giovedì, aprile 27, 2006

Varnish

Dw i newydd ddod yn ôl o ddarlith a mae'n 'stafall i'n drewi o varnish. Bai'r garej drws nesa' ydi hyn, mi dybiaf, a chan fy mod i'n byw yn yr atig mae 'na lot o ogleuon o fanno yn treiddio'u ffordd yma. Dw i, fodd bynnag, ddim yn hoffi ogla varnish a dw i'n teimlo'n sâl iawn, rhwng hynny a chlywed Lowri Dwd yn snwfflian drwy ddarlith ar Saunders Lewis.

Dw i a Haydn ac Ellen am fynd i arwyddo am ein tŷ ar gyfer flwyddyn nesa', a dw i'n ofni fy mod i wedi ffwcio popeth i fyny. Un crap fues i erioed am arwyddo dogfennau a ballu, a dw i 'di anghofio cael rhywbeth gan Mam i brofi ei bod yn bodoli (fel nad ydw i'n ddigon o dystiolaeth...!) felly gobeitho y cyrrhaeddith hwnnw erbyn Ddydd Sadwrn. Dros ffordd i TGI Fridays y byddwn ni (dachi'n gwybod, y lle 'na sy'n codi crocbris am fwyd anwreiddiol a normal), sy'n bell iawn o Clwb Ifor a 'dwn i ddim sut ddiawl dw i am ffeindio'n ffordd i adra bob nos Sadwrn. Mi a farwaf cyn cyrraedd adra, hynny mi wn.

Neithiwr mi gefais i araith gan Kinch ar rwbath nad oeddwn i'n deall. Mae o'n astudio Ffiseg Meddygol (neu rhywbeth tebyg, dw i'm yn cymryd gormod o ddiddordeb yn ei fywyd annuwiol) a'r araith oedd am gyhyrau yn y braich. Eisteddais i yno am chwarter awr yn gwrando arno fo ac yn dallt dim, er roedd gennai'r cwrteisi cyffredin i ddweud ei fod yn ddiddorol a fy mod wedi mwynhau'n arw. Un am ddysgu pethau newydd fues i erioed. 'Sa chi'm yn coelio'r pethau dw i wedi dysgu yn ddiweddar. Fel Psalm 23. Eniwe. Serch hyn, wedi ei weld yn ystryffaglu cofio'i eiriau fedra i ddim helpu ond meddwl y bydd o'n suddo heddiw, yn gorfod adrodd o flaen penaethiaid pwysicaf ei gwrs a'r myfyrwyr.

Fel yna ydw i hefyd. Hoffwn i feddwl fy mod i'n berson eitha hyderys ar y cyfan; dw i'n ddistaw, ydw, yn llawer ddistewach na mae pawb yn fy ngwneud allan i fod, ond 'sgen i ddim hyder o gwbl yn siarad o flaen pobl. Dw i'n crynu a dw i'n siarad fel bo gennai faget yn sownd yn fy nghorn gwddw, yn ailadrodd fy hun, yn ailadrodd fy hun (welsoch chi mo hwnnw'n dod naddo?!) ac yn gyffredinol ffwcio pethau fyny. A'r peth ydi hoffwn i ddim gwell na bod yn areithiwr o fri, heblaw am ryddhau Cymru, prynu tafarn a bomio Bethel i uffern dân. Ydw i'n gofyn gormod o fywyd?

Nessun commento: