giovedì, maggio 10, 2007

Ystadegau

Am dridiau dw i wedi bod isio cwyno am rhywbeth ar y blog ‘ma, ac am dridiau dw i wedi anghofio. Nid pobl Metro, fy ffrindiau na gwleidyddiaeth mohono, ond mae’n mynd ar fy nerfau. Nid myfyrwyr, na theulu nac arferion cythryblus eraill sy’n dwyn fy mryd, na’r tywydd na bwyd na phwysau bywyd arnaf.

Sut bynnag, dw i’n hoff o ystadegau, a sut mae pobl yn cyrraedd blogiau (nid f’un i yn nuig). Blwyddyn yn ôl, roedd 38% o’r pobl oedd yn cyrraedd fy mlog (o beiriant chwilio) yn ysgrifennu ‘Rachub’ i mewn, a 30% yn ysgrifennu ‘hogyn’, sy’n rhoi cyfanswm o dros dwy ran o dair i ‘Hogyn o Rachub’ mi dybiaf.

Nid felly heddiw. Mae Rachub ar 19% a Hogyn ar 14% - sef tua thraean rhyngddynt. Wedi saethu i fyny’r rhestr mae ‘gibbon’ ar 11%, a ‘Little’ a ‘Mermaid’ ar 6% rhyngddynt. Mae fy mhryderu pa fath o bobl dw i’n eu denu yma. Pwy ar wyneb y ddaear sydd isio dysgu am gibbons neu’r Little Mermaid?

Oes gan unrhyw arall stori o bobl od yn dod o hyd i’w blog?


Ond na, mae’r cŵyn wedi mynd, ac un da y bu. Bydda’ i’n ôl os y’i cofiaf, peidiwch â phoeni. Wedi’r cyfan, rydych chi’r un mor bôrd a fi yn y bôn.

3 commenti:

seiriol ha detto...

Beth wyt ti'n defnyddio i gadw golwg ar ystadegau'r blog? Nes i drio rhywbeth rhyw dro ond roedd o braidd yn crap.

Hogyn o Rachub ha detto...

Extremetracker - sbia o dan Pwy Sy'n Ymweld? ar ochr dde'r blog ac efallai bydd o ddefnydd

Anonimo ha detto...

Pwy wyt ti'r Hogyn o Rachub?