lunedì, maggio 14, 2018

Gamwn


Y mae’n rhyfedd imi y dyddiau hyn deimlo bod angen imi fwrw bol dros rywbeth gwleidyddol ar ffurf blog. Dwi dal yn greadur annatod wleidyddol ei anian; ond yn un sydd wedi’i ddadrithio gan wleidyddiaeth pleidiau, gyda hynny wedi treiddio i raddau i’m holl sbectol wleidyddol ar y byd. Dwi heb fawr o otsh ddim mwy. Dydw i ddim yn hoffi byw mewn gwlad sydd wedi’i pholareiddio megis; ceidwadaeth ddiangen ddideimlad ac atgas, y dde bell yn hawlio rhyddid barn, a’r chwith yn bloeddio rhyddfrydaeth gan ei hanffurfio a’i gwyro i’w safbwyntiau eu hunain. Aros a Gadael. De a Gogledd. Anffyddwyr a’r ffyddiog. Label i bawb a phawb isio label. Pob leffti’n snowflake a phawb sy’n anghytuno â’r chwith yn ffasgydd. Yr unig bolareiddio sydd ei hangen ar ein gwlad – Cymreictod a Phrydeindod – yn fudan a minnau yng nghanol hyn oll yn meddwl bod pawb arall yn ffycwits.

A neb yn dysgu o’r cyfan. Dyna sydd efallai’n corddi fi. ‘Sneb yn dysgu o ddim. Dwi’n ddigon hapus i bobl dwi’n anghytuno â nhw beidio â dysgu gwersi, mae’n haws naddu arnynt wedyn, ond pan fo pobl dwi’n cytuno â nhw’n peidio â dysgu mae ‘na rwystredigaeth ddofn, anobeithiol yn dyfod drosof.

Paham mai gamwn a’m gwylltiodd heddiw? I’r rhan fwyaf o bobl mae honno’n frawddeg y gallen nhw ddweud na feddylient y byddent yn ei hysgrifennu fyth. I fi, roedd hi’n fater o amser.

Y term sarhaus gammon sy gen i dan sylw. Os dydych chi ddim yn gwybod beth mae’n ei olygu, dyma ddisgrifiad Urban Dictionary ohono, ond yn fras mae’n cyfeirio at ddynion hŷn (moel a thatŵiog yn aml) o fryd Brexit; rhagfarnllyd, ia, ond hefyd ddi-addysg a dosbarth gweithiol.

Dydw i ddim yn rhannu safbwyntiau’r bobl hyn, felly pam fod hynny’n fy ngwylltio? Mae amryw resymau, ond yr un sylfaenol dwi’n meddwl ydi gan bwy y daw’r term ac at bwy y mae’n ei gyfeirio. Term ydi o gan bobl ddinesig, dosbarth canol, siwdoryddfrydol (mae’r defnydd o siwdo yma’n flog ynddo’i hun, ond yn ddefnydd bwriadol), yn aml gyfforddus eu byd, efallai’n iau sy’n gryf o blaid aros yn yr UE – pobl dwi’n amlach na pheidio’n uniaethu’n â nhw ar lefel wleidyddol, ond yn llai ar lefel bersonol. Maen nhw’n defnyddio’r term i gyfeirio i bob pwrpas at y dosbarth gweithiol (neu, o leiaf, wrth ei ddefnyddio bob tro’n cyfeirio at bobl sy’n digwydd bod yn ddosbarth gweithiol): y dosbarth ŷm magwyd ynddo, yn rhannu llawer o’i agweddau ar fywyd ac yr ydw i’n uniaethu ag ef ar lefel bersonol mewn ffordd na alla i â’r dosbarth canol – a chyfeirio ato’n ddilornus. Dydi gammon ddim yn foi canol oed dosbarth canol sy’n rheolwr llinell i hanner dwsin o bobl ac yn dreifio Audi bum mlwydd oed. Y bobl ar y gwaelod ydi’r rhain, ond fy mhobol i ydyn nhw. Fy hunaniaeth, nid fy ngwleidyddiaeth i, sy’n llwythol; sydd ynddo’i hun yn un gwahaniaeth sylfaenol rhwng y dosbarth gweithiol a’r dosbarth canol.

Mynegais i cyn y refferendwm (sy’n gefndir i fy meddylfryd yma, y gallwch ei ddarllen yma os oes gennych chi awr sbâr) y credais yr oedd yr agwedd uchelael, sarhaus, ddiystyriol hon at bobl dosbarth gweithiol, sydd wedi bod yn datblygu’n araf ers ryw ugain mlynedd, am arwain at golli’r refferendwm. Trafodais agweddau at faterion cymdeithasol ac economaidd ond yn y bôn awgrymais taw’r agwedd uchod oedd un o’r prif resymau y gallai Brexit ddigwydd. Wna i ddim ailadrodd popeth yma, ond dwi’n mynd i awgrymu y’m cyfiawnhawyd gan ddemograffeg y canlyniad.

Oherwydd hynny, dwi ddim yn rhannu’r dicter a’r dirmyg sydd gan gynifer o bobl Aros at y bobl bleidleisiodd o blaid gadael. Dwi’n flin am lot o bethau – dwi’n flin am golli’r refferendwm, dwi’n flin does dim am ddod o’r ffaith i’r ymgyrch Gadael gelwydda a thwyllo’n ariannol, dwi’n flin am ragrith rhai o’r prif leisiau dros Adael, a’u hunan-fudd ynddo a’u hamharodrwydd i ddelio â sefyllfa y crëon nhw. Er, dwi hefyd yn flin am i’r ymgyrch Aros gynnal ymgyrch gwbl bathetig eu hunain, ac am i lawer o ladmeryddion cryfaf Aros fod yn gyfrifol at greu’r hinsawdd wleidyddol arweiniodd at hyn yn y lle cyntaf drwy eu hymdriniaeth dros flynyddoedd lawer o’r bobl bleidleisiodd dros Adael.

Eu ffroenucheldra maith nhw arweiniodd at sbeit y bleidlais i Adael; sylwer eironi un o ystyron y gair gammon yn y cyd-destun hwnnw.
 

Er, dydw i ddim yn flin â phobl bleidleisiodd i adael achos dwi ddim yn coelio bod eu rhesymau dros eisiau gadael yn ddi-sail nac yn ddi-werth – dydi hyd yn oed barn stiwpid ddim yn farn annilys. A chas gen i’r dôn gron bathetig gan bobl f’oedran i ac iau am ddwyn ein dyfodol gennym; nid am nad oes elfen o wirionedd i hynny ond mi wn i’n iawn pan y bydda i neu chi’n hŷn pleidleisio dros yr hyn dwi’n ei gredu a wnaf i, ddim pleidleisio i blesio pobl eraill waeth pwy ydyn nhw.

Ond yn ôl at y gamwn. Iawn, mae o’n derm dilornus a sarhaus – a fawr otsh gen i am hynny – ond mae’n hynny at grŵp o bobl (fel y dywedais, yn aml dosbarth gweithiol, cymdeithasol geidwadol a di-addysg) sydd wedi’u dilorni cyhyd gan grŵp arall (dosbarth canol, rhyddfrydol-chwith, addysgiedig) nes eu bod wedi’u suro’n llwyr. Y cyfan mae’r gammon yn ei wneud ydi:

1. Atgynferthu ffroenucheldra dosbarth canol at y dosbarth gweithiol a wnaeth gyfraniad helaeth at golli’r refferendwm yn y lle cyntaf

2. Caledu agweddau Brexit nifer yn y dosbarth hwnnw.

A’r peth rhwystredig ydi nad ydi pobl yn gweld hynny. Dim newid tacteg. Dim argyhoeddi ar lefel ddealladwy y gall pobl uniaethu â hi. Y mae’r traddodiad o ddilorni barn pobl isaf cymdeithas yn rhy sefydledig, i’r graddau y mae baw isa’r domen y llywodraeth Geidwadol hon yn gallu defnyddio’r dirmyg hwnnw i guddio’u dirmyg a’u drwgweithredu eu hunain atynt.

Ac am yr union resymau hynny, petai rywsut, rywfodd, ail refferendwm, byddai’r canlyniad bron yn union yr un peth. Blog yr Hogyn o Rachub 14 Mehefin 2018; fi ddywedodd gyntaf chwi gofiwch. Y drasiedi ydi, er bod pobl o’r ddwy ochr na fyddai byth yn newid pleidlais petai ail refferendwm, mae lliawns yn y canol a allai wneud hynny, ond sydd ddim am wneud oherwydd safon ein disgwrs a’n dadl wleidyddol.

Ond dydw i ddim yn siŵr beth a’m hysgogodd i ysgrifennu’r uchod. Yn y bôn, er fy mod i wedi hen ddysgu’n wleidyddol fod dy ddiffinio dy hun yn ddogmatig yn dwp, dwi’n ochri efo’r ochr ryddfrydol, econonomaidd-chwith i bethau, a dal yn gryf o blaid Aros. Ac efallai fy mod innau wedi suro am fy mod i’n disgwyl i bobl o fryd tebyg fod yn gallach eu disgwrs yn lle efelychu’r ochr draw, ac yn ofer ddisgwyl iddynt ddysgu gwersi am pam ein bod ni yn lle’r ydym ni’n awr.