venerdì, gennaio 09, 2009

Talent

Meddyliais i mi’n hun y diwrnod o’r blaen, “Beth ydi dy dalent, ‘rhen chwaer sgip jac fflapjac polo mint pwys o ham swllt y geiniog cadi ffan washi bwoi?” - a methais â chanfod ateb.

Byddwn onest, mae talent yn rhywbeth eitha’ dibwynt ar y cyfan, pethau fel dawnsio, chwarae pêl-droed, chwarae offeryn, barddoni, pethau felly, ond megis trôns mae’n beth handi i’w gael. Well gen i focsars fy hun ond fel y gwyddoch nid lle i drafod materion y trowser mo’r flog hon, y sgidmarc ar y rhithfro ag ydyw.

Ond, ia, talent. Hoffwn innau dalent. Byddai hedfan yn dalent dda i’w chael, ond dydi hynny ddim cymaint o dalent ag ydyw’n superpower (o ran pobl, allwch chi ddim dweud bod gan fulfran werdd superpower achos ei bod hi’n medu hedfan, na fedrwch?). Gall rhywun, ag ymdrech ac ymroddiad, ddysgu sut i chwarae offeryn, a thrwy ymrwymiad ac ymarfer fireinio eu sgiliau chwaraeon (do’n i byth ‘di sylwi bod ‘na gymaint o eiriau ‘y’ sy’n golygu pethau gweddol tebyg i’w gilydd).

‘Swn i’n hoffi bod yn areithiwr penigamp, ond dwi’m yn meddwl y byddai neb yn gwrando arna i, a p’un bynnag ‘sgen i ddim byd i siarad amdano ac eithr fy niffyg talent.

Ond dydw i ddim yn credu bod gan bawb dalent beth bynnag. Mae erwau ac erwau o bobl sy’n gwbl ddidalent, fel fy nheulu, neu actorion Pobol y Cwm, a Lowri Dwd, a rhai athrawon Cymraeg na chânt y fraint o’u henwi yma, ond ‘sdim angen talent i lwyddo. ‘Sgiliau’ ydi’r gair aur y dyddiau hyn. ‘Sgiliau cyfathrebu’ fydda i’n licio rhoi ar fy CV. Medr unrhyw un siarad, ‘blaw am bobl fud, neu bobl ddiog sy’n smalio bod yn fud. Mae ‘na rai yn rhywle, uda i wrtho chi.

Reit, dwi’n mynd rŵan. Welai chi wsos nesa'.

1 commento:

Linda ha detto...

Ia , dwi'n dueddol o gymysgu i fyny rhwng talent a sgil weithiau. Mae talent yn awgrymu rhywbeth ti'n medru wneud yn dda o flaen cynulleidfa , ella rhywbeth ti ddim 'di gorfod gweithio llawer tuag ato? Ond mae sgil yn llawer gwell ;) yn swnio'n fwy clyfar a sbeshial !