venerdì, aprile 30, 2010

Argraffiadau o drafodaeth neithiwr

O weld bod y blog wedi unwaith eto llwyddo denu ei nifer uchaf o ymwelwyr erioed y mis hwn, mae gen i hawl i fod yn smyg a hynny wnaf. Anodd felly dychmygu pa mor smyg y byddwn petawn yn ennill dadl wleidyddol.

Wn i ddim a wnaethoch wylio neithiwr, na’r ddwy drafodaeth flaenorol. Er fy mod i’n gîc gwleidyddol, wnes i ddim ffendio’r un yn ddiddorol na meddwl bod yr un yn berthnasol i Gymru. Fel cenedlaetholwr, ni fyddwn beth bynnag, ond dwi’n meddwl y byddai llawer o bobl wedi sylwi ar y ffordd yr anwybyddid Cymru dros y tair dadl. Mae gan unrhyw un sy’n deall gronyn o wleidyddiaeth Cymru ddiddordeb yn y materion sy’n bwysig ac yn unigryw i Gymru, wedi’r cyfan.

Gadewch i mi gynnig ambell sylw ar neithiwr. Mi ddechreua’ i efo Brown. Rŵan, i mi, o ran sylwedd, fe enillodd Brown neithiwr. O wrando yn hytrach na gwylio, ei neges ef oedd orau gen i – ond lleiafrif ydw i. Mae pobl wedi syrffedu ar Brown a dydyn nhw ddim yn ei hoffi. Mae’n biti bod gwleidyddiaeth bersonoliaeth yn rhan annatod o wleidydda modern, ond ysywaeth dyna’r sefyllfa. Fel unrhyw un, dwi’n hoffi gwleidyddion tanllyd, lliwgar, ond sylwedd sy’n bwysig i mi – nid a bleidleisiwn i neb ar sail personoliaeth.

Er hynny, mi wanychodd Brown yn sylweddol yn ystod yr hanner awr olaf – trodd yn or-negyddol, yn ailadroddus, ac roedd ei araith olaf yn wan (heb sôn am y wên echrydus ar y diwedd!).

Beth am Cameron? Fo, yn ôl y polau annibynadwy, enillodd. Fyddai Cameron byth wedi ennill gen i yn bersonol; yn bersonol, mae fy naliadau gwleidyddol ar yr economi yn agosach at y blaid Gomiwnyddol na neb arall. Ond neithiwr roedd ei berfformiad cryfaf oherwydd fe wnaeth yr hyn y dylai ef, a Brown, fod wedi’i wneud pan ddechreuai ddod yn amlwg yn y ddadl gyntaf fod gan Clegg fomentwm: ymosod ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Mi lwyddodd, mi gredaf – a gwnaeth Brown gamgymeriad tactegol drwy ganolbwyntio gormod ar y Ceidwadwyr.

P’un bynnag, does dwywaith amdani rŵan, mae gan David Cameron y momentwm. Fydd hi ddim yn ddigon iddo ennill mwyafrif, yn fy marn i, ond ar y cam hwn o’r ymgyrch mae momentwm yn hollbwysig.

I mi, o ran sylwedd, Clegg oedd wannaf neithiwr. Petai wedi bod dan y fath graffu yn y ddwy drafodaeth gynt fyddai’r syrj honedig heb fodoli. Ond nid polisi oedd gwendid mawr Clegg – fe weithiodd, yn frawychus o effeithiol, yr act ‘boi iawn’ yn y ddadl gyntaf, a hefyd yr ail, ond erbyn neithiwr roedd yn hynod hen, ac i mi’n bersonol yn gythruddgar. Efallai neithiwr y torrodd y swigen, i fenthyg ymadrodd yn hyll; ddaru Clegg mo fy argyhoeddi o gwbl. Gwell gen i roi pleidlais i rywun sy’n dallt y dalltings na rhywun yr hoffwn beint efo fo.

Er eglurder, ni hoffwn beint gyda Nick Clegg.

Felly dyna fy marn bersonol am neithiwr – wn i ddim pwy sy’n cytuno neu’n anghytuno. Ond dwi’n meddwl yr hyn a gadarnhawyd neithiwr oedd mai’r Ceidwadwyr fydd y blaid fwyaf wythnos i heddiw. Dwi’m yn meddwl bod y mwyafrif o fewn eu cyrraedd, cofiwch, mae ‘na wythnos i bawb waethygu pethau eto!

Nessun commento: