martedì, novembre 06, 2007

Cymry'n debycach i'r Saeson na'r Gwyddelod?

Gan fod fy mywyd yn ddifflach a’r un mor ddoniol â chyfuniad o lewcemia a hangover ar y funud dw i’n mentro nôl i’r sffêr lled-wleidyddol am ennyd. Mae ‘na ddadl ar Faes E (fel arfer) am ddyfodol S4C. Duw ag ŵyr, ni allaf gyfrannu’n fawr at hynny, ond am ddatgan yn groch y byddai S4C ddwyieithog yn syniad ffôl ac yn gyfaddawd yn ormod i’r Cymry Cymraeg. Mae’n fy rhyfeddu yn ddi-ffael sut y mae Chris Bryant a’i fath yn hoffi anwybyddu’r ffaith fod dwyieithrwydd cymaint, os nad yn fwy, o gyfaddawd i ni. Ond ta waeth, nid dyna’r ddadl.

Y tebygolrwydd rhwng y Cymry a’r Saeson a’r Albanwyr a’r Gwyddelod sy’n mynd â fy mryd. Fe honnir yn yr edefyn bod y rhan fwyaf o’r Cymry yn debycach i’r Saeson nac ydyn nhw i’r Albanwyr a’r Gwyddelod. Mi ysgrifennais yma ryw ddeufis yn ôl am y gwahaniaethau rhwng y Cymry Cymraeg a’r Cymry di-Gymraeg, a dod i’r casgliad fy mod i, fel Cymro Cymraeg, yn wahanol iawn i’r di-Gymraeg: mae’n rhaid felly fy mod yn wahanol iawn i Sais!

Ond oni bai am y diwylliant yfed sy’n diffinio’r Celtiaid i raddau helaeth (ac i’r mwyafrif o’r Celtiaid nid myth mohono) mae’n anodd dod o hyd i wahaniaeth nid yn unig rhwng y Cymry a’r Saeson, ond rhwng y Saeson a gweddill yr Ynysoedd. Wedi’r cyfan, dydi Albanwyr ddim i gyd yn bwyta hagis ac yn gwisgo ciltiau, na’r Gwyddelod oll yn yfed Guinness ac yn canu Fields of Athenry. Felly, dywedwch wrthyf, pa wahaniaethau gwirioneddol sylfaenol sydd rhwng y Gwyddelod a’r Albanwyr yn erbyn y Saeson?

Mae Cymru gyda gwahaniaethau sylfaenol i Loegr: gellir canu’r diwn gron am ddiwylliant ac iaith, ond er bod hynny’n ddadl sy’n cael ei gorddefnyddio ac nad ydyw’n cymhwyso’r rhan fwyaf o’r Cymry, mae’n ddadl gwbl wir sy’n dal dŵr, ac yn gwahaniaethu cannoedd o filoedd o Gymry o’r Saeson (i raddau llawer mwy na’r Alban ac Iwerddon). Mae tueddiadau gwleidyddol Cymru yn wahanol iawn i rai Lloegr. Mae’r ymdeimlad y gymuned yn parhau yn gryfach yng Nghymru na’r unman arall yn Ynysoedd Prydain; hyd yn oed ar y meysydd chwaraeon y tîm rygbi cenedlaethol, nid y tîm pêl-droed, sy’n ennyn yr angerdd fwyaf yng Nghymru (p’un yw’r fwyaf poblogaidd ar lawr gwlad, cwestiwn arall yw hwnnw). Ac mae’r traddodiadau barddol a chanu, sy’n torri ffiniau ieithyddol yng Nghymru, yn sicr yn debycach i Iwerddon na Lloegr.

Beth dw i’n ceisio’i ddweud ydi hyn: nid syniad ffug mo’r Celtiaid, ond ni ellir chwaith gwahaniaethu’n helaeth rhyngddynt hwy a’r Saeson. Dydi’r Cymry ddim “yn debycach” i’r Saeson na’r Albanwyr. Peidiwn chwaith â meddwl ein bod: un o wendidau tragwyddol y Cymry ydi meddwl hynny. Rydym ni yn Geltiaid, yn yr ysbryd, drwy ddiwylliant, drwy iaith a thrwy waed, hyd yn oed. Derbyniwch hynny – un o wendidau’r Saeson ydi na allant! (Er, os mai un o wendidau’r Cymry ydi na allant chwaith, efallai ein bod yn debyg iawn wedi’r cyfan!)

2 commenti:

Rhys Wynne ha detto...

Roedd ymateb un neu ddau ar faes-e tuag at y Wyddeleg yn rhyfeddol o deygol i ymateb (an-oddefgar) rhai Cymry di-Gymraeg at yr iaith Gymraeg

Unknown ha detto...

Dwi byth yn gwybod pobl yn dal i gael pwerau a gwneud i bethau ddigwydd fel hyn. Yr wyf o Dywed Unedig, mae fy ngŵr Henry Scot fy ngadael ar gyfer merch arall am 2 flynedd, byth ers hynny fy mywyd wedi cael eu llenwi gyda phoenau tristwch a seibiant galon oherwydd fi oedd ddwy ferch a mab iddo, Roedd ffrind i mi Stephanie dweud mi gwelodd rhai tystiolaethau o hyn Meddygon mawr gyswllt (druwagbale@gmail.com) ei wefan (www.uwagbale.simplesite.com) ei fod yn gallu dod â fy ngŵr yn ôl i mi o fewn rhai ychydig ddyddiau a fi chwerthin a dywedodd nad fi am diddordeb ond oherwydd y cariad oedd fy ffrind i mi, hi ymgynghorwyd yr offeiriad mawr ar fy rhan, ac i fy syndod mwyaf ar ôl tri diwrnod fy ngŵr galw arnaf am y tro cyntaf erioed ar ôl 2 flynedd ei fod ar goll mi a'i fod mor 'n chwith achos bopeth a wnaeth i mi fynd trwyddynt. ff yn dal i fethu credu ei fod, oherwydd ei fod yn anghredadwy iawn, 'i jyst yn rhy gwirioneddol i fod yn real. Diolch i chi am ddod Dr.UWAGBALE yn ôl fy ngŵr a hefyd i fy ffrind hyfryd STEPHANIE sy'n ymbil ar fy rhan, i unrhyw un a allai fod angen cymorth hwn offeiriad mawr yma yw'r cyfeiriad e-bost: (druwagbale@gmail.com) ei wefan ( www.uwagbale.simplesite.com) safbwyntiau a darllenwyr diolch, felly fi dymuno pob llwyddiant i chi