giovedì, febbraio 15, 2007

Gwaethygiad

Huw Chiswell yw fy amddiffynnwr mawr. Wir. Mae ei CD yn gorchuddio’r cloc larwm fel nad ydw i’n edrych ar yr amser gyda’r nos. Yn gwely dw i eto heddiw; ond dw i’n teimlo ychydig bach yn waeth, mae fy mol yn dechrau brifo a bai Ellen ‘di hynny achos mae ganddi hi boen bol ac mae hi wedi fy heintio. Y gnawes anufudd. Ond mae hi’n gwaith, dydw i ddim.

Dw i’m yn licio deud hyn ond pan ddaw at salwch mae gan enethod ddyfalbarhad llawer cadarnach na ni hogia. Dydw i ddim yn hollol sicr paham, oni bai pan ddaw at ben mawr ar fore Sul, ac wedyn mae hogan yn edrych fel ei bod yn dioddef. Ond dim ots; ni yw’r cadarnaf ryw felly mae’n siŵr mai dyna pam ein bod ni’n cael ein taro lawr efo waeth bethau. Beichiogrwydd? Triwch eillio bob diwrnod. Neu, yn fy achos i, peidiwch.

1 commento:

Anonimo ha detto...

Mae gan ellen boen yn bol ers tri diwrnod, a mai'n gwaith BOB dydd - man flu - stim byd gwath. Se tn stopo timlo'n sori dros dinan, falle fydde tn gallu llusgo dy hun o'r gwely ac off bebo/msn/maes e a rhoi spring cleanad fach i'r ty cyn i haydn a f ddod nol heno.....