mercoledì, maggio 02, 2007

Blog byw a Lidlo'i

Wedi bod yn chwilio’r we dw i’n gweld bod ‘na bobl yn gwneud blogio byw ar noson yr etholiad. Gan fy mod i’n aros i fyny, gwaeth i mi wneud hefyd, dw i’n meddwl. Dw i byth wedi blogio’n fyw o’r blaen a dw i’m yn hollol siŵr sut mae gwneud, ond mi ffeindia’ i ffordd. Ond mi fyddai’n fy ngwely erbyn 3. Mae gan rhai ohonom waith, er mae hefyd angen rhai ohonom i amlygu diffygion cosmetic rhai o’r ymgeiswyr a chwyno pa mor boring fydd y noson ar y cyfan a pa mor unig ydw i tra nad yw Dafydd Wigley yn edrych yn unig o gwbl.

Eniwe, ar ôl rant cynnar bore ‘ma mi af ymlaen i ddywed am y Trip i Lidl. Dw i wedi dweud o’r blaen, fel y bydd y selogion yn gwybod, bod Lidl yn un o’m hoff siopau; dw i’n teimlo fel Gary Glitter ar daith o’r Mudiad Ysgolion Meithrin yno. Mae’r dewis yn anhygoel a’r bwyd o safon dda (h.y. nid o Brydain).

Y broblem yw dw i’n mynd ar sbri wario, ac yn prynu pethau nad ydw i wirioneddol eisiau - roedd neithiwr yn cynnwys planhigyn wy a Rice Crackers (mi rof hwnnw i Llinos, mi fwytiff honno rywbeth).

Ma’n ysgwydd i’n brifo ar y blydi gadair ‘ma.

3 commenti:

Blamerbell ha detto...

Dwi'n edrych ymlaen at dy gyfraniad:)

Hogyn o Rachub ha detto...

Hoho dylet ti ddim...

Anonimo ha detto...

Ti'n teimlo fel Gary Glitter pan tithau ar daith o'r Mudiad Clwb Meithrin!!! Ti'n bido!