giovedì, febbraio 11, 2010

Bro Morgannwg

Rhwng dadansoddi seddau Cymru, dwi wedi bod yn meddwl am isafswm ac uchafswm seddau’r pleidiau oll. Dwi’n meddwl ei bod yn gwbl sicr, er enghraifft, y caiff Plaid Cymru o leiaf 3 sedd, ond dim mwy na saith, a’r Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 1 a 5. O ran Llafur, ni chaiff lai na phymtheg, ond dim mwy na 27.

Y Ceidwadwyr sydd dan sylw heddiw. Os cânt flwyddyn ragorol, gallent gipio hyd at 14 o seddau yn fy marn i, ond dwi wedi pennu isafswm o chwe sedd iddynt. Mae Bro Morgannwg yn sedd dwi’n gwbl sicr fy marn yr aiff i’r Ceidwadwyr eleni.

Gan ddweud hynny dydi’r Ceidwadwyr ddim wedi gwneud yn rhagorol ym Mro Morgannwg dros y ddegawd ddiwethaf. Y rheswm am hynny ydi nad ydi’r Ceidwadwyr wedi bod yn boblogaidd am ddegawd. Mae’r sedd yn sî-so rhwng y Ceidwadwyr a Llafur sy’n dibynnu’n helaeth ar y duedd Brydeinig. Mae’r cyferbyniadau yn y sedd yn ddigon amlwg - mae’n cwmpasu ardaloedd llewyrchus fel y Bont-faen a rhai mwy difreintiedig fel y Barri. Yn gwbl naturiol, felly, brwydr glas-coch ydyw.

Ond mi roddaf rywfaint o sylw i’r ddwy blaid arall. Mae llwyddiant Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn amrywiol iawn. Ar lefel San Steffan, cafodd Plaid Cymru ei huchafbwynt yn 2001, gyda 6.3% o’r bleidlais, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2005 gydag 13% o’r bleidlais. Ffigurau digon pathetig. Dydi pethau fawr gwell yn y Cynulliad i’r naill na’r llall – er i Blaid Cymru gael chwarter y bleidlais ym 1999 tua hanner hynny ydi ei hanes ers hynny. Dydi’r Dems Rhydd heb lwyddo heibio’r 12%.

Yn etholiadau Ewrop y llynedd, cafodd y Blaid 13% o’r bleidlais (4ydd), a’r Dems Rhydd 8.2% (5ed). Felly mae’r ddwy yn ddigon anobeithiol, ond rhaid nodi hyn am Blaid Cymru: mae ganddi bocedi o gefnogaeth gref ym Mro Morgannwg. Dim ond 6 o’r 36 o gynghorwyr sydd ganddi ym Mro Morgannwg...

Ceidwadwyr 16
Llafur 11
Plaid Cymru 6
Eraill 3

... ond nifer y pleidleisiau sy’n ddiddorol. Fel y dywedais yn nadansoddiad Islwyn, mae’n anodd trosglwyddo etholiadau mewn wardiau aml-sedd yn union nifer y bobl a bleidleisiodd dros Blaid, ond gyda deunaw ward yn dychwelyd 36 o gynghorwyr, y ffordd hawsaf o amcangyfrif hynny ydi drwy haneru nifer y pleidleisiau a gafodd pob plaid – a dyna fwy na thebyg yr agosaf y deuwn ati. Os gwnawn hynny, mae’r niferoedd ar gyfer 2008 yn yr etholaeth (yn fras) fel a ganlyn:

Ceidwadwyr 15,700
Llafur 8,300
Plaid Cymru 8,200
Eraill 3,800

Ydi, mae hynny’n syfrdanol. Mae’r niferoedd Llafur yn isel iawn, gyda’r niferoedd Plaid Cymru yn eithriadol o uchel. Hefyd, er clod i Blaid Cymru, safodd ymgeiswyr ym mhob sedd ac eithrio dwy yn yr etholaeth. Mae hynny’n dangos cryfder llawr gwlad. Yn anffodus, nis adlewyrchir mewn etholiadau cenedlaethol.

Dwi’n tueddu i feddwl y gallai Plaid Cymru herio’r Democratiaid Rhyddfrydol am y trydydd safle y tro hwn, er nad ydw i o’r farn y bydd yn llwyddo yn y dasg honno. Ddaw hi’m yn agos ar y safle cyntaf p’un bynnag!

I gael darlun teg rhaid i ni edrych ar adeg pan fu’r ddwy brif blaid yn fuddugol yma. Dyma grynodeb o’r mwyafrifoedd (dynoda’r lliw y blaid fuddugol) ers 1983.

1983: 10,393 (22.2%)
1987: 6,251 (12.1%)
1989: 6,028 (12.6%) – isetholiad
1992: 19 (0.1%)
1997: 10,532 (19.6%)
2001: 4,700 (10.4%)
2005: 1,808 (3.8%)

Mae’r canlyniadau hynny’n dangos bod mwyafrifoedd y ddwy blaid yn gallu bod yn anferthol - a hefyd yn bitw. Yn yr UDA, byddai hon yn cael ei galw’n ‘swing state’, un a all fynd unrhyw ffordd, a mynd i’r ffordd honno yn sylweddol.

Gydag isetholiadau yn aml yn mynd yn erbyn y llywodraeth gyfredol, mae’r Fro yn draddodiadol wedi pleidleisio dros y blaid a fydd yn fuddugol yn yr etholiad cyffredinol, y math yna o sedd ydi hi. Heb drydedd blaid gref mae’n anodd dychmygu na fydd y patrwm hwnnw’n parhau.

Felly beth am gymhwyso arolwg barn diweddar i Fro Morgannwg – a hynny gyda thri chwarter yr etholwyr yn pleidleisio (mae hon yn sedd ymylol wedi’r cwbl, gall y niferoedd sy’n bwrw pleidlais fod yn uchel iawn). Defnyddiwn un Populus, 5-7 Chwefror, a throsi’r canlyniad:

Ceidwadwyr 23,100
Llafur 18,500
Mwyafrif: 4,600

Felly beth fyddai’r newid? Byddai’r Ceidwadwyr yn ennill tua 5,500 o bleidleisiau, a Llafur i lawr tua mil. Mae hynny heb ystyried effeithiau posibl Plaid a’r Dems Rhydd (a allai amrywio o ddwyn pleidleisiau Llafur i fenthyg pleidlais iddynt i atal y Ceidwadwyr!). Synnwn i ddim petai’r niferoedd sy’n pleidleisio i Lafur fod mor uchel, fodd bynnag - mewn sedd ymylol, haws yw darbwyllo Llafurwyr dadrithiedig i bleidleisio na mewn seddau a ganfyddir yn ddiogel, megis De Caerdydd a Phenarth gyfagos.

Mae rhoi 23,000 o bleidleisiau i’r Ceidwadwyr yn ymddangos yn uchel, ond mae cynsail i hyn. Ers 1983, mae’r Ceidwadwyr wedi llwyddo ennill dros 24,200 o bleidleisiau ddwywaith - ond cafodd Llafur dros 29,000 o bleidleisiau ym 1997 (cafodd dros 24,000 hefyd ym 1992). Pleidleisiodd pedwar o bob pum etholwr yn ‘97, felly i raddau gellir dweud, hyd yn oed mewn etholiad lle disgwylir i Lafur golli, fod nifer uchel eithriadol yn pleidleisio yn rhywbeth y byddai Llafur yn ei ffafrio.

Dyma gip cyflym iawn ar ganrannau Ewrop y llynedd:

Ceidwadwyr 31%
Llafur 16%
UKIP 15%
Plaid 13%

Buddugoliaeth gadarn i’r Ceidwadwyr, ond roedd y bleidlais UKIP yn gref hefyd. Yn wir, bydd ambell Geidwadwr yn dal i gael hunllefau am ymyrraeth UKIP mewn ambell etholiad.

Llafur 11,515 (34.2%)
Ceidwadwyr 11,432 (33.9%)
Plaid Cymru 4,671 (13.9%)
Dem Rhydd 3,758 (11.2%)
UKIP 2,310 (6.9%)

Byddwch yn gyfarwydd â’r canlyniad uchod – Etholiad Cynulliad 2007, pan enillodd Jane Hutt o 83 o bleidleisiau. I fod yn deg, mae gan rywun cyfarwydd fel Jane Hutt bleidlais bersonol a oedd yn sicr o fudd iddi wrth gadw’r sedd, ond chwi welwch y blaid sy’n olaf. Does fawr o amheuaeth, heb UKIP, y byddai’r Ceidwadwyr wedi ennill yma yn 2007.

Bydd UKIP yn sefyll yma eto eleni. Fydd hynny o ddim lles i’r Ceidwadwyr na Llafur, ond yn Ceidwadwyr fydd yn dioddef fwyaf. All UKIP gael digon o bleidleisiau y tro hwn i rwystro’r Ceidwadwyr? Yr ateb onest, yn fy marn i, ydi ‘na’, ond gall yn sicr gwneud y gwaith o gipio’r sedd yn anoddach o bethwmbrath.

Ond dangosodd 2007 rywbeth arall – gall Llafur ennill yma. Ydi, mae’n annhebygol, ond nid yw’n anobeithiol.

Serch y posibilrwydd hwnnw, fel y dywedais uchod, dwi’n meddwl y bydd Bro Morgannwg yn un o’r chwe sedd sy’n gwbl, gwbl bendant am fynd i ddwylo’r Ceidwadwyr eleni. Dydi’r mwyafrif Llafur yma ddim yn ddigon cadarn i wrthsefyll y cynnydd cryf tebygol a welir yn y bleidlais Geidwadol yng Nghymru – UKIP ai peidio. Er tegwch, gallwn hyd yn oed y dyddiau hyn ddweud bod y gogwydd a geir i’r Ceidwadwyr yn Lloegr yn ôl y polau yn annhebygol o gael ei adlewyrchu yng Nghymru yn gyffredinol. Ond mi fydd y gogwydd yng Nghymru yn fwy na’r 1.9% sydd ei angen ar y Ceidwadwyr i ennill yma.

Fel dwi’n ei ddweud, mae gobaith i Lafur yma. Os bydd ei phleidlais graidd yn y Barri a lleoedd tebyg yn pleidleisio mewn niferoedd, mae ‘na gyfle go lew o drechu’r Ceidwadwyr. Dwi ddim yn darogan y bydd hynny’n digwydd eleni.

Proffwydoliaeth: Buddugoliaeth gadarn i’r Ceidwadwyr – tua phum mil



Pymtheg sedd i fynd - dyma Gymru Rachub hyd yn hyn

Nessun commento: