giovedì, novembre 28, 2019

Darogan 2019: Y drydedd set


ARFON

Mwyafrif: 92 (0.3%)

Mae’n deg dweud y cafodd Plaid Cymru gryn sioc yma y tro diwethaf, gan laesu dwylo wrth i’r bleidlais Lafur gynyddu gan dros 10% i ddod o fewn trwch blewyn i gipio’r sedd. Roedd yn ganlyniad na ragwelsai unrhyw un.

Go brin y bydd Plaid Cymru’r un mor ddi-hid y tro hwn. Y cwestiwn ydi faint yn fwy o bleidleisiau Llafur sydd yma mewn gwirionedd, a hefyd i bwy fydd y 648 bleidleisiodd i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd amdani (Llafur mi dybiaf).

Gallai presenoldeb plaid Brexit yma’r tro hwn effeithio ar y canlyniad yn fawr – mi fyddwn i’n reddfol meddwl y bydd yn denu mwy o Lafurwyr nag o Bleidwyr ond gallai dynnu pleidleisio oddi ar y ddwy.

Plaid Cymru’n cadw

 

CEREDIGION

Mwyafrif: 104 (0.3%)

Y syndod mwyaf i mi yn yr etholiad hwn ydi cyn lleied o sôn sydd wedi bod am Geredigion, a dwi’n tybio bod hynny’n deillio o ansicrwydd o bob tu ynghylch beth allai ddigwydd yma.

Bydd chwe phlaid yn sefyll: PC, DRh, Llaf, Ceid, BP a’r Gwyrddion. Yr unig sicrwydd ydi y bydd y blaid Brexit yn ennill pleidleisiau oddi ar y lleill. Mi fyddwn i’n dyfalu y daw mwy gan Lafur a’r Ceidwadwyr na gan y ddwy brif blaid yn yr etholaeth hon, ond y dygai fwy gan y DRh na Phlaid Cymru. Mae’n wir dweud hefyd fod y wasgfa i’r Democratiaid Rhyddfrydol bosib am effeithio ar eu cyfleoedd nhw i ail-gipio’r sedd. Serch hynny, dwi’n rhagweld cwymp mawr yn y bleidlais Lafur yma y tro hwn, a fydd yn dyngedfennol. Alla i ddim dweud â sicrwydd i ba gyfeiriad aiff y bleidlais honno.

Efallai’r ffactor mwyaf ydi’r ymgeiswyr, Ben Lake yr AS cyfredol yn erbyn y cyn-AS Mark Williams. Dydi pobl ddim yn or-hoff o wleidyddion sy’n ceisio gwneud come-back, yn enwedig mewn seddi yr arferent eu cynrychioli (mae digon o enghreifftiau o hyn i'w cael), ac efallai y gwelwn hynny yma.

Mae gen i deimlad y bydd hon yn agos. Efallai nad ydi’r wasgfa genedlaethol ar y DRh am gael gormod o effaith yma, ond mae’n annhebyg na chaiff effaith o gwbl - efallai jyst digon.

Plaid Cymru’n cadw

 

GORLLEWIN CAERDYDD

Mwyafrif: 12,551 (26.9%)

Yn wahanol i etholiadau Cynulliad a chyngor yn yr ardal, canlyniad parchus y bydd Plaid Cymru’n dyheu amdano yma. Mi fûm i’n yr etholaeth ond ddoe ac mae llu o ddeunydd Llafur i’w gweld yno. Hon oedd yr unig ran o Gaerdydd bleidleisiodd i adael yr UE yn 2016 ac felly mae’n dir ffrwythlon i’r BP, ond go brin yn ddigon i wirioneddol ddifrodi’r mwyafrif Llafur enfawr.

Llafur yn cadw

 

PONTYPRIDD

Mwyafrif: 11,448 (28.7%)

Y sedd mwyaf randym, o bosib, lle mae’r pact PC-Drh-G ar waith, mae ‘na gyfle y caiff y pact hwnnw (PC sy’n sefyll ar ei ran) ganlyniad parchus, ond mae’n bur debyg y bydd Pontypridd yn un o llond dwrn da o seddi yn ne Cymru lle daw’r BP yn ail. Mae hefyd dri ymgeisydd annibynnol yn sefyll y tro hwn a daeth y Ceidwadwyr yn ail cyfforddus tro diwethaf. Jobyn eithaf hawdd i olynydd Owen Smith.

Llafur yn cadw

 

BLAENAU GWENT

Mwyafrif: 11,907 (36.8%)

Er i Blaid Cymru bron ag ennill y sedd yn etholiad cynulliad 2016 a dod yn ail parchus iawn yn 2017 dwi’n darogan y bydd Blaenau Gwent yn un o nifer o seddi lle bydd pleidlais y Blaid yn gostwng yn sylweddol eleni wrth i’r polau gynyddol bolareiddio.

Bydd Llafur yn cadw Blaenau Gwent yn hawdd – ond mi wnaf i fentro darogan un peth – ym Mlaenau Gwent y caiff Plaid Brexit ei chyfran uchaf o’r bleidlais yng Nghymru.

Llafur yn cadw

 

ABERAFAN

Mwyafrif: 16,761 (50.4%)

Roedd mwyafrif Stephen Kinnock y tro diwethaf ymhlith y rhai mwyaf yng Nghymru a does yna lawer i’w ddweud am yr etholaeth ond am y bydd yn ei ddychwelyd i San Steffan. Ond fel ym Mlaenau Gwent uchod, cadwch lygad ar faint pleidlais y blaid Brexit yma, gallai fod yn sylweddol.

Llafur yn cadw

 

DWYRAIN CASNEWYDD

Mwyafrif: 8,003 (21.7%)

Ers creu’r sedd hon ym 1983 mae hi wedi bod yn sedd ddibynadwy i Lafur, hyd yn oed os ydi’r mwyafrifau weithiau wedi bod yn dynn. Nid felly yr oedd hi’r tro diwethaf ac mi fydd presenoldeb y BP yn sicrhau y bydd Llafur yn ei chadw, gan ddwyn pleidleisiau Ceidwadol yn ogystal â rhai Llafur.

Llafur yn cadw

 

TORFAEN

Mwyafrif: 10,240 (26.6%)

Dydi Torfaen ddim yn sedd sy’n cael llawer o sylw yn draddodiadol am ei bod yn pleidleisio’r drwm dros Lafur. Ond aeth hi dan y radar braidd yn 2017, wrth i’r Ceidwadwyr ennill 31.0% o’r bleidlais. Oni fyddai am bresenoldeb Plaid Brexit, byddwn i’n meddwl y gallai Torfaen fod yn sedd annisgwyl i gadw llygad arni.

Ond, er fy mod i’n ailadrodd hyn, bydd BP yn sicrhau na ddaw’r Ceidwadwyr yn agos ati y tro hwn. Disgwylier cwymp mawr yn eu cyfran nhw o’r bleidlais, yn ogystal â chyfran y blaid Lafur.

Llafur yn cadw

Nessun commento: