mercoledì, gennaio 05, 2011

Blwyddyn Wleidyddol 2011 - yn fras iown

Dwi eisoes wedi rhoi fy marn ar y refferendwm sydd bellach lai na deufis lawr y lôn. Fwy neu lai gytuno â’r farn gyffredin ydw i i bob pwrpas – buddugoliaeth dda i’r ymgyrch o blaid, ond nifer isel yn pleidleisio. Mae hynny’n fy mhoeni rywfaint, oherwydd byddai mandad yn dda, ond eto allwch chi ddim ysbrydoli pobl i bleidleisio am newid sydd yn welliant i’r system yn hytrach na’n, wel, newid.

Mae wrth gwrs ddwy bleidlais arall eleni – un ohonynt yn gyffrous a’r llall, yn fy marn i, yn ddibwys. Y cyntaf yw etholiadau’r Cynulliad – a all yn wir fod yn gynulliad mwy pwerus o dipyn erbyn yr etholiad. Mi fydd digon am hynny yn y man, gen i a gweddill y blogsffer Cymraeg mi dybiaf, felly af i ddim i fanylder. Fodd bynnag ar hyn o bryd, ac o reddf yn hytrach nag edrych ar unrhyw ystadegau, dwi’n meddwl y bydd hi’n etholiad da i Lafur, yn un gweddol i’r Ceidwadwyr, yn siom i Blaid Cymru ac efallai’n wir yn drychineb i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Fedra i’n hawdd weld y Ceidwadwyr yn ennill mwy o bleidleisiau na Phlaid Cymru y tro hwn, os nad seddau.

Ta waeth, mi edrychaf ar y pum rhanbarth maes o law, er nid yn yr un manylder â chyfres Proffwydo 2010 – byth eto y gwna i hynny!

Ac wedi hynny, ac y mae’n farn ddigon cyffredin erbyn hyn, Cymru’n Un Rhif 2 fydd hi. Yn bersonol, dwi’m yn frwd dros hynny o gwbl. Cawn weld.

Ar yr un diwrnod mae ‘na refferendwm arall, sef un DU gyfan am y Bleidlais Amgen. Yr unig reswm y bydda i’n pleidleisio yn y refferendwm ydi y bydda i yn yr orsaf bleidleisio ar y pryd. Dwi eisoes yn rhagweld pleidlais ‘Na’ yn y refferendwm hwnnw – a ‘na’ y bydda i’n pleidleisio – heb fawr frwdfrydedd – hefyd. Mae hi’n system flêr, gymhleth a drud i’w gweinyddu heb sôn am fod yn llai cyfrannol na’r system bresennol hyd yn oed. Ac fel ambell un ohonoch dwi’n siŵr, er fy mod i’n licio fy ngwleidyddiaeth, ac yn sicr ystadegau a ffigurau, fedra i ddim cweit cael fy mhen rownd y system ei hun, ac nid er ceisio. Hefyd dwi’n rhyw deimlo y gallai fod yn system a fydd yn cyfrif yn erbyn y Blaid – os nad o ran ‘pleidleisiau’, o ran seddau.

Mi fydd yn flwyddyn wleidyddol ddiddorol eleni. Wel, y pum mis cynta de, fydd hi’n eitha boring ar ôl hynny – dyna un broffwydoliaeth dwi’n eithaf hyderus amdani!

Nessun commento: