giovedì, agosto 14, 2008

Cyfuniadau

Ceir cyfuniadau sydd at fy nant, a rhaid nad ŷnt. Dwi’n cofio, a minnau’n llai (neu’n ifancach p’un bynnag) fe’m gwrthyrrwyd gan y ffaith bod fy ffrind, Rhys BH, yn hoffi brechdanau cig oen a sbred siocled. Hyd fy myw i’r funud hon ei hun ni allaf ddychmygu'r ffasiwn gyfuniad afiach a fwytäed, yn llawen heb orfodaeth, gan un o’r ddynol ryw.

Un arall sy’n troi arnaf ond sy’n boblogaeth ymhlith y boblogaeth gyffredinol ydi siocled a chreision. Mae’n gwneud i mi deimlo’n sâl. Bydd rhai yn hoffi panad a ffag, a rhai yn hoffi ryvita efo menyn, ond un o’r cyfuniadau od dwi’n hoffi ohonynt ydi brechdan pasta, yn fenyn difeiriog i gyd gyda brith saws tomato. A chyfuniad arall hyfryd, wrth gwrs, brechdan lobsgóws, er mai brechdan anodd ei pherffeithio ydyw.

Ac, heb ymhelaethu gormod, dydi naill ai bwyd môr neu nionod ar bizza ddim yn iawn. Yn foesol, grefyddol ac yn rhesymegol felly.

A beth am nytars sy’n mynnu rhoi caws mewn brechdan ffishffingars, neu ofnadwyon lu’r byd a fynnant gymysgu sôs coch a grefi ar blât – yn enwedig cinio Sul? Ewch ymaith, fudryddion!

Un cyfuniad ddi-frechdan sy’n afiach ydi Snakebite, wrth gwrs. Ac ydych chi erioed wedi clywed am Chinese? Hanner chwerw, hanner lagyr, yn ôl y sôn. Ac un cyfuniad sy’n gwneud i mi isio chwydu hyd eithaf gallu fy stumog ydi fodca a chôc – mae o wastad wedi troi arnaf – yr oglau yn fwy na dim, am ryw reswm.

A phan fyddaf yn cerdded i’r gwaith dwi’n mynd heibio bar coffi Harleys sy’n gwerthu pei twrci a ham, sy jyst ddim yn swnio’n iawn imi.

Ond wrff cwrs, fel y mae nobs yn ei ddweud (PAM ffwc y mae rhai pobl yn ddweud 'wrff cwrs'?), fy marn i ydi hyn oll. Siŵr Dduw bod rhai ohonoch, bobl sâl, allan yno’n hoff o nionyn ar eich pizza neu gôc yn eich fodca, wn i ddim.

Ond, ew, mae ‘na bobl afiach allan yno. Wyddoch chi pwy ydych chi. A dachi’n troi arna’ i.

3 commenti:

Anonimo ha detto...

Does dim o'i le ar roi sos coch efo grefi a sosij mewn fahihihihithhha!

Hogyn o Rachub ha detto...

Ffyc off, Dyfed!

Dyfrig ha detto...

Sos coch efo baked beans dwi'n ei chael yn anodd ei ddallt. Nid bod nhw'n afiach na dim byd. Ond be ydi'r pwynt? Mae beans yn nofio mewn sos coch yn barod, i be mae rhywun ishio ychwanegu mwy?