giovedì, agosto 17, 2006

Obitus Ante Dyfed

Obitus Ante Dyfed ydi arwyddair swyddogol Rachub. Ni wyddwn i hynny o'r blaen.

Fedra i'm stopio i siarad. Wir-yr. Dwisho cawod, achos fe fues i'n Llangefni neithiwr, a mae pawb angen cawod ar ôl noson allan yn Llangefni.

Ffe es i Sioe Mon gyda Kinch a fe welsom Dewi Tal ac yntau a ddangosodd ei syn-tan a'i ddefaid inni. Dwi byth wedi sylweddoli mor fawreddog ydyw bôls meheryn o'r blaen, chwaith. Ond mae'n rhaid 'u bod nhw'n brifo wrth redeg o gwmpas.

Cefais gyri neithiwr. Dyna pam rwyf ar frys. Ta ra!

1 commento:

Rhys Tudur Owen ha detto...

sumai? Gan bo chdi'n hen law ar y blogio ma sa chdi'n gallu deutha fi sud wti'n uploadio llynia a'r dy flog a gosod linc i flickr 'fyd?