giovedì, luglio 03, 2008

Y Zombies

Pur hysbys ydyw nad un am ffilmiau arswyd mohonof. Hynny yw, dwi’n golygu gwaedlyd i olygu arswyd. Dwi’n eithaf hoff o ryw ysbrydion a ballu, a phethau mwy seicolegol, ond os ceir haid o zombies yn llusgo’u hunain yn cnoi cnawd o amgylch y lle neu arteithio, dwi’n teimlo’n sâl. Sâl yr oeddwn yn Saw III. Aeth fy mhen yn wan yn Hostel. Yn wir, bu gweld trailer ●REC yn ddigon i’m dychryn am y rhan orau o bythefnos.

Afraid dweud, dw i heb alw ar y dewrder i weld y ffilm gyfan. Y dewraf y galla i fod o ran artaith yw mynd o amgylch Virgin amser cinio ac edrych ar yr adran arswyd, oherwydd er troi fy stumog mae gen i dal obsesiwn braidd efo’r pethau gwaedlyd ‘ma, a bob tro yn gwneud y camgymeriad o fynd i’w gweld yn y sinema.

Yn yr un ystyr byddwn i fy hun yn rybish taswn i’n cael fy arteithio. Go iawn rŵan. Nid mawr mo fy nhrothwy poen o gwbl, a phan fo gennyt hen ben glin croc, ysgwydd wael a theimlad ffyni dan dy dafod ers wythnos, nid da mo’r cyfuniad.

O ia, a be ‘di zombie yn Gymraeg?

3 commenti:

Nwdls ha detto...

y meirw byw di'r gosa gei di, ond ma anfarwolion yn eitha hwyl i'w ddefnyddio fyd, os ma'r zombies yn gesus 'lly.

Anonimo ha detto...

Zombie yn Gymraeg????? Iawswn Lydandrwyn dwi'n amau!

Hogyn o Rachub ha detto...

Rhodri, diolch am y wybodaeth.

Dyfed - ffyc off!