sabato, gennaio 04, 2014

Tawelwch

Byddwch yn dawel. Darn arbennig o gyngor os bu erioed.

Wn i ddim faint o bobl dwi’n eu nabod sy’n ofn tawelwch, ond dwi yn nabod lot ohonyn nhw. Ofn ydi’r gair priodol hefyd, nid jyst ‘ddim licio’ ydi o – ofn. Mae o fel bod tawelwch yn pefrio ochrau tywyllaf y meddwl, yn meddiannu popeth ac yn styrbio arnynt yn ddifrifol.

Dwi efo’r Pab ar hyn. Actiwli dwi efo’r Pab ar lot o bethau. Y mae Ffransis yn ffwc o Bab os ydach chi’n gofyn i fi. Mae o’n ei dallt hi, yn well na fi ac yn sicr yn well na chi. A dweud y gwir, mae gan Babau yn gyffredinol lot o bethau pefriol a chall i’w ddweud os ydych chi’n fodlon gwrando, hyd yn oed os ydych chi’n anghytuno: a dwinnau’n un o’r rhai sy’n gwrando. Ond mi ddywedodd yn ddiweddar mae un o broblemau’r byd modern ydi ei fod yn llawn sŵn a phrysurdeb – does dim lle i dawelwch a myfyrio. Lle mae’r tawelwch? Yn fy mhrofiad i, mae mwy o wirionedd mewn tawelwch na holl eiriau’r hen fyd swnllyd hwn.

Efallai bod hyn yn deillio o fyw ben fy hun. Roeddwn i’n arfer bod yn gymeriad nad oedd yn or-hoff o’i gwmni ei hun, sy’n ddealladwy mewn difrif gan y gallaf gyfrif bod yn ddigydymdeimlad, yn feirniadol ac yn ddiamynedd ymhlith fy ngwendidau niferus (dwi’m yn falch o’r rheiny wrth gwrs, ond gan fod fy rhinweddau basically yn cynnwys dealltwriaeth dda o ramadeg a gallu gwneud ffwc o basta sôs, wel, mae nhw actiwli yn fwy deniadol na’r rhinweddau tydyn?). Dwi’n licio tawelwch. I mi, mae tawelwch yn arwain at dawelwch meddwl. Jyst weithiau, mae’n rhaid i mi ddiffodd y teledu, a rhoi i’r naill ochr unrhyw ddeunydd darllen, ac ista yno fel lwmp o ham, yn myfyrio (mae’r ‘lwmp o ham’ yn cyfeirio ar yr eistedd yn hytrach na’r myfyrio, i ni gael dallt ein gilydd).

A dweud y gwir, dwi ddim bob amser hyd yn oed yn myfyrio. Ond mae’r ychydig funudau – weithiau munudau lawer – o dawelwch hynny’n angenrheidiol ac yn adfywiol. Achos jyst weithiau fydda i’n meddwl dwi’n ei dallt hi fy hun. Weithiau mae prysurdeb y byd jyst yn rhy blydi swnllyd ac arwynebol. Tydan ni ddim yn cael amser i feddwl.

Dwi’n dallt yr ofn sydd gan bobl o dawelwch, fodd bynnag, er fy mod i ddim yn ei rannu. Mae gan bawb ei groes i’w chario a tydi pobl ddim yn licio hel meddyliau am y pethau drwg yn eu bywydau, a phan ydan ni dani’n licio meddwl mai arnom ni y mae hi waethaf (er y gwyddom ym mêr ein hesgyrn nad dyma’r achos go iawn). Ond o gymryd yr amser hwnnw i feddwl, neu i fod yn fanylach, adael i’r meddyliau ddod atoch chi, dwi’n meddwl ein bod yn y pen draw yn dod i’r casgliad bod pethau’n eithaf da, neu’n weddol, wedi’r cyfan. Y mae cyfri ein bendithion yn beth rydyn ni’n llawer rhy gyndyn, ac yn aml hunandosturiol, i’w wneud.

Does fawr o dawelwch yn y tŷ yn Rachub, fodd bynnag. Gyda Dad â rheolaeth lwyr ar y remôt, fydd y foliwm byth yn is na ffwl blast, a fedra i ei glywed yn gwylio Splash ar ITV yr holl ffordd yma’n fy llofft. Dwi’n siŵr na wnâi Ffransis yn fath beth petai o yma.

Nessun commento: