mercoledì, settembre 12, 2007

Ffish Pai

Helo, alla’ i ddim siarad yn hir efo chi. Dim ond nodyn sydyn ydyw i ddweud bod fi am drio gwneud ffish pai heno a gweld sut eith hi (er fy mod i jyst yn cael ffish heno, a caserol ‘fory – mi geith fynd i’r ffrij) ond dw i’m yn rili siŵr sut i wneud toes. Wel, dw i yn, ond dw i’m yn siwr os bydd yn does cywir, achos mae sawl math o does yn y byd.

Rwy’n amgyffred nad oedd fawr o bwynt i mi ‘sgwennu hyn.

3 commenti:

Anonimo ha detto...

Pa fath o ffish? Ma'r syspens yn fy lladd i ;-)

Cer i Grafu ha detto...

Toes yw toes ond fel mae Ordivicius yn awgrymu - mae'na lot o ffycin ffish yn y byd, felly pa fath o ffish wyt ti ei roi yn y ffish pei? Mae'r syspens yn ein lladd ni i gyd :-)

Anonimo ha detto...

Dio'm fath o ots gen i pa fath o sgodyn oedd o, er dwi'n siomedig nes di ddim defnyddio'r pysgodyn siapaneiaidd na sy'n gallu gwenwyno a lladd pobl. Awgrymaf y dylet ti ei defnyddio y tro nesa!