedwydd o wybod y ffaith glir mai nyni’r Cymry sy’n berchen ar iaith brydferthaf y byd. Nid barn mohoni, eithr ffaith. Yn fy marn i.

Serch hynny, mae dwy ochr i’r Gymraeg modern: y Gymraeg ffynci, modern a bachog, a’r Gymraeg llwydaidd, slafaidd sydd hefyd yn amlwg.

Wele enghreifftiau o’r cyntaf: ffôn lôn, sy’n fachog iawn, a plisgwisg, sef gair dw i’n hoff iawn ohono ond dw i’m yn meddwl fy mod i erioed wedi ei ddefnyddio. Ac mae ‘na rhywbeth ynghylch ffrwchnedd, oni bai nad ydyw’n bodoli mewn difri. Mae hyd yn oed elfen o hynny yn microdon, cyfrifiadur a chyfrifiannell.

Wele’r ail set: breg-ddawnsio (breakdancing), sef y math o air sy’n gwneud i’r Gymraeg swnio fel pe na bai’n gallu cowpio â’r byd modern, neu ffôn symudol, sy’n air diddychymyg a diflas. Mae’n swnio’n rhy ymarferol i fod yn Gymraeg.

Erfyn ar bawb ydw i, os oes rhaid gwneud enwau newydd i’r Gymraeg, peidiwch ag amharu ar brydferthwch yr iaith drwy ddod fyny â geiriau ofnadwy, robotig a hyll.

Breg-ddawnsio. Hm. Unrhyw eraill awgrymiadau?

3 commenti:

Huw ha detto...

Dwi di defnyddio saibddawnsio.

david h jones ha detto...

beth yw plisgwisg?

Beth am cliniadur, sws bopa (love-bite), marcho, wefan, gwennol (dyna fydde fy ngair i am 'lygoden' gyfrifiadurol), argaeledd?

digon i'w cael ... ond angen mwy!

Linda ha detto...

Tydi microdon ddim yn rhy ddrwg...yn lot gwell na'r robotic popty ping :)