venerdì, novembre 13, 2009

Cymru Fydd?

Ysgrifenna’ i ddim am gynnwys y nofel hon, ac os nad ydych yn gyfarwydd â hi waeth i chi beidio â darllen ymlaen – dydi o ddim yn effeithio arnaf i y naill ffordd na’r llall! Iawn, mi fyddaf fras, mae Wythnos yng Nghymru Fydd yn nofel wleidyddol lle mae teithiwr amser o 1953 yn cyrraedd Cymru 2033 ddwywaith. Y tro cyntaf daw ar draws Cymru ddwyieithog, annibynnol a llewyrchus; yr eildro nid yw Cymru mwy na Gorllewin Lloegr.

Nid beirniadu na chanmol nofel a wnaf fan hyn, ond gwneud rhywbeth y bu i mi grybwyll ar flog Dylan ychydig nôl, asesu (yn gyflym mae arna’ i ofn) p’un a ydym mewn gwirionedd yn agosach at Gymru’r Llywarchiad neu Gymru hen wraig y Bala. Tybiodd Vaughan Roderick ar ei flog ychydig yn ôl mai’r cyntaf sydd debycaf, ond mae’r darlun a luniaf innau’n awr yn dduach.

Ystyriwch hyn: p’un a fydd yn diflannu ai peidio, byddai’r Fro Gymraeg fwy na thebyg yn diflannu cyn i’r ardaloedd Saesneg o’n gwlad droi’n Gymraeg. Pe digwyddai hynny, byddai cenedlaetholdeb yn newid ei wedd yn llwyr – byddai’r ‘pwerdy diwylliannol’ yn gelain. Deuai hynny yn sgîl mewnfudo. Troddir yn bur gyflym o cenedlaetholdeb Cymraeg ei iaith at drefedigaeth Seisnig. Dim Plaid Cymru. Dim Cymraeg – a’r Pethe’n ddiflanedig. Gyda Lloegr yn gorboblogi, a’r ‘white flight’ hefyd yn cynyddu o ganlyniad i fewnfudo o du allan o Brydain i Loegr, cynyddu wnaiff nifer y mewnfudwyr dros y blynyddoedd nesaf, a hynny’n anochel.

Wele’r cynllun arfaethedig i greu miloedd ar filoedd o dai i gymuwyr yn y gogledd ddwyrain – nid i’r Cymry lleol ond Saeson sy’n gweithio ac isio byw mewn lle tawelach. A fyddant am i’w plant gael addysg Gymraeg, a fyddant am senedd i Gymru, neu ai gwladychu tawel ydyw? Dydw i ddim am gyffredinoli, ond mae’n gwestiwn y dylai’r Gymru fodern, hyderus honedig fod yn fodlon ei ofyn, ymhlith cwestiynau eraill.

Un o fethiannau mwyaf damnïol datganoli yw’r methiant llwyr i warchod y Fro Gymraeg; mae’n crebachu mwy nag erioed. Y mae’n ffaith, am wn i, fod amddiffynwyr mawr ein gwlad yn bennaf yn Gymry Cymraeg. Dwi ddim yn meddwl bod hwnnw’n ddatganiad dadleuol, chwaith.

Ond mae’n holl gymunedau ar chwâl o’u cymharu â’r ddoe a fu. Dwi ddim, am eiliad, yn amau bod dirywiad y syniad o gymuned a’r cynnydd mewn trosedd yn uniongyrchol gysylltiedig â chwymp crefydd. Erbyn 2033 bydd y capeli a’r eglwysi yn wacach nag erioed – bydd y sail foesol yn diflannu yn ei sgîl, ac yn sgîl hynny unrhyw ddyletswydd arnom i amddiffyn yr hyn sy’n werthfawr i ni. Fe fyddwn wedi anghofio beth sy’n bwysig, yr hyn sy’n iawn, yr hyn sy’n gyfiawn.

Yn rhad yr ymwerthasoch, yn wir, Gymru. O golli darn mor bwysig o’n treftadaeth Gymraeg, p’un ai anffuddiwr, crefyddol neu yn y canol ydych, gwanychir y Gymraeg yn y pen draw.

O droi’r cymunedau yn Saesneg, mae’n anorfod yn y pen draw y byddai’r ysgolion yn eu dilyn. Oni welsom ferw cyntaf hynny yn Nyfed y degawd diwethaf? Onid yw diffyg y cynnydd mewn addysg Gymraeg ar Fôn, yng Ngheredigion a lawr yn Sir Gâr yn arwydd clir o hynny? Onid yw’r ffaith bod llawer llai na hanner disgyblion y tair sir o gartrefi Cymraeg yn rhybudd?

Dirywiad Eisteddfod yr Urdd. Dirywiad yr Eisteddfod. Dydi o ddim yn gyfrinach bod ein heisteddfodau lleol yn brwydro i barhau; ein papurau bro, y cyfleusterau sydd gennym yn segur, a hynny o’n dewis ni. Heb gymuned Gymraeg, nid oes Cymraeg.

Gyda galw cynyddol am ddŵr yn Lloegr, a fydd yn anochel ymhen ychydig, tybed a welwn nid yn unig Lyn Nant Ffrancon a Llyn Nantlle, ond Llyn Cynon a Llyn Rhondda Fawr? Peidiwn â thanamcan grym gwladwriaeth, na gwendidau cenedl a goncwerwyd. A phan ddaw at wrthsefyll, onid methiant fu mwyafrif ein hanes? Gyda diffyg cenedlaetholwyr, cadarnleoedd y Blaid yn gelain a phlaid Lafur aneffeithiol a Phrydeinllyd barhaol, pwy fyddai’n sefyll yn y bwlch?

Gall y llanw Gymreigaidd gyfredol yn hawdd droi’n llanw Saesnig. Wrth i Saeson, gan fwyaf, ac yn ddamcaniaethol, feddu ar fwy o brif swyddi’n gwlad, ein cynghorau sir, ein cynghorau cymunedol, a ydi hi’n bosibl, tybed, y câi’r gefnogaeth i’r Cynulliad ei dileu? Gyda’n heconomi yn gwanychu, a diffyg swyddi, a gyfnewidir ein pobl ifanc am Saeson canol oed cyfforddus, pobl wedi’u hymddeol ac ati? A fyddai oes terfysgaeth yn galluogi llywodraeth yn y dyfodol i alw am undeb ac atal hawliau’r Cynulliad?

Wedi’r cyfan, mae ein hawliau sifil wedi lleihau’n arw ers ’97. Pwy sydd i ddweud bod y broses ar ben, neu nad megis dechrau ydyw? A dyna ddiwedd ein hunig amddiffynfa, er gwaetha’i gwendidau lu.

Ac onid yw’n wir bod y mwyafrif o’r Cymry yn fodlon eu byd? Onid ydym o hyd, er gwaethaf protestio’r lleiafrif, yn genedl ddiog sy’n fodlon eistedd nôl a gadael i’r byd droi?

Fy ngobaith i ydi y bydd Cymru’r Llywarchiad gennym erbyn 2033, neu rywbeth tebyg. Ond ffôl, mor arferol ffôl, y byddem i gredu mai dyna fydd hi. Nid yw Cymru hen wraig y Bala am ddyfod ar yr union ffurf honno. Ni fydd y Gymraeg yn gelain bryd hynny, ond fe allai’r cymuned Gymraeg olaf fod yn angof hyd yn oed yn ein hoes ni – a byddai hynny’n ddechrau ar y broses.

Cyfleu’r ochr ddu, yn flêr (dwi’n ymddiheuro am hynny) roeddwn uchod. Mae gobaith hefyd. Ond cofier hyn, brwydr fydd sicrhau’r Gymru gyntaf, a segura yw’r cyfan sy’n rhaid ei wneud i groesawu’r ail.

Brwydro neu segura? Gwyddom oll pa un y mae’r Cymry’n rhagori arno.