lunedì, maggio 09, 2011

Y Cam Nesaf i Blaid Cymru

Os daeth unrhyw gysur o etholiad 2011, hynny oedd o leiaf fod proffwydo pawb arall gynddrwg â’m un i! Mae’n dangos sut y gall ambell bleidlais fan hyn fan draw newid lliwiau gwleidyddol yn sylweddol. Ond yr unig ffon fesur ydi nifer y seddi. Roedd etholiad 2011 yn fethiant gwleidyddol mawr i Blaid Cymru.

Wedi cael amser i feddwl am y peth a rhoi emosiwn i un ochr, hoffwn gynnig ambell sylw a hynny’n fras – ‘sdim pwynt gwastraffu geiriau ar Blaid sy ddim yn gwrando.

Dwi’n gweld eisoes yr un ymateb gan y Blaid i’r hyn a ddigwyddodd – cymysgedd o esgusodion, ceisio edrych ar yr ochr orau pan nad oes un mewn gwirionedd, mynnu mai chwarae’r gêm hir ydyw ac felly nad oes angen poeni. Mae hunanfoddhad yn un o nodweddion gwaethaf Plaid Cymru. Mae’r Blaid yn hoff o feddwl bod ei chanlyniadau diweddar yn ‘blip’ bob tro. Cadarnhaodd 2011 fod dirywiad Plaid Cymru wedi bod yn gyson – dyma’r trydydd etholiad gwael o’r bron iddi. Nid ffliwc mo hynny, mae ‘na resymau pendant drostynt.

Beth oedd y rhesymau? Cwestiwn anodd efo ateb syml, dybiwn i, ac ateb y soniwyd amdano eisoes. Mae gan Blaid Cymru seiliau cadarn – mae’r drefniadaeth yn dda, y cyllid yn dda, mae iddi ddigon o wirfoddolwyr a pheiriant etholiadol trawiadol. Felly pam bod Llafur yn gallu gwneud cystal ag y mae heb y pethau hynny?

John Dixon oedd yn iawn: gwahaniaethau. Mae’r gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a’r pleidiau eraill yn gwbl, gwbl anweledig. Rhydd i bawb ei farn, ond does fawr amheuaeth am hyn; mae gan Blaid Cymru ofn dirfawr o’i phwynt gwerthu unigryw, sef ei chenedlaetholdeb. Nid oes dim yn ei hymgyrchu dros y blynyddoedd wedi awgrymu ei bod yn blaid ddigyfaddawd genedlaetholgar.

Does dim ots pwy ydi’r arweinydd mewn gwirionedd os ydi Plaid Cymru yn parhau i fod mor bathetig yn yr ystyr hwn. Heb ei chenedlaetholdeb, ni all gadw ei phleidlais graidd na sicrhau pleidleisiau newydd. Does ‘na fawr o bwynt manylu ar natur ei chenedlaetholdeb – mae annibynniaeth a’r sylw pathetig a gaiff yn enghraifft amlwg iawn – achos bod y diffyg ohono mor amlwg. Nid dyma blaid Saunders na Gwynfor, ac mae hynny’n gondemniad llwyr.

Mi ellir cymharu hyn â’r SNP. Er bod sefyllfa wleidyddol Cymru a’r Alban yn gwbl wahanol mae gwers amlwg sef bod yr SNP wedi llwyddo drwy fod yn hyderus yn ei chenhadaeth genedlaetholgar. Dydi Plaid Cymru ddim. Plaid o reolwyr ydi hi. Lle mae’r tân yn ei bol?

Ta waeth. Rhaid i’r Blaid rŵan fewnsyllu arni ei hun, ac ystyried y ffordd ymlaen. “Dysgu gwersi o’r etholiad hwn” fu’r gri am dri etholiad bellach. Yn ôl ei hanes diweddar, ‘sgen i ddim ffydd y bydd Plaid Cymru yn gwneud hyn yn y dyfodol agos. Ac, efallai, mai dyna'r broblem fwyaf oll.

1 commento:

Anonimo ha detto...

I grynhoi:

2003: bradychu'r Fro Gymraeg: colli 6 sedd yn y Cynulliad

2004: Colli Rhondda Cynon Taf

2005: Colli Ceredigion; ddim yn ennill Mon

2007: penderfynu cefnogi Llafur, yn hytrach na ffurfio ei llywodraeth ei hun

2008: Colli mwyafrif yng Ngwynedd

2008?: Colli sedd Ewropeaidd

2010: Colli Ceredigion o 8,000 o bleidleisiau; methu ennill Mon

2011: Colli 4 sedd yn y Cynulliad.

Ac mae Ieuan Wyn yn arweinydd o hyd!