martedì, marzo 11, 2008

Natur Cymru

Fel y gwyddoch, oni bai eich bod yn newydd yma (yn yr achos hwn dylech ddarllen y pedair blynedd a hanner o gofnodion sydd i’r flog hon i ddal fyny, achos dw i’m am ailadrodd popeth rŵan myn uffarn), dw i’n hoffi bwyd, dw i’n hoffi cwrw a dw i’n hoffi synfyfyrio. O’r rhai, cwrw ydi’r hoffaf, ac yna bwyd, gyda synfyfyrio yn rhywbeth i’w wneud gyda chyfuniad o’r uchod.

Mi wnes, wedi’r cwbl, cael noson arferol neithiwr, yn gwylio rhaglen ddogfen ar fyd natur a chyfnewid sarhadau â Dyfed Flewfran (e.e. TI’N FINC, Chdi di gê y gors, Chdi a Lowri Dwd yn Clwb Ifor a.y.y.b.). Do, fel y dywedais, gwylio Natur Cymru fu fy hanes, a mwynhau. Doeddwn i’m yn gwybod bod y llysywen bendoll yn nofio drwy afonydd Cymru, er na fydd y wybodaeth hon o ddefnydd ymarferol imi yn y dyfodol, oni ffafriaf lysywen bendoll i’m te rhywbryd, neu y caf dröedigaeth rywiol ryfedd (neu ryfeddach na’r un gyfredol, ond nid lle ydyw blog i drafod honno).

Deuthum at sawl casgliad yn ystod y rhaglen. Y cyntaf ydyw bod angen jiráffs ar Gymru. Yn ail, mae gwas y neidr yn cŵl. Yn drydydd mae angen i Iolo Williams newid ei grys yn amlach, neu brynu mwy, achos roedd o ym mhedwar ban Cymru mewn un glas neithiwr. Yn bedwerydd, ni ddylid ceisio atal llyffantod rhag cael rhyw. Yn bumed dw i ‘di cofio bod cri alarch yn gyrru ias lawr fy nghefn.

Roeddwn innau a Dyfed yn arfer, pan gefais yr anfri o fyw gydag o, yn hoff o ddyfeisio anifeiliaid. Cofnodir hwynt yma am byth rŵan: y blewfran, y mochyn cwpan, y chwadan borffor, yr afiachbry, y fuwch bustl, y mwydyn mwstas (un diweddar ond mi a’i hawliaf), y cachgranc.

Dw i’m yn cofio’r lleill. Roedd yn flwyddyn ddiffrwyth, mae’n rhaid.

Nessun commento: