martedì, dicembre 08, 2009

Stori fawr y dydd (sori, Rhodri!)

Dwi’n meddwl ei bod hi’n ofnadwy ar ddiwrnod olaf Rhodri Morgan mai rhywbeth arall sy’n dwyn sylw byd y blogiau, a ddim ryw stori annwyl iawn, ychwaith. Ond, er mae’n siŵr na alla’ i gynnig safbwynt gwahanol, hoffwn o hyd ddweud fy nweud, gan geisio peidio ag ailadrodd unrhyw beth a ddywedyd mewn mannau eraill.

‘Does dwywaith amdani, mae grŵp y Blaid y llai, a grŵp y Ceidwadwyr yn fwy nag erioed. Mae hynny’n ergyd i Blaid Cymru, a taswn i’n Geidwadwr byddwn i’n bur fodlon ar fachu aelod o blaid elynol. Ond, taswn i’n Geidwadwr, Mohammed Ashgar fyddai’r un olaf o grŵp Plaid Cymru y byddwn i am ei ddwyn – ac fel cenedlaetholwr, er nad Pleidiwr pybyr, dwi’n falch mai Ashgar yn fwy nag unrhyw un arall sydd wedi croesi’r llawr.

Mae’r ateb pam yn ddigon syml – mae Mohammed Ashgar yn aelod da i ddim o’r Cynulliad. O ystyried ei berfformiad, mae’n anodd iawn gen i gredu y’i dewiswyd gan aelodau de-ddwyrain y Blaid oherwydd ei allu, wel, ei allu gwleidyddol – mae o wedi dangos ei hun i fod yn ddigon alluog ond nid mewn ffordd dda eithr ffordd ddigon slei ac annymunol. Ta waeth, mae’r dyn yn ofnadwy o flaen camera a dal yn treulio llawer o’i amser fel cyfrifydd.

Y mae ei fynd heddiw yn adrodd cyfrolau amdano ef a hefyd y blaid Geidwadol. Awn ni ddim i hynny – mae’n ddigon amlwg.

Awn ni ddim i sôn am a ddylai ymddiswyddo neu a ddylai trefn y Cynulliad newid. Bydd yr un yn digwydd a ‘sgen i ddim amynedd llunio dadl academaidd dros fy mhanad.

Mae gwers i Blaid Cymru, sef i ddewis aelodau ar allu yn unig – aiff hynny am orfodi merched ar ben y rhestrau hefyd (credaf i hynny ddod i ben rwan?). Gwn y dewisir ymgeiswyr y Blaid yn lleol ac nid yn ganolog, ond o ystyried pa mor ddi-lun ydi Ashgar fedra’ i ddim gweld pam arall y byddai aelodau cyffredin wedi ei ddewis ond am y demtasiwn o gael aelod ethnig cyntaf y Cynulliad dan y faner werdd. Chwarae’r gêm wleidyddol oedd y nod. Mae’r canlyniad yn fwy o own goal.

Os Ashgar oedd y mwyaf galluog, carismataidd, delfrydol o holl aelodau Plaid Cymru y rhan honno o Gymru, dwi’n gadach. Yn amlwg, petai wedi datgan ei farn fel ag y mae wedi heddiw ni fyddai erioed wedi bod yn agos at gael ei ddethol. Dwi’n amau bod rhywun wedi bod rhywfaint yn gelwyddog yn rhywle lawr y lein.

Byddai Ashgar ddim wedi cyrraedd Cynulliad 2011 yn ei sefyllfa gyfredol – dim ffiars. Annhebyg y deuai’n ail eto, heb sôn am gyntaf, ar y rhestr ar ôl ei berfformiad dros y trydydd Cynulliad. Gyda Phlaid Cymru’n targedu’n gwbl realistig Gaerffili ac Islwyn, byddai’n gwneud ei ethol yn llai tebygol fyth. A fyddai rhywun o lwyth mor uchelgeisiol yn fodlon ar hynny, tybed? Na. I lwyddo, roedd yn rhaid gadael. Oni fyddai fod ar restr y Ceidwadwyr yn ffordd dda o gadw swydd dda?

Beth am oblygiadau hynny? Mae’n rhoi cyfle i Blaid Cymru ddewis ymgeiswyr llawer cryfach yn y rhestr – er dwi’n meddwl bod y sïon am Adam Price yn sefyll yno yn hurt bost. Wrth gwrs na fyddai neb wedi dweud y byddai Plaid Cymru yn well heb Ashgar pan oedd yn AC Plaid Cymru, ond i fod yn gwbl onest, dwi’n meddwl ei fod yn gwbl wir.

A beth am y Ceidwadwyr? Anodd gen i gredu y byddai wedi mynd atynt heb ryw fath o addewid o sedd. Nid anodd gor-ddweud pa mor wael y mae hynny’n adlewyrchu ar y Ceidwadwyr. Goblygiadau hynny? Mae’r Torïaid yn sownd gydag aelod aneffeithiol a phur annymunol sy’n rhan o’r gêm wleidyddol er ei fwyn ei hun.

I fod yn deg, o leiaf petai hynny’n wir byddai’n dangos mai Tori ydyw!

Nessun commento: