martedì, luglio 15, 2008

Fy nghas gân

O bosibl, fy nghas gân i ydi ‘Imagine’ gan John Lennon. Heblaw am fod yn diwn ddiflas a hyll, dwi ddim isio byw yn y byd crap mae o’n fwydro amdano, a bob tro dwi’n glywed y gân dwi’n mynd yn flin.

Un o’r pethau mwyaf digalon posibl ydi dychmygu nad oes math o nefoedd. Neu uffern. Dwi’n meddwl pe baem ni gyd yn 100% siŵr nad oedd y ffasiwn bethau byddai’r hen fyd ma’n troi’n llanast llwyr. Prin fod cwymp crefydd a materoldeb pathetig y Gorllwein a’r symud tuag at adfail o gymdeithas yn gyd-ddigwyddiad. ‘Sdim rhaid i rywun fod yn grefyddol i allu gweld hynny.

Wedyn mae’r llipryn sbectols yn sôn am fyd heb wledydd. Rŵan, tra nad ellir dadlau na fyddai neb yn colli Liechtenstein yn ormodol, fedra’ i ddim meddwl am fyd heb wledydd. Prin ydi’r bobl nad ydynt yn ymfalchïo yn eu gwlad a phrin hefyd y rhai sy’n ymfalchio mewn rhywbeth yn fwy na’u gwlad. Wn i ddim sut beth yw hunaniaeth anghenedlaethol, ond yn bersonol fydda fo’n rybish.

Dwi’n genedlaetholwr ac hefyd yn grefyddol i raddau helaeth, felly yn amlwg mae byd John Lennon yn swnio’n uffernol i mi.

Ond byddai hynny’n iawn pe baem ni gyd heb math o eiddo. Dwi’m yn credu y dylai popeth fod yn eiddo, ond DIM BYD? Rhyfedd clywed hynny’n dod gan filiwnydd, hefyd.

Prin iawn fod caneuon yn ennyn fy llid, ond caiff y gân hon losgi. Asu, dydw i jyst ddim yn licio hipi-dwdl-aiês, de.

2 commenti:

Anonimo ha detto...

efallai fy mod i wedi sbecian ar facebook ond dwi heb ysgrifennu cofnod gweddol hir yn fy mlog personol!! twt twt yn ol i ti iason.

Anonimo ha detto...

"Ond byddai hynny’n iawn pe baem ni gyd heb math o eiddo. Dwi’m yn credu y dylai popeth fod yn eiddo, ond DIM BYD? Rhyfedd clywed hynny’n dod gan filiwnydd, hefyd."

- hogyn o rachub

"He told us to imagine no possessions, and there he was, with millions of dollars and yachts and farms and country estates, laughing at people like me who had believed the lies and bought the records and built a big part of their lives around his music."

- Mark David Chapman (llofrudd John Lennon)

lwcus bod chapman di cyrradd yna o dy flaen di swn i'n ddeud!