giovedì, ottobre 11, 2012

Cynghrair y Cymry Cymraeg - Ymhelaethu

Dw i’n teimlo angen i ymhelaethu ar yr hyn a ddywedais yn fy mlogiad diwethaf – ac ymateb i raddau - waeth cyn lleied o sylw a gaiff y blog hwn y dyddiau hyn (ac yn ddigon haeddiannol hynny ‘fyd medda fi)! Achos nid jyst bod yn bryfoclyd oeddwn i. Y mae gwir angen i rywun sefyll yn ddi-sigl dros y Cymry Cymraeg a’r iaith Gymraeg, â pheidio ag ildio arni er mwyn plesio unrhyw fwyafrif. Nid ar ffurf mudiad protest fel y Gymdeithas, na grŵp lobïo fel Dyfodol, ond ar lefel uchaf ein gwleidyddiaeth. Gan ei fod yn gynyddol amlwg nad ydi Plaid Cymru isio’r rôl honno, a chan hynny ddim yn haeddu ei chael, mae angen dewis arall clir.



Dydw i ddim yn arddel y dylai rhywbeth fel Cynghrair y Cymry Cymraeg, neu ba beth bynnag y byddo’i galw, fod yn blaid un pwnc - sef sefyll dros yr iaith a dyna ni. Ond fe ddylai ei pholisïau, boed ar addysg, yr economi, neu hyd yn oed iechyd, gylchdroi o amgylch yr iaith Gymraeg h.y. awgrymiadau i gael yr economi i weithio er lles y Gymraeg, cynlluniau i sicrhau gwasanaethau Cymraeg i gleifion (yn enwedig mewn rhai meysydd penodol), strategaeth addysg Gymraeg gref yn hytrach na’r un siomedig sydd gennym ar hyn o bryd. Nid yw hynny’n unbynciol, mae’n strategaeth genedlaethol â’r Gymraeg ynghlwm wrth bob elfen ohoni. Os ydyn ni o ddifrif ynghylch parhad yr iaith, mae angen gwneud hyn a chael rhywun i frwydro drosto. Wn i ddim ai dulliau chwyldro, chwedl Saunders, yw’r ffordd o gyflawni hynny – ond mae o hyd angen gwyrth chwyldro ar y Gymraeg i sicrhau dyfodol o unrhyw werth iddi a’i hachub rhag dynwared Gwyddeleg.


Yn gryno felly, mi ydw i fy hun yn ddigon argyhoeddedig mae’r hyn sydd ei angen ar yr iaith ydi plaid i’r Cymry Cymraeg, er mai un elfen o blith nifer ydi hynny.


Yn ymarferol fyddai rhywbeth felly’n anodd, dw i’n deall hynny; a hynny oherwydd y system etholiadol (a nifer fechan y seddi yn y Cynulliad) yn fwy na dim arall. Pe bai system gyfrannol deg gennym, fyddai gen i ddim gronyn o amheuaeth mai dyma fyddai’r ffordd i fynd, ac y gwelai plaid o’r fath lwyddiant etholiadol - o fod yn strategol a rhoi ymdrech iddi. Nid llwyddiant ysgubol, mae’n siŵr, ond mesur digon ohono i allu cael dylanwad, yn enwedig pe bai system gyfrannol yn bodoli. Jyst digon i allu mynnu pethau allweddol i Gymry Cymraeg.


Ond eto wele gyfansoddiad pleidiol y Cynulliad cyfredol - gallai plaid a chanddi un neu ddwy sedd yno gael dylanwad mawr, o wneud y penderfyniadau cywir. Ni fyddai Cynulliad 80 sedd (40 cyfrannol yn lle 20) yn wahanol iawn o ran cydbwysedd grym, gyda llaw. Na, dydi hi ddim yn hawdd i bleidiau llai gyrraedd y Bae, mi gyfaddefa i hynny, ond gallai plaid mor benodol wybod yn union le mae ei phleidleisiau a’u targedu.


Problem Plaid Cymru efallai ydi, waeth beth a wnaiff, ei bod am gael ei hystyried fel plaid y Cymry Cymraeg beth bynnag, a thebyg mai ei hanes o hyn allan fydd ceisio dadwneud y ddelwedd honno drwy fod yn llai cefnogol, a mentraf ddweud, balch, o’r Gymraeg – yn sicr drwy beidio â chorddi dros yr iaith. Fydd llawer o bobl sy’n darllen hwn o’r farn bod y broses honno eisoes wedi dechrau. ‘Sgen i fawr o amheuaeth am hynny. Ond dydi Plaid Cymru ddim yn dangos unrhyw arwydd o ennyn cefnogaeth y di-Gymraeg, ac ar y rêt yma erbyn iddi wneud hynny bydd yr ardaloedd Cymraeg, ynghyd â’i chefnogaeth graidd, wedi hen ddiflannu beth bynnag. Rhaid rhyddhau'r Blaid o faich nad ydi hi ei eisiau.


Ni fyddai angen i Gynghrair y Cymry Cymraeg boeni am ddenu’r di-Gymraeg, a gallai fod yn hapus a balch ddigon o’i label fel y blaid sy’n cynrychioli’r Cymry Cymraeg. Nhw ydi ei hetholaeth hi, a’u pleidleisiau nhw fyddai’n rhaid eu denu. A dyma pam y dywedais na fyddai angen i blaid o’r fath o reidrwydd fod yn un genedlaetholgar. Y nod ddylai fod apelio i Gymry Cymraeg waeth ble maen nhw, er mai canolbwyntio ar y Fro (a mwy na thebyg Caerdydd) y byddai mae’n siŵr. Creu bloc gwleidyddol cadarn sy’n seiliedig ar hunaniaeth ieithyddol. Ni fyddai bwgan annibyniaeth yn gorfod bod yn gysgod arni chwaith – llewyrch y Cymry Cymraeg ydi’r nod. Dyn ag ŵyr, dw i’n teimlo’n iasoer o feddwl am ffawd yr iaith mewn Cymru annibynnol pe teyrnasai plaid fel Llafur beth bynnag!


Bydd rhai yn dadlau mai rhannu’r genedl a wnâi tacteg o’r fath. Ond efallai y dylen ni fod yn onest am hyn hefyd – y mae Cymru’n rhanedig beth bynnag a’r rhaniad mwyaf ynddi ydi’r iaith Gymraeg; ac mae syniadau’r rhai Cymraeg a Saesneg eu hiaith o’u cenedligrwydd yn aml iawn yn dra wahanol. Efallai yn wir y gellid dadlau mai dwy genedl sy’n rhannu’r un tir ydym ni i raddau. ‘Sdim yn bod efo hynny, os mae felly mae hi. A ‘sdim yn bod chwaith efo plaid sy’n amddiffyn buddiannau un elfen leiafrifol o gymdeithas mewn cenedl o’r fath; maen nhw’n bodoli ar y cyfandir a rhai yn gwneud yn iawn. Ein syniad ni o Gymru a Chymreictod, a mynnu undod, efallai, ydi’n problem ni.


A beth sydd bwysicaf beth bynnag – undod cenedlaethol y Cymry, neu achub yr un peth sydd o’i hanfod yn gwneud Cymru yn wlad unigryw?


A rhaid inni fod yn gwbl onest fan hyn, pan mae’n dod i'r iaith, mae hi’n rhywbeth sy’n annwyl i’r rhan fwyaf o’r Cymry Cymraeg, ond y gwir ydi does fawr o ots gan y Cymry di-Gymraeg amdani mewn gwirionedd. Lled-gefnogol fyddai’r gair addasaf.


Dyma’r sefyllfa fel dw i’n ei gweld hi – a byddwn i’n pwysleisio fy marn bersonol ydyw. Ond gallwn ni ddim jyst mynd ymlaen i ddweud ‘dwi’n siomedig efo Plaid Cymru’ neu ‘angen cic yn din sydd arni’ ac wedyn gweld nad oes dim yn digwydd a’n bod ni’n mynd i’r blychau pleidleisio drachefn ac yn efelychu’r miloedd ddefaid Llafuraidd eithr mewn gwisgoedd gwyrddion, nes i ninnau’r Cymry Cymraeg raddol ddirywio nes diflannu’n llwyr yn y pen draw.


***

Er diddordeb, ysgrifennais dair blynedd yn ôl flogiad ‘Y Pedwar Math o Genedlaetholdeb yng Nghymru’. Roedd dau penodol: Cenedlaetholdeb Traddodiadol/Diwylliannol, a Chenedlaetholdeb 'Dinesig’ (neu Sifig). Dw i’n meddwl, os ca’i fod mor hy â dweud, efallai fy mod wedi taro’r hoelen ar ei phen o ragweld y newid o’r cyntaf i’r ail, er i hynny ddigwydd yn llawer cynt na’r disgwyl – dyma ddyfyniad am y newid hwnnw o'r blogiad...


O ran yr iaith, bydd un o ddau drywydd, sef trywydd llwyddiannus Catalonia neu Wlad y Basg, neu enghraifft ddifrifol yr Iwerddon. Fel Cymry, rydym yn edrych tuag at enghreifftiau penrhyn Iberia a’r ynys werdd, a dyletswydd y cenedlaetholwyr traddodiadol fydd sicrhau mai ar drywydd Iberia yr awn. Ta waeth, gwelwn ddatblygiad y ffurf hon ar genedlaetholdeb ar fyr o dro mi dybiaf; mi all fod yn ysgubol lwyddiannus os fe’i gwneir yn iawn, ond gallai hefyd fod yn hynod boenus i’r cenedlaetholwyr diwylliannol – fydd yn ddiddorol, o leiaf.

1 commento:

Anonimo ha detto...

Yr hyn sydd wir angen ar Gymru nawr ydi Mudiad hanes ymosodol fel Cofiwn gynt.

Mae'r Brits am odro canmlwyddiant y Rhyfel Fawr i gyflawni tric anhygoel - dangos fod rhyfel mawr yn arwydd o erchyllterau cenedlaetholdeb cul (Cymru, Alban) a bod angen i ni 'ddod at ein gilydd' fel Prydeinwyr i wneud yn siwr nad ydym yn danfon ein gilydd i'r ffosydd.

Sut mae'r mudiad cenedlaethol am ymateb i hyn?

Mae angen paratoi nawr fel na fydd yn bosib cael rhyw muzak Brit Nat fel cawsom ni dros yr haf.