mercoledì, novembre 11, 2015

Etholiad UDA 2016 - Y fantais â'r Gweriniaethwyr

Fydda i’n cymryd diddordeb yng ngwleidyddiaeth mwy o wledydd na Chymru, er bod yn rhaid imi gyfaddef fod fy niddordeb yn ein gwleidyddiaeth ni, sy’n hynod o ddiflas ac yn llawn gwleidyddion didalent, yn anodd ei gynnal, ac mae BlogMenai wedi hen fonopoleiddio gwleidyddiaeth Iwerddon – sy’n iawn gen i achos does gen i fawr o ddiddordeb yn y Gwyddelod nac amser iddynt chwaith.

Ond dwi’n cadw llygad go fanwl ar wleidyddiaeth ambell wlad arall – Ffrainc, yr Eidal ac, wrth gwrs, yr Unol Daleithiau. O ran UDA, mae hyn am ei bod mor wahanol i’r math o wleidyddiaeth a gewch yn Ewrop ond mae hi’n wleidyddiaeth fywiog, ddifyr hefyd. Dwi ddim am fynd i drafod Democratiaid yn erbyn Gweriniaethwyr yn y blogiad hwn, mater arall ydi hwnnw, ond yn hytrach trafod y camsyniad cyffredinol sydd gan bobl, dwi’n meddwl, fod goriadau’r Tŷ Gwyn yn anochel fynd i un arall o dylwyth Clinton.

Y mae ymgeisyddiaeth Clinton yn gwbl sicr, ond mae gan y Gweriniaethwyr lond pentref o ymgeiswyr i ddewis ohonynt o hyd. Rŵan, er gwaetha’r ffaith fod y ddau sydd ar y blaen yn wallgof (er, dwi ddim yn argyhoeddedig fod Trump yn wallgof o gwbl, dwi wastad wedi teimlo mai licio corddi mae o ac nad oes ganddo fo fawr ddim ideoleg y mae’n ei dilyn – dwi bron yn meddwl ei fod o’n neud y cyfan am laff) a bod yr ymgeisydd ei hun am gael effaith ar y canlyniad, mae yna arwyddion y bydd pethau’n agos o hyd. O ran y polau cenedlaethol, yn gyffredinol mae’r gwahaniaeth rhwng Clinton a’r prif wrthwynebwyr Gweriniaethol (Trump, Carson, Rubio – er dwi’n ceisio edrych ar bawb fel ‘cyfanswm’ o ryw fath) yn fach. Yn y ddau bôl diweddaraf (RealClear a HuffPost) mae hi’n arwain ar gyfartaledd o 4% yn erbyn yr amryw Weriniaethwyr, ond yn erbyn TCR mae hynny’n llithro i 1.7% (yn wir, mae hi tu ôl i Carson yn y ddau). Ymhell o fewn yr hen margin of error.

Serch hynny, nid nifer y pleidleisiau sy’n bwysig yn y pen draw eithr pa daleithiau a enillir, i’r fath raddau bod y polau cenedlaethol yn eilradd i raddau wrth ddarogan buddugwr. I symleiddio’r system Americanaidd i’r rhai ohonoch nad ydych yn llwyr gyfarwydd â hi, i bob pwrpas mae “pwyntiau” wedi’u pennu i bob un o daleithiau UDA ac os wyt ti’n ennill y mwyaf o bleidleisiau mewn talaith ti’n mynd â’r holl bwyntiau ar gyfer y dalaith honno. Mae Califfornia, y fwyaf, yn werth 55 – gelli di ennill yno o un bleidlais un unig â mynd â’r 55 ‘pleidlais etholiadol’. Nid yw’n system gynrychioliadol mewn unrhyw ffordd. 

Ac o ganlyniad, fel yng Nghymru, llond dwrn o lefydd fydd yn penderfynu ar bwy sy’n fuddugol. Yn UDA mae yna lu o daleithiau sydd 90%+ yn sicr o bleidleisio fel a ganlyn...



Rŵan, fel y gwelwch o hynny, o ran y taleithiau cwbl sicr, mae gan y Democratiaid fantais fechan – rhain yw’r taleithiau, gyda llaw, lle na fydd yr ymgeisydd yn newid y canlyniad y tro hwn. Dyma Ferthyron Tudful America, fel petai.

Dau beth bach i’w nodi cyn bwrw ymlaen. Y cyntaf ydi, does dim disgwyl i’r Gweriniaethwyr golli unrhyw un o’r taleithiau a enillwyd ganddynt yn 2012 – dim un (North Carolina yw’r eithriad annhebygol, nid yw’n goch ar y map uchod o ganlyniad i agosrwydd y bleidlais yn 2012 – ond o gymryd y bydd yn aros yn driw iddynt yn 2016 rhydd hynny 206 o bleidleisiau etholiadol go bendant i’r Gweriniaethwyr – mantais i’r cochion felly). Ac er bod y polau’n awgrymu na wnaiff Clinton gystal ag y gwnaeth Obama yn 2012 (sydd fawr o syndod o ystyried y bydd UDA wedi cael 8 mlynedd o Arlywydd Democrataidd erbyn blwyddyn nesaf, a bod pob Arlywydd yn amhoblogaidd wedi’r cyfnod hwnnw bron yn ddieithriad) does dim awgrym hyd yma bod y polau i’r Gweriniaethwyr fawr gwell nag yn 2012; sy’n golygu nad oes sicrwydd sanctaidd y byddant yn cipio unrhyw un o’r taleithiau gleision. Serch hynny, mae’n anodd gweld y byddant yn segura i’r fath raddau.

Golyga hynny mai 11 talaith, gydag 78.5 miliwn o bobl yn byw ynddynt – lot llai na thraean o’r boblogaeth - sydd am benderfynu ar bwy fydd arweinydd gwlad bwysicaf y byd. Yn eironig bron, dyna faint poblogaeth Iran.

Rŵan mae rhai o’r rhain sy’n debygol o droi’n goch, ond mae cryn fynydd gan y Gweriniaethwyr i gipio ambell un arall fel Mecsico Newydd (angen gogwydd 5.1%). Er o graffu arnynt nid yw’r un yn amhosibl. Y peth pwysicaf i’w gofio ydi nad oes angen i’r Gweriniaethwyr gipio pob un o’r un dalaith ar ddeg hyn. Y rhain, ac eithrio ambell un sy’n llai tebygol o newid dwylo, yw’r swing states – a does angen ennill pob un ar y naill blaid i gipio’r Arlywyddiaeth.



I egluro’r dull o ddadansoddi sut y gallai pethau weithio allan dwi wedi, wrth gwrs, ystyried y polau cenedlaethol ond hefyd y polau fesul talaith. Yn rhai o’r rhai dydi’r wybodaeth ddim yn rhy ddiweddar ond mae’n bosib efallai drwy ddefnyddio patrymau cenedlaethol gael syniad o ba ffordd mae’r gwynt yn chwythu. Hefyd rhaid cofio mai Clinton fydd yr ymgeisydd i’r Democratiaid, ac er ei bod yn anos darogan pwy aiff â’r Gweriniaethwyr i faes y gad, erbyn hyn Trump, Carson a Rubio ydi’r ffefrynnau. Anodd gweld Bush yn llwyddo dringo’i ffordd yn ôl i mewn i’r ras; bet dyn call fyddai ar un o’i tri hyn.

Yn fras iawn, dyma dabl yn crynhoi’r sefyllfa o ran arolygon barn yn yr 11 talaith. Er fy mod i wedi ystyried hanes etholiadau arlywyddol, dyna’r unig etholiadau eraill dwi wedi’u hystyried – mae’r gyfatebiaeth yn UDA rhwng y mathau gwahanol o etholiadau’n wannach o lawer nag a geir yma. 

Cofiwch hefyd, y tro diwethaf, roedd pob un o’r isod yn daleithiau ‘glas’. Yr ail golofn ydi’r fantais Ddemocrataidd, a’r tabl olaf ydi sut dwi’n amau y byddai’r dalaith yn pleidleisio pe cynhelid etholiad heddiw. Sori ymlaen llaw am y ffaith fod y tabl yn rhy fawr i'r blog!  

 

Mecsico Newydd
10.2%
Dim data diweddar, ond awgrym cryf iawn o’r Democratiaid yn dal – gormod o fwlch i’r Gweriniaethwyr, ond gallai Rubio o bosibl fod yn ymgeisydd delfrydol i agosáu pethau yma. Bush yn fuddugol yma yn 2004.
DEM
Minnesota
7.7%
Gogwydd diweddar a phendant i’r Gweriniaethwyr – TCR oll yn curo Clinton (6% cyfartaledd) yn y polau, ond heb bleidleisio i’r Gweriniaethwyr ers Richard Nixon – anodd gweld y Democratiaid yn colli
DEM
Wisconsin
6.9%
Polau oll yn rhoi buddugoliaeth glir i Clinton dros unrhyw Weriniaethwr – cyson er nad yn gwbl gadarn i’r Democratiaid ers blynyddoedd
DEM
Nevada
6.7%
Bob pôl ers dros flwyddyn yn dangos Clinton ar y blaen i’r Gweriniaethwyr yn rhyfeddol o gyfforddus. Enillodd Bush yma ddwywaith.
DEM
Iowa
5.9%
Hynod agos. Gweriniaethwyr ond wedi ennill yma unwaith ers 1984, ond mantais fechan, gyson gan y prif Weriniaethwyr dros y Democratiaid yn ôl y polau.
GWE*
New Hampshire
5.6%
Arfer bod yn gadarnle od i’r Gweriniaethwyr yn y gogledd-ddwyrain, ond tueddu’n fwyfwy at y Democratiaid yn ddiweddar; mantais glir gan Clinton yn y polau diweddaraf.
DEM
Colorado
5.4%
Dim data diweddar, awgrym o ogwydd at y Gweriniaethwyr
GWE
Pennsylvania
5.4%
Agos iawn – ond mae’r gogwydd wedi symud o Clinton i unrhyw Weriniaethwr mewn polau diweddar. Tueddu i bleidleisio dros y Democratiaid yn ddiweddar ond nid o fwlch mawr ar y cyfan.
GWE*
Virgina
3.9%
Ar y cyfan polau’n awgrymu mai’r Gweriniaethwyr aiff â hi
GWE
Ohio
3.0%
Mantais i’r Gweriniaethwyr yn y polau, hanes o ogwyddo rhwng y ddwy blaid.
GWE
Fflorida
0.9%


Agos iawn a hanes o 20 mlynedd o fod yn hurt o agos – dim mantais bendant gan y naill ochr ond awgrym mai’r Gweriniaethwyr sy’n ei hymylu hi.
GWE*

*rhy agos i'w galw

Iawn, dwi wedi bod yn bach o gachwr gyda thri o’r uchod. Ond taswn i’n ychwanegu’r canlyniadau dwi’n amau uchod i’r map, fel hyn byddai pethau:



Rhaid ennill 270 o bleidleisiau etholiadol (pwyntiau!) i ennill yr etholiad Arlywyddol. Debyg gen i ar y funud, o’r 11 talaith sy’n nwylo’r Democratiaid ar hyn o bryd ac a fydd yn penderfynu ar y canlyniad, bydd y Gweriniaethwyr yn cipio 3 a 5 yn aros yn las. Ond wrth gwrs, mae hynny’n gadael y fantais nid â’r Democratiaid, ond y Gweriniaethwyr, waeth faint o bleidleisiau a gânt yn genedlaethol. Mae hyn yn rhoi’r Gweriniaethwyr mewn sefyllfa gadarn oherwydd petaent yn cipio Virginia ac Ohio (tebygol) ac yna Colorado ar ben hynny (sy’n gwbl realistig), ni fyddai angen iddynt ond ag ennill yn Fflorida i gipio’r Arlywyddiaeth. I bob pwrpas, ni fyddai buddugoliaethau ym Mhennsylvania ac Iowa, sy'n dalcenni caletach, ond yn fonws. Ar y llaw arall rhaid i Clinton ennill yn Fflorida a hefyd naill ai yn Iowa neu ym Mhennsylvania i ennill. Mae yna oblygiadau logistaidd ynghlwm wrth y fath ofynion strategaethol.

Rŵan, nid rhyw astudiaeth academaidd ddwys mo’r uchod o gwbl. Mae’r ffactorau sy’n rhaid eu hastudio mewn etholiad arlywyddol Americanaidd yn llawer gormod i un person eu dadansoddi (am ddim, beth bynnag). Mae’n nhw’n hurt o gymhleth, a dydi pobl yr ochr hon i’r cefnfor ddim bob amser yn ymwybodol ohonynt e.e. mae’r Gweriniaethwyr yn gallu gwneud yn dda iawn ymhlith pobl o dras Sbaenaidd, a thra bod Protestaniaid yn pleidleisio’n drwm o blaid y Gweriniaethwyr tuedda Catholigion i ddewis y Democratiaid, heb sôn am dueddiad pobl sy’n ystyried eu hunain yn ‘annibynnol’ i fwrw pleidlais dros y Gweriniaethwyr yn y pen draw. Ac eto, mae hynny heb i ni wybod eto’n sicr pwy fydd yr ymgeiswyr. Bydd y ras Weriniaethol ynddi’i hun yn werth ei gwylio.

Serch hynny, er gwaethaf y ffaith ein bod dan yr argraff yma mai’r Democratiaid sy’n codi yn UDA y dwthwn hwn, byddwn i’n awgrymu bod y fantais at flwyddyn nesaf yn nwylo’r Gweriniaethwyr, o bosibl waeth pwy fo’r ymgeisydd.


Mapiau wedi’u creu o wefan 270towin.com

Gwybodaeth polau o amryw ffynonellau Wikipedia (cenedlaethol a thaleithiol) a RealClearPolitics.com yn bennaf

lunedì, novembre 09, 2015

Cathod a Chŵn

O dwnim sut i deimlo weithia wir. Dwi’n flinedig ar y diawl heddiw a dweud y gwir i chi. Y ffycin gath ‘na oedd wrthi’n cwyno a mewian drwy’r nos neithiwr, isio mynd allan i’r gwynt a’r glaw. Tasa fo fyny imi, mi fyddwn i wedi’i lluchio hi allan a gadael iddi wlychu’n gorn, ond wneith Mam ddim gadael imi wneud hynny achos ma hi’n caru’r gath.

Dwi, ar y llaw arall, ddim yn caru cathod. Fedra i wneud efo cathod, ond o holl anifeiliaid y byd mae’n siŵr mai’r unig un dwi’n ei gasáu mewn difrif ydi cathod. Parasitiaid sosiopathig ydi cathod. A dweud y gwir, dwi’n rhyw feddwl bod perchenogion cathod yn rhywbeth tebyg. Wna i ddim cymryd neb yn dweud wrtha i fod cathod yn lyfli neu’n ddelfrydol, neu’r llinell ffiaidd gan faw isa’r domen, mae cathod yn well na chŵn. Da chwi, os ydych chi’n berson cathod, beidio â tharo sylw i’r blogiad hwn i’w hamddiffyn. Fydd y llid â’ch canlyn o’m cyfeiriad yn ddigon i ddifetha’ch meddwl gwyrdroëdig yn llwyr.

Deu’ gwir, mae ‘na gyfran go sylweddol o fy ffrindiau i sy’n ffafrio cathod dros gŵn. Y mae hyn yn peri cryn benbleth imi. Rhaid bod yn onest, mae ‘na rywbeth dwfn ynof sy ddim yn ymddiried yn neb y mae’n well ganddo gath na chi. Os mae yn wir yn well gennyt anifail sy’n ddigon hapus bwyta dy wyneb ar unwaith os digwydd i chdi farw’n y gadair ac sy’n ei wneud yn gwbl, gwbl amlwg nad wyt iddo’n ddim eithr ffynhonnell o fwyd a lloches dros greadur ffyddlon, hapus, cariadlon sydd, yn ôl gwyddoniaeth, yn deall teimladau ac ystumiau pobl o’r bron – wel, ti’m yn iawn. Dy haeddiant yw dy fywyd gwag, cathlawn. Boed i’th fyd dywyllu a’th rechfeydd fod yn dragwyddol wlyb a staenllyd.

Ond mae Football Manager wedi lawrlwytho ar y cyfrifiadur rŵan felly mae gen i rywbeth gwell i wneud na blogio. Wela’ i chi.

venerdì, novembre 06, 2015

Eryrod Pasteiog II: Mins

John Ogwen
Weithiau ceir ar Twitter sgyrsiau deallus – fel rheol pan fydda i’n sgwrsio ar Twitter – ac ni fu ddoe’n ofnadwy o wahanol yn hyn o beth. Ceisiaf addysgu pan gwyd yr angen. Mor ddifyr ydoedd clywed atgofion y diweddar John Ogwen (nid ‘diweddar’ yn yr ystyr ‘marw’ sydd gennyf dan sylw yma eithr y ffaith bod John Ogwen, fel ŷm oll, wedi bodoli’n ddiweddar a  hynny yw’r sefyllfa a bery) yn trafod ar raglen radio Siân Coffi, yn ei ffordd unigryw ddiansoddair ei hun, arfer y Cymry o ddefnyddio mins fel arian cyfred.
                                                                                                
I’r rhai sy’n amau hyn – pobl ifanc led-addysgedig bid siŵr; Cymry Caerdydd na wyddant ddim am gefn gwlad – fe’ch cyfeiriaf at hunanfywgraffiad y dyn ei hun, ‘Hogyn o Sling’ gan Wasg Gwynedd, a gyhoeddwyd yn wir fel jôc fewnol ar y dechrau, ond a aeth ymlaen i werthu nid llai na 12 copi, sef y llyfr Cymraeg mwyaf llwyddiannus erioed ac eithrio’r Beibl ac ‘Hanas Gwanas’ gan Fethan Gwanas, sy’n adrodd bywyd y ddarlledwraig ffwrdd-â-hi ar ffurf llyfr lliwio.  

Bethan Gwanas yn darllen ei hunanfywgraffiad, yn llawn direidi
 
Ta waeth, rwy’n ymhelaethu gormod. Cofia John Ogwen â phob rhych ar ei wyneb yr arfer o ddefnyddio mins i dalu am bethau. Ar dudalen 74, egyr Bennod 7 gyda “Gellid cael, wrth lwc, am hanner pwys o fins datws newydd, powdr golchi a thafell drwchus o gaws, ond âi pethau’n gymhleth â phwrcasiad ‘mins-am-fins’ lle cyfnewidid – megis yr ensynnir -  mins am fins”. Ni chawn eglurhad mwy cynhwysfawr gan mai dyna Bennod 7 yn ei chyfanrwydd, sef y bennod fyrraf o gryn dipyn.

Cyd-ddigwyddiad oedd i sgwrs arall godi ar bwnc Noson Tân Gwyllt yr un diwrnod, a hefyd inni droi’n ôl at berlau John Ogwen i’n haddysgu am hen oes. Ar dudalennau 62-4 sonia am ‘Noson Mins’ a gynhelid yn Nyffryn Ogwen yn hytrach na thân gwyllt; hwythau’n bethau prin wedi’r rhyfel, ond y mins oedd gyforiog. Clymid felly fins i roced gartref a’i thanio, gan greu effaith nad annhebyg i dân gwyllt go iawn. ‘Mins awyr’ y’i gelwid gan lanciau’r pentref, ond byddai’r hen do’n defnyddio’r ffurf draddodiadol, ‘yr wybren gig’. Arferid dal y cig yn y geg wrth iddo syrthio o’r awyr a byddai cnoi mawr hyd yr oriau mân.

Newidiodd y sgwrs Dwityraidd fymryn, ac atodaf yma ddolen iddi. Fe’m cyfeiriwyd gan ‘Siân Gryffudd’ (nid wyf yn un i beidio â rhoddi fy ffynonellau neu gyflawni llên ladrad) at ganu Aneirin am hanes briwgigoedd cyntaf y Cymry o’r 6ed ganrif – ‘Knouent vrechdan vruwgig o lid llawryt’. Wrth gwrs bu’n rhaid imi egluro iddi’n ddiamynedd braidd bod ystyr ‘briwgig’ wedi hen newid ers y 6ed ganrif.

Grensiawg ei uedd, kyg da droellaw

Brython tross dân, Lloegyr kenfygennaw,

Enaid Owain ab Urien.

Agryma’r uchod, sydd o ganu Aneirin hefyd, ond y cyfeiriodd John Ogwen ato yn ei lyfr mawreddog Hogyn o Sling (t. 88) – sydd ar y cyfan yn gasgliad helaeth ond hirwyntog braidd o straeon sy’n ymwneud â mins yn hytrach na bywgraffiad – mai ffurf ar facwn oedd ‘briwgig’. Os hynny.

Llyfryddiaeth:
‘Hogyn o Sling’, John Ogwen, Gwasg Gwynedd.