giovedì, maggio 25, 2006

Degawd

Mae blwyddyn yma'n ddegawd im, degawd ers imi ddechrau ysgrifennu dyddiadur. Oni'n meddwl y byddai'n ddiddorol rhannu deng mlynedd diwethaf fy mywyd gyda chi! Be wnes i ar Fai 25ain bob diwrnod ers ddegawd?

  • 1996: Eshi i car-boot sale yn rhywle
  • 1997: Y tro cyntaf erioed imi fod mewn awyren. Eshi ar un o'r pleasure flights 'na o Ddinas Dinlle o amgylch Yr Wyddfa. Cofio'n iawn!
  • 1998: Ges i lasania i de ym Menllech
  • 1999: Mynd i ffarm Sion a chwarae gemau golff ar y cyfrifiadur. A mi ges i wers biano.
  • 2000: Oni ar brofiad gwaith yn Swyddfa Plaid Cymru Caernarfon, a chael cinio gyda Yncl Owie ac Anti Betty. Gwelais i 'Gladiator' yn nos efo Rita a dwy o'i ffrindiau nad oedden nhw'n deall y ffilm o gwbl a dyma nhw'n chwerthin drwyddi.
  • 2001: Neud pethau drwg yn ystod adeg yr etholiad. Gwell imi beidio dweud!
  • 2002: Cael diwrnod diflas yn lle Nain.
  • 2003: Oni'n siarad efo'm ffrind o Reading ar headphones dros y we, a roedd fy nghlustiau'n lladd.
  • 2004: Cefais arholiad
  • 2005: Ennillodd Lerpwl Cynghrair y Pencampwyr a doeddwn i'm yn meddwl y byddwn i'n 'pasio arholiad fory'. Anghywir oeddwn.

Aaaah! Dw i mor falch dw i'n cadw dyddiadur i weld gwir ddibwyntrwydd fy mywyd yn ei gyflawnder. A, gyda llaw, mae Dyfed yn siarad efo fi ar MSN a'n dweud bod o isho mensh ar y blog. Lwsar trahaus.

2 commenti:

Anonimo ha detto...

10 blynadd llawn o shit!!!! Hobbit or shire!!!! Surely sa chdi gallu meddwl am wbath gwell i neud efo dy amsar.

Hogyn o Rachub ha detto...

A thithau pethau gwell na tecstio fewn am ganeuon gwirion o Radio Cymru, DYFED.