mercoledì, dicembre 31, 2008

Blynyddoedd newydd a fu'n fras

Dyna ni, un arall ar ben! Wel, bron. Wn i ddim pa gynllun sydd gennyf mewn difri, cofiwch. Cofiaf flynyddoedd yn ôl ddeffro i’r flwyddyn newydd yn sied Jarrod ym Maes Coetmor. Os cofiaf, nid blwyddyn ragorol mo honno, achos mae dechrau’r flwyddyn yn sail i weddill y flwyddyn.

Dwi wedi treulio’r flwyddyn newydd yn Llanrwst efo’r Dwd ac yn Nhŷ Isaf ers hynny.

Ddwy flynedd yn ôl 2006/07, ro’n i’n Clwb Ifor Bach lle’r oedd y cowntdown yn shait a neb yn gwybod pryd ddechreuodd yn flwyddyn ar ôl y llall. P’un bynnag mi ffraeodd y Rhys a’r Sion a’m gadael innau i fod, lwcus bod Helen yno neu ben fy hun y byddwn. Y flwyddyn wedyn ro’n i’n y Cayo Arms a bu i mi chwydu – a choeliwch chi fi dwi wedi chwydu lot eleni. Mynd yn hen a methu handlo’r êl ydi hynny, fetia i.

Ta waeth, gwaeth i mi fod yn sifil, o be mae hi werth, a dymuno blwyddyn newydd dda i chi gyd. Efo’r wasgfa economaidd am ddwysau bydd hi’n flwyddyn gachu yn 2009, cewch weled, ond gwnewch y gorau ohoni, myn diân.

1 commento:

Linda ha detto...

Ha ! Dwi'n hoffi dy optimism ar y diwedd 'na Jason :)Ble bynnag fyddi'n dathlu'r flwyddyn newydd heno ...mwynha dy hun de !