lunedì, luglio 29, 2013

Cerddoriaeth a Dirmyg

Tydw i ddim yn gigydd – hynny yw, rhywun sy’n licio mynd i gigiau, yn hytrach na’r bobol trin anifeiliaid celain. Meindiwn i ddim fod yn gigydd o’r math hwnnw achos dwi’n rêl boi am gig, ac yn eithriadol ddrwgdybus o lysieuwyr. Be ydi’i gêm nhw dŵad?

Ond yn gyffredinol welwch chi mohonof mewn gig.  Er, dibynna hynny ar y math o gig sy dan sylw. Os oes ‘na ddigon o le mae’n bosib y byddaf o gwmpas. Ro’n i yng Ngŵyl Gardd Goll ddoe, ac mae hynny’n iawn imi achos ga’i nôl ‘y nghwrw a sgwrsio efo fy ffrindiau heb amharu ar neb ond amdanyn nhw. Allwch chi ddim gwneud hynny mewn llawer o gigiau bychain achos disgwylir bryd hynny i rywun roi gwrandawiad. Ydw, dwi’n un o’r rheiny y mae pawb yn gwgu arno mewn gig fach achos dwi’n cymdeithasu yn hytrach na gwrando. A phan fydda i wedi cael peint does neb na siarada i â nhw. Felly tueddu i gadw draw o’r gigiau hynny ydw i.

Yn bersonol, dwi byth wedi deall yr holl ‘mynd i gig i wrando’ thing. I mi, mae bandiau bob amser yn swnio’n well ar gryno-ddisg beth bynnag, a gwell gennai dalu tenar am CD y galla i ei chwarae dro ar ôl tro na mynd i weld rhywun yn canu oddi ar lwyfan ac wedyn gorfod talu am gwrw eniwe.

Oce, mae ‘na eithriadau. Cyn belled ag y mae gigiau Cymraeg yn y cwestiwn chewch chi ddim gwell na gig Bryn Fôn. Mae’r rheiny’n hwyl ar y diawl – mae pawb yn racs jibidêrs a phawb yn cydganu rhai o’n caneuon mwyaf poblogaidd, a fawr ddim ohonyn nhw’n ‘bobol miwsig’. Wyddoch chi y teip hwnnw sy’n mynd i gigiau bob munud. Gwallt cyrliog, sbectol sgwâr, chinos (o mam fach dwi’n casáu blydi chinos), pobl y gwnâi pythefnos yn hel defaid fyd o les iddynt. Meddaf i yn gyfieithydd i gyd...

Tydw i’m isio bod yn rhy ddirmygus cofiwch, dwi’n licio cerddoriaeth yn fawr iawn hefyd. Does ‘na ddim llawer o gigiau dwi wedi bod iddynt nad ydw i wedi’u mwynhau mewn difrif – Meic Stevens yn methu cofio ei eiriau yn Clwb rywbryd oedd y gwaethaf mae’n siŵr. Dyna oedd gwastraff pres. Ond dyna ni, hanner yr hwyl efo gig Meic Stevens ydi ceisio dyfalu pa mor chwil fydd o wrth gyrraedd.

Gan hynny dwi yn licio fy ngherddoriaeth Gymraeg. Mae ‘na lot o fandiau ac unigolion dwi’n eu hoffi – y mae'r casgliad CD’s sy’n y car yn eithaf rhyfeddod i rai pobl, gan amrywio o’r Ods i Hogia’r Wyddfa. Ac wrth gwrs Celt. Byddai peidio â chael CD Celt yn y car, a dŵad o Rachub, yn bechod marwol.

Ond dwi’n meddwl y band Cymraeg imi ei fwynhau fwyaf dros y blynyddoedd diwethaf ydi Gwibdaith Hen Frân. Mi brynais eu cryno-ddisg newydd heddiw a gyrru o amgylch Pen Llŷn yn gwrando arni (gan fynd ar goll am tua awr, fyddwn i’m llai coll ‘tawn i’n Japan i fod yn onest). Wn i ddim a ydi’r gymhariaeth wedi’i gwneud o’r blaen ond mae Gwibdaith yn debyg iawn, iawn i Hogia Llandegai – fersiwn gyfoes ydyn nhw. Fydda i ddim yn gallu stopio gwenu yn gwrando ar Gwibdaith.  Dwi’n siŵr i rai o bobl Pen Llŷn gael eithaf sioc fy ngweld i’n gwenu achos does gen i mo’r wên ddeliaf yn y byd. Mae’n edrych braidd fel bod rhywun ‘di selotêpio banana i’m hwyneb.

Fydda i’n fwy tebygol o fynd i gig tra dwi’n Gogs ‘fyd yn hytrach na Chaerdydd. Er gwaethaf ei rhinweddau, ac mae llawer iawn ohonynt, mae gan Gaerdydd wendidau mawr. Y peth dwi ddim yn ei licio am y brifddinas ydi nad ydw i’n nabod fawr neb sy heb swydd bonslyd. Celfyddydau, cyfryngau, cyfieithu, addysgu, Llywodraeth ... mae ‘na rywbeth annormal iawn am Gymry Cymraeg y ddinas, maent yn perthyn i’w byd bach eu hunain. ‘Ffug’ ydi’r disgrifiad casaf dwi wedi’i glywed am i’w disgrifio, er rhaid imi ddweud byddwn i ddim yn anghytuno. Ydi, mae Cymry Cymraeg Caerdydd yn licio 'cael eu gweld' a chael eu nabod. Pe byddwn yn fentrus mi awgrymwn eu bod yn lleiafrif swnllyd a hunanbwysig sy'n gwneud fawr ddim lles i ddelwedd yr iaith. Ond gwell imi beidio bod mor fentrus â hynny. I fod yn deg, byddai hynny'n orgyffredinoli mawr.

Rhaid dweud, y mae rhaniad mawr, eithaf chwerw ar adegau, rhwng y Cymry Cymraeg dinesig – Caerdydd yn benodol – a’r Cymry Cymraeg cefn gwlad. Fel Cymro Cymraeg cefn gwlad (hynny ydi, o’r gogledd neu’r gorllewin yn hytrach na ‘chefn gwlad’ yn ei wir ystyr) sy’n byw yn y ddinas dwi wedi gweld dwy ochr y peth. Mae’r dirmyg sy gan y ddwy garfan at ei gilydd yn eithaf dwfn.

Ond wyddoch, maen nhw’n gwisgo chinos yn y ddinas. A tydi hynny, ym mha gyd-destun bynnag, jyst ddim yn iawn.

Nessun commento: