giovedì, aprile 13, 2006

William Salesbury

Dwi byth wedi ystyried fy hun yn un o fêts Wil Salesbury. Fe gyfieithodd o, gyda help, y Testament Newydd i'r Gymraeg a gwneud ambell i eiriadur a ballu, ond fyw imi fynd am beint efo fo. Dyn deallus ydoedd gyda diddordeb ymhob maes o'r byd, a myfyriwr y Gymraeg ydw i efo dim diddordeb mewn dim oni bai am Fosters a sut i beidio tacluso'n 'stafell am wythnos arall. Prin y byddai trafodaeth rhyngom ni.

Serch hyn, dyma fi yma yng Nghaerdydd yn ceisio ysgrifennu traethawd amdano (bydda fo 'di licio hynny. Efallai yn yr oesau a ddêl y bydd myfyrwyr neu blant ysgol yn ysgrifennu traethodau amdanaf i, wn i ddim). Bydd pawb sy'n darllen y blog ma'n eitha rheolaidd (fi) efallai'n cofio fy mod i'n dweud dw i'n eitha da am wneud traethodau yn eithaf sydyn heb wybod fawr o ddim amdanynt. Blagiwyr wyf fi, a blagiwr a fyddaf hyd fy niwedd trist, ond mae'r hen Wil Salesbury wedi'n stwmpio. Dw i o'r farn bod y boi mor glyfar fel ei bod yn rhagweld y bydda rhywun fatha fi'n gorfod ysgrifennu traethawd iddo ac yn mynd ati i fod yn glyfar dim ond er mwyn fy sbeitio.

842 o eiriau mewn tair awr. Mae hynny'n record o arafrwydd imi. A dw i wedi blino hefyd, cofiwch. Dw i wedi teithio dros fil o filltiroedd wythnos yma (llawer mwy os dachi'n cyfri mynd i'r Weriniaeth Tsiec). Dw i hefyd yn eithaf digalon felly dw i am alw ar ffrind i godi fy nghalon

Sbiwch pwy sy 'ma! Y Sock Mynci! Aaah, efe a'm gwylltiodd y tro diwethaf ond roeddwn i angen ei weld o'r tro hwn! Smai fwnci? Isho banana? (nis ateba'r Sock Mynci, o'r herwydd mai nid dim ond mwnci ydyw, ond hosan hefyd).

Dw i'n teimlo gymaint well rwan felly gwell mi wneud mwy o waith! Warwwww!

Nessun commento: