venerdì, novembre 07, 2008

Yr Ail Hoff Gyfnod

Fedra i ddim disgwyl. Ar ôl cyfnod y Chwe Gwlad, nad yw mor bell i ffwrdd â hynny erbyn hyn, cyfnod Gemau’r Hydref yw fy hoff adeg o’r flwyddyn. Does dim yn yr hwn fyd yn fy nghynhyrfu fel rygbi rhyngwladol, dim byd cweit yn rhoi’r un ddogn o nerfau ac eiddgar-ddisgwyl, y cyfnod gwyllt o ddarllen pob darn o wybodaeth am y gêm sydd ar y gweill, y cyfleoedd betio, y wybodaeth y bydda i’n yfed o 11 o’r gloch ymlaen tan oriau mân y bore, yn canu, yn gweiddi, o bosibl bod mewn tymer ffiaidd ryw ben, o bosibl yn fy elfen, a ddim yn gwbl annhebyg o chwydu mewn rhyw gornel yn slei.

Onid wyf y diffiniad o bopeth sy’n iawn a phopeth sy’n ddiffygiol mewn cymdeithas?

1 commento:

Anonimo ha detto...

Dy drydedd hoff gyfnod - y cyfnod(au) ble rwyt yn pysgodio efo fi ar greigiau godidog Sir Fôn!!!