lunedì, maggio 17, 2010

Gwe-gamera

Po fwyaf dwi’n stwnshio efo’r gliniadur newydd y mwyaf dwi’n ei licio. Fel, mi gredaf, bawb yn y byd, prin y bydda i’n dysgu dim o ddarllen y llawlyfr atodedig eithr drwy wneud pethau fy hun. Gall hyn fod yn beth digon peryg. Dyn ag ŵyr faint o niwed dwi wedi’i wneud i ambell gyfrifiadur drwy wneud hyn gan osod hwn a dileu’r llall. Ta waeth, dwi fymryn yn gallach erbyn hyn, diolch byth.

Dydw i ddim yn gîc technoleg (i fod yn onast dwi’m yn licio gîcs ffwl stop – cefais drafodaeth ddiddorol efo Lowri Dwd am hyn a mynnais i y byddai’n well gen i gael fy ngalw yn sad na’n gîc, a ‘does neb erioed wedi cytuno â mi am hynny ond mi waeddwn yn groch amdano yn ôl y gofyn). Fel y dywedais o’r blaen, dydi technoleg ddim yn rhywbeth sy’n creu fawr o argraff arnaf, ac yn wahanol i bawb arall gyda’u iPhones a lol felly mae’n gas gen i’r ffaith fy mod i’n teimlo’n noeth heb ffôn lôn.

Ond ar y cyfrifiadur newydd swanc mae gwe-gamera. Na phoener, dydw i ddim yn ei ddefnyddio at ddibenion ffiaidd, a hyd yn oed petawn ni dyma’r lle i gyfaddef hynny – statws hysbysiadol ar Facebook fyddai jyst y job. A dweud y gwir, dim ond ddoe a ddeallais sut i’w ddefnyddio o gwbl. Mae’n eithaf cŵl achos mi allwch chi wneud lot o bethau efo fo, pethau babïaidd sy’n gwneud i bobl fel fi wenu megis mympwyo’r wyneb a gwneud i sêr droi o amgylch eich pen. Mae angen ei weld i’w werthfawrogi’n iawn. Welish i erioed y ffasiwn beth o’r blaen ac, afraid dweud, y bu iddo fy niddori am y peth nesaf i dri chwarter awr.

Ymunais â Skype hefyd. Yr unig berson arall dwi’n nabod sydd ar Skype ydi Jarrod, felly fy unig ‘ffrind’ Skype (sydd, yn gwbl gywilyddus, heb eto fy nghadarnhau fel ffrind) ydi Jarrod. Trasig. Pryd ddaw gweddill y byd i weld fy wyneb serchog ar sgriniau’r byd, tybed? Neu ydw i jyst yn rhy ddel i Skype?

Ydw. Dyma’r unig eglurhad synhwyrol.

Nessun commento: