lunedì, luglio 09, 2007

Y Frechdan Deimladol

Mae sawl ymadrodd gwych ym meddiant yr iaith Gymraeg; mae mynd dros ben llestri, oes pys a gwneud môr a mynydd o rywbeth yn enghreifftiau o’r rhain, ac yn rhai dw i’n eu defnyddio yn naturiol iawn. ‘Sdim gwell nac ymadroddion naturiol, ond mae un gwell sydd rywfaint yn fwy aneglur, sef;

“Dw i’n teimlo fatha brechdan”

Rŵan, does neb dw i’n eu hadnabod yn dweud hyn, a phan dw i wedi eu dweud maen nhw’n edrych arna’ i’n wirion, sy’n gwneud i mi feddwl fy mod wedi bathu’r ymadrodd neu rywbeth (dw i’n SIŴR dw i heb). Ond pa beth yw teimlo fel brechdan?

Teimlad ôl-hangover, dw i’n meddwl. Fe wyddoch yn iawn, pan nad oes bellach na chur pen na phoen bol, ond teimlad diegni, dwl, sydd fel arfer yn para tan ddydd Llun yn y gwaith ac yn cael ei waredu gyda’r nos wrth i chi gael cwsg da.

Dw i’m yn siŵr beth ydi teimlo fel brechdan dim ond y bydda’ i’n teimlo felly ar ddydd Llun. Oes rhywun arall?

2 commenti:

Anonimo ha detto...

Cadach llawr bydda i'n ei ddefnyddio ac yn wir, dwi'n teimlo fel cadach llawr rwan!

Linda ha detto...

Ddim yn ei ddefnyddio gymaint rwan , ond dwi'n gyfarwydd efo'r ymadrodd HOR :) I mi , mae'n deimlad o flinder ofnadwy ar ôl gweithio'n galed . Ella ei fod o'n ymadrodd lleol...'roedd gen i deulu yn byw yn Rachub !