lunedì, ottobre 20, 2008

Y Ferlen Waedgarol

Mae ‘na ferlod yn cae acw yn Rachub. Merlod gwyllt ydynt, rhai y cânt eu rhyddhau i’r mynyddoedd pan ddaw’r amser, ond eu bod hefyd yn cael eu bridio. Bydda i wrth fy modd ac yn cael fy rhyfeddu gan ferlod a cheffylau gwyllt y Carneddau, ac mae’n rhywbeth bach rhyfedd i ymfalchïo ynddo bod rhai y ffordd hon yn gofalu amdanynt yn ddi-dâl o’u gwirfodd.

Ond hen fasdad ydi Wil y Ferlen. Na, go iawn rŵan, Guto, Wil a Siôn ydi enw tair o’r merlod a Charlie ydi’r llall, hen beth tew sy’n hŷn na’r tair arall. P’un bynnag, mae Mam yn obsesd ac yn ailadrodd hyd syrffed faint y mae’n mwynhau eu cael yn y caeau. Gyda’r wiwer lwyd sy’n dringo to bob hyn a hyn a’r draenog yn y sied mae’n eithaf sŵ ar ymylon Tyddyn Canol ar hyn o bryd.

Mae’r merlod eu hunain yn mwynhau hefyd, mi dybiaf, gan eu bod yn cael digonedd o fara, bananas, afalau, caraintsh a hyd yn oed fajitas, yn bennaf gan Mam ond fel anifail garwr mewn ffordd an-filgydiaeth (nid mor eang fy rhywioldeb â chynnwys creaduriaid Duw mi a’ch sicrhaf) byddaf hefyd yn mynd yno i’w helpu pan fyddaf yn y Gogledd.

Un distaw ydi Wil ar y cyfan. Hen fwli ydi Charlie, bach a gwan ydi Guto a’r un clyfar ydi Sion. Ond yna’r oeddwn â charaintsh yn fy llaw yn bwydo Wil. Ac mi gydiodd ei ddannedd ynof. Wn i ddim p’un a ydych yn gyfarwydd â bwydo merlod ond rhaid dal eich llaw yn gwbl wastad. Ro’n i’n gwneud hyn ond gyda phwl o waedgarwch mi frathodd Wil fy mys. Yn fwy na hynny, mi dynnodd y diawl fi yn ôl bron i’r cae ei hun dwy, dair gwaith, â’m mhen i’n siglo nôl a ‘mlaen fel dol, â’m llaw yng ngheg y bwystfil.

O le’r o’n i’n sefyll roedd yn brofiad iasol. Yr oll a welwn i oedd merlen wyllt o’m mlaen ac yn teimlo dannedd am fy mys, ac ni ymatalaf ddweud, malais lond ei lygaid.

Sgrechiais fel merch drwy’r cyfan. Mi gafodd Wil fraw a gollyngodd, ond drwy ddydd Sul roedd fy mys yn brifo’n ofnadwy. ‘Doedd o ddim yn ddoniol ar y pryd, cofiwch, ond mi fynnodd y Dwd fy ffrind y byddai’n talu £30 i’m gweld yn arswydus ddigon yn cael fy nhraflyncu gan ferlen. Mae ‘ngharwriaeth i o ferlod gwyllt y mynydd, ar y llaw arall, yn sicr wedi dod i ben dros dro.

Nessun commento: