giovedì, dicembre 30, 2010

Degawd newydd da

Ro'n i am ddymuno degawd newydd hapus i chi ond dim ond rwan dwi'n sylweddoli mai llynedd ddylwn i wedi wneud hynny.

Ffyc.

Sut bynnag, gyda nifer y darllenwyr eleni 50% yn uwch na llynedd o leiaf mi fydda i'n smyg iawn dros y flwyddyn newydd. Go on, ffeindiwch rywbeth i fod yn smyg amdano eich hun, mae'n werth chweil, yn enwedig i darfu ar wyll y mis gwaethaf sydd ar y gweill. Ionawr. Casáu Ionawr.

Blwyddyn newydd dda i chi gyd!

gol. ac ydw, dwi yn gwbod na'r 30ain, nid y 31ain ydi o, ond dwi ddim am flogio fory so ddêr

1 commento:

Anonimo ha detto...

Rhywbeth i wneud i ti deimlo'n well am fis Ionawr - fe fydd hi'n haf braf yn Seland Newydd!

Iwan