martedì, gennaio 17, 2017

Etholiadau Arlywyddol Ffrainc



Blwyddyn newydd dda!

Nos Iau ddiwethaf mi ges i sgwrs fach yn y dafarn am etholiadau Ffrainc. Mae pawb yn meddwl ei bod yn gwbl anochel y bydd Marine Le Pen yn cyrraedd yr ail rownd yn yr etholiadau arlywyddol a gynhelir ar 23 Ebrill eleni, ac i fod yn deg mae hwnnw’n fet go ddiogel, ynghyd â hithau’n colli yn y rownd derfynol. Mi fu’n fwriad gen i ysgrifennu pwt am etholiad Ffrainc ers rhai wythnosau – wedi’r cyfan, mae’n un o etholiadau pwysicaf y byd ac yn haeddu ymdriniaeth. Mi geisiaf gynnig hynny mewn modd mor gryno ag y gallaf. Ond peidiwch â darllen ymlaen onid oes gennych chi amser i’w sbario.

Rŵan, dydi o ddim y peth hawsaf imi wneud hyn; mae’r ffynonellau gorau, yn anochel, yn Ffrangeg a dwi methu ei siarad. Ond mae ‘na ddigon o gliwiau ar gael sy’n awgrymu y gallai ambell beth go annisgwyl ddigwydd yn yr etholiad hwnnw.

Mae’n annhebyg os ydych chi’n darllen hwn eich bod yn gwbl anymwybodol o’r sefyllfa wleidyddol yn Ffrainc ar hyn o bryd, ond dyma ei chrynhoi’n fras: mae’r polau piniwn yn awgrymu y bydd Marine Le Pen, arweinyddes y Front Nationale, a François Fillon o blaid Les Républicains, yn wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol. Mae’r Parti socialiste, sef plaid Hollande (a fydd ddim yn sefyll) yn debygol o gael crasfa, gan o bosibl ddod yn bumed yn y rownd gyntaf y tu ôl i’r Front Gauche (plaid adain chwith eithafol) ac En Marche! sy’n fudiad newydd a sefydlwyd gan Emmanuel Macron, a arferai fod yn weinidog yn llywodraeth Hollande ond a’i gadawodd fis Awst i drïo’i lwc yn yr etholiad hwn. Gambl, yn sicr, ond mae’n debygol bod yr rheiny’n boblogaidd ac yn eithaf llwyddiannus y dyddiau hyn.

Er mwyn rhoi trefn i’r blogiad hwn, dwi am fwrw golwg gryno dros bedair plaid, sef pob un a enwyd uchod eithr y Front Gauche, cyn dod i gasgliad bras ar yr hyn dwi’n credu a allai ddigwydd.


François Fillon – Les Républicains

Roedd dewis Fillon yn sioc i’r system yn y lle cyntaf – Alain Juppé oedd y ffefryn clir i ennill yr enwebiad ond trodd y blaid am yr ymgeisydd sydd bellaf i’r dde wleidyddol. Llenwodd Fillon fwlch yng ngwleidyddiaeth y dde yn Ffrainc sydd wedi bod yn wag am gryn dipyn sef ceidwadaeth Gatholigaidd. Mae pleidleisiau i hynny ar y dde, ond mae ei feddylfryd economaidd yn Thatcheraidd sy’n wrthun mewn gwlad fel Ffrainc, lle mae traddodiad cryf o ymyrraeth lywodraethol yn economi’r wlad. Yn fras, mae ei apêl ym mhleidlais aml-ddewis y rownd gyntaf yn gyfyngedig. Ddiwedd y llynedd, fodd bynnag, fo oedd y ffefryn i gyrraedd yr ail rownd, bob amser yn yr 20au uchaf neu’r 30au isel yn y polau piniwn ac o flaen y lleill. Ond ers hynny, mae ei gefnogaeth wedi dirywio’n sylweddol. Cawsai 30% ar gyfartaledd ym mholau Tachwedd a Rhagfyr, ond fis yma mae o 4-5% yn is ac y tu ôl i Le Pen gan mwyaf.

Alla i ddim dweud fy mod i’n gwybod llawer amdano, ond ar y cyfan mae’n ymgeisydd digon anysbrydoledig ac yn yr etholiad hwn gallai hynny ei niweidio. Mae’n anodd ei weld yn peidio â chyrraedd yr ail rownd oherwydd ei gefnogaeth graidd, a gwelsom yn yr UDA ac yn y DU bwysigrwydd gefnogaeth galed: mae’n fwy llwyddiannus na chynghreiriau gwleidyddol llac.

Gallai ei geidwadaeth ar faterion fel mewnfudo ennill cefnogaeth oddi wrth Le Pen, ond gall ei safbwyntiau ar yr economi, yn galw am ddadreoleiddio ar raddfa enfawr, atal pobl rhag pleidleisio drosto – yn enwedig wrth droi wrth Le Pen sy’n agosach at y canol Ffrengig yn yr ystyr hwnnw. Ac mae’n annhebygol o hudo’r rhai o’r dosbarth gweithiol – sosialwyr traddodiadol –sy’n troi’n gynyddol at y Front Nationale.


Marine Le Pen – Front Nationale

Mae’n rhagdybiaeth gyffredin ers sbel y bydd Marine Le Pen yn cyrraedd yr ail rownd. Mae hi’n gyson ymhlith y ddau uchaf ac mae’r Front wedi bod yn ennill cefnogaeth dan ei harweinyddiaeth yn gyson, er bod system etholiadol (annheg) Ffrainc yn eu hatal rhag ennill seddi ar y cyfan. Yn wir, â phopeth sydd wedi digwydd y llynedd, mae’n anodd ei diystyru. Ond mi wna i ddarogan yn gwbl hyderus nad Marine Le Pen fydd arlywydd nesaf Ffrainc.

Yr hyn efallai nad ydym ni y tu allan i Ffrainc wedi amgyffred ydi hyn: mae gan y Front broblemau. Gyda’r banciau yn gwrthod benthyca arian i’w hymgyrch, mae Le Pen wedi gorfod troi at gwmni ei thad am fenthyciad o £5.2m; rhywbeth sydd am fwrw amheuaeth dros ei pherthynas â’i thad. Mae wedi ceisio ymddieithrio rhagddo’n fwriadol i ehangu apêl y blaid, ond mae amheuon am ei didwylledd wrth wneud hynny yn sicr am ail-godi. Mi gollodd achos llys y llynedd pan y’i gelwid yn “ast ffasgaidd” gan gomedïwr ac y ceisiodd ei siwio. Fydd ei hymwelid diweddar â Trump Tower fawr o help ychwaith – mae Trump yn amhoblogaidd yn Ffrainc ymhlith bron pawb. A bydd ei hedmygedd cyson o Putin efallai fawr o help.

Y mae craciau yn y Front Nationale, a dwi ddim yn argyhoeddedig y bydd pobl yn eu hanwybyddu. Ni waeth i chi weiddi am Trump na Brexit yn hyn o beth: mae Ffrainc yn wlad wahanol; ac yn draddodiadol dydi’r blaid ddim wedi gwneud yn well mewn etholiadau na mewn polau. Hynny ydi, dydi’r pleidleiswyr distaw lu a drodd allan i bleidleisio yn 2016 mor ddistaw yno. Ni ragwelaf sioc dawel ym mhleidlais Ebrill; mi fyddan ni’n gwybod ymlaen llaw sut eith hi.

Gallai Fillon ddenu rhai o’r bobl ar y dde a fyddai’n pleidleisio drosti (tanciau ar y lawnt ac ati) ond gallai eraill effeithio ar ei phleidlais. A waeth i ni gofio, mae pleidlais Le Pen, fel Fillon, yn y polau piniwn tua 5% i lawr ar yr hyn yr oedd yn ei gael ym mis Tachwedd. Tuedd, a thuedd na ellir ei hanwybyddu.

Wrth gwrs mae pethau a allai ddigwydd rhwng rŵan a mis Ebrill a allai atgyfnerthu ei chefnogaeth, yn eu plith ymosodiad terfysgol arall. Ond ni all neb ddarogan hynny.


Partie socialiste

Pwt yn unig a roddaf i’r blaid sosialaidd. Maen nhw ar chwâl, a fyddan nhw ddim yn cyrraedd yr ail rownd, ond gallai eu dylanwad ar bwy sy’n cyrraedd fod yn hollbwysig. Yn syml – petai Manuel Valls yn ennill mae’n debyg y bydden nhw’n ennill tua 10% - 15% o’r bleidlais (gyda’r uchaf ar y raddfa honno’n annhebygol). Petai un o’r lleill yn ennill gallai fod yn hanner hynny. Debyg na gŵr o’r enw Arnaud Montebourg ydi’r ffefryn i ennill yr enwebiad.

P’un bynnag, gyda’i gobeithion yn rhacs waeth pwy sy’n ennill un o enwebiadau mwyaf anobeithiol Ewrop ar y funud, mae posibiliad cryf y bydd nifer o’r rhai fyddai’n pleidleisio dros y sosialwyr yn ailystyried eu pleidlais rownd gyntaf. O’u plith nhw, mae pleidleisio dros Le Pen neu Fillon yn y rownd gyntaf fwy na thebyg yn amhosibl. Ond, yn strategol, mae un person y gallent bleidleisio drosto a allai atal y ddau...


Emmanuel Macron - En Marche!

A dyma ni, y ffactor rhyfedd, annisgwyl yn yr etholiadau arlywyddol, Emmanuel Macron. Mae’n ifanc, yn siaradwr da, yn frwdfrydig, ac er ei fod yn rhan o’r llywodraeth flaenorol dydi o heb fwrw cysgod gormodol drosto chwaith. Mewn polau piniwn mae un peth yn bwysicach na chanrannau – sef tueddiadau.

Ac yn wir, mae’r duedd i Macron yn un sy’n llawn haeddu sylw. Yn wahanol i Fillon a Le Pen, cynyddu mae ei bleidlais o’n gyson. Mae Macron o fewn pellter taro i’r ddau. Gwnaeth un arolwg barn a gynhaliwyd fis yma ei roi o flaen Le Pen yn y rownd gyntaf. Yr amod, os liciwch chi, oedd nad oedd y Partie socialiste yn dewis Valls. Ond, fel y dywedais uchod, hyd yn oed os gwnân nhw hynny, dydi o ddim y tu hwnt i bob cred y gallai nifer o bleidleiswyr y blaid honno droi ato er mwyn cael rhywun sydd ddim ar y dde yn yr ail rownd. Mae’n bosib, er yn llai tebygol, y gallai rhai o bleidleiswyr y Front Gauche wneud yr un peth. Byddai o’n wirion i beidio ceisio apelio atynt. A dydi o ddim yn wirion.

Cryfder Macron, yn fy marn i, ydi ei ddiffyg syniadaeth wleidyddol. Dydi o ddim yn ei ddiffinio ei hun yn nhermau hynny; gallai fod yn gryfder eithriadol. Rydyn ni eisoes wedi gweld hyn yn digwydd, o Trump yn UDA i’r M5S yn yr Eidal (heb sôn am bleidiau llwyddiannus fel un Merkel yn yr Almaen sydd wastad wedi ffafrio ymarferoldeb dros syniadaeth). Dwi’n gwbl argyhoeddedig na’r duedd wleidyddol sydd ohoni, ymhlith mudiadau llwyddiannus, ydi symud o ideolegau pendant i sefyllfa fwy hyblyg. Mae o’n boblyddwr (y gair Cymraeg crap am populist) o fath.

Rydyn ni’n cyfateb y gair poblyddiaeth i’r adain dde yn aml ond mae hyn yn hollol anghywir; ddadleuwn i mai ystyr poblyddiaeth gyfoes ydi, yn syml, y reddf i ddweud y peth iawn ar yr adeg iawn yn y ffordd iawn er mwyn ennill grym, heb fod yn gaeth i ideoleg. Ac i’r graddau hynny, efallai bod lle i ddadlau bod Le Pen yn fwy o ideolegwr na phoblyddwr. Macron, nid Le Pen, sy’n dilyn ôl-troed pobl a mudiadau diweddar sy’n amrywio o Trump i’r M5S i Syriza i’r SNP.

Ategir hynny efallai gan y ffaith fod Ewrop, yn ôl polau piniwn diweddar, wedi troi’n sylweddol fwy o blaid yr UE, ym mhob gwlad gan gynnwys Ffrainc. Dydi o ddim yn gyd-ddigwyddiad fod Le Pen wedi bod yn llai gelyniaethus at Ewrop yn ddiweddar, na bod Macron yn ffyrnig o’i phlaid.

Gan ddweud hynny, mae ganddo un anfantais a allai fod yn dyngedfennol – does ganddo fo ddim sail gadarn i’w gefnogaeth, yn wahanol i Fillon a Le Pen. Bydd unrhyw darfu ar ei fomentwm o bosib yn lladd ei gyfleoedd.


Casgliad

Mae cynifer o gwestiynau i’w hystyried wrth ddod i unrhyw gasgliad am beth allai ddigwydd yn Ffrainc. Pwy ydi’r ymgeisydd mwyaf poblogaidd fel unigolyn? Faint o bleidleisiau y gall Fillon eu dwyn oddi ar Le Pen, os o gwbl? Pa mor feddal ydi’r gefnogaeth i Macron? Ydi pleidleiswyr ar y chwith am droi ato i atal y ddau arall? Ac un ffactor difyr ydi François Bayrou – rhywun sy’n ei roi ei hun yng nghanol y sbectrwm gwleidyddol, er sy’n Gatholig pybyr, ac sy’n ymgeisydd cyson mewn etholiadau arlywyddol ond sydd heb ddatgan unrhyw fwriad i sefyll. Byddai ei gefnogaeth o i Fillon neu Macron yn gallu bod yn dyngedfennol, os yw’n ei rhoi.

Fy nheimlad i ydi hyn: mae Le Pen (os na ddigwydd ffactorau allanol) wedi colli ei chyfle a’i momentwm. Mae cefnogaeth Fillon yn ddigon cadarn ac yn annhebygol o ostwng mwy. Gall Macron ddenu pleidleisiau o du mwy o ffynonellau na nhw. Dwi’n meddwl y bydd yn llwyddo i wneud hynny, gan wynebu François Fillon yn yr ail rownd, gyda Le Pen yn colli allan ar y cyfle hwnnw o drwch blewyn.

Ond ddyweda i ddim mwy na hynny!