giovedì, settembre 24, 2009

Aberconwy

Mi fyddaf yn onest; o ystyried yr holl ffactorau perthnasol dwi o’r farn mai Aberconwy fydd etholaeth fwyaf diddorol Cymru yn ystod yr etholiad nesaf. Mae hi’n etholaeth gwbl newydd, sy’n gyferbyniad rhwng cefn gwlad Cymraeg ei hiaith cenedlaetholgar a’r arfordir Seisnigaidd ei iaith a’i wedd. Roedd y rhan ddeheuol wedi’i chynrychioli gan genedlaetholwyr ers 1974, a’r gogledd gan y Ceidwadwyr ers oes pys cyn 1997, nes i Lafur ennill y flwyddyn honno, ac yn y Cynulliad gan Blaid Cymru rhwng 1999 a 2003 a Llafur rhwng 2003 a 2007. Ond tawel iawn ydi Llafur am ei gobeithion yma.

Yr hyn sydd fwyaf diddorol i mi ydi mai dyma’r frwydr gyntaf sy’n gosod Plaid Cymru yn erbyn y Ceidwadwyr ar lefel San Steffan ers ugain mlynedd (Ynys Môn yn ’87), ar adeg lle y mae Llafur ar drai ac mai’r ddwy blaid hynny sy’n elwa, yn ddigon cyfartal yng Nghymru, o’i dirywiad.

Ac mae digon o arfau gan y ddwy blaid – heb amheuaeth mae gan y ddwy bellach beiriannau pleidiol effeithlon iawn yng Nghymru; fe fydd yn ymgyrch frwd a slic. Ond cyn sôn am y cystadleuwyr, beth am yr also rans?

Yn gyntaf, y Democratiaid Rhyddfrydol. Pwy sydd ddim yn cofio’r gornestau lu rhwng yr hen Ryddfrydwyr a’r Ceidwadwyr yn hen etholaeth Conwy (heblaw amdanaf i, sy’n rhy ifanc wrth gwrs!)? Nid pleidlais ryddfrydol mohoni yn y bôn ond pleidlais wrth-Geidwadol. Cronnwyd honno gan Betty Williams a’r blaid Lafur ym 1997, ac ers hynny dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn rym yma. O hawlio traean o bleidlais Conwy yn ’97, ddeng mlynedd yn ddiweddarach ac ar ffurf Aberconwy, llwyddodd y blaid ennill llai na 10% o’r bleidlais.

Mae Llafur yn wahanol. Mae rhannau o’r etholaeth sy’n gynefin digon naturiol iddi, ond fel y gwyddom erbyn hyn mae’r ardaloedd hynny’n prinhau ac yn troi oddi wrth y blaid. Yn 2007, llwyddodd Llafur i ennill llai na chwarter y bleidlais, llawer llai na’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, er mae’n rhaid cydnabod i hynny ddigwydd ag ymgeisydd a ystyriwyd yn wan iawn.

Ond dangosai 2007 rywbeth arall, sef y gallai Plaid Cymru ennill yma. ‘Sdim dwywaith am y peth, enillodd Plaid Cymru yn llawer haws na’r disgwyl mewn sedd yr oedd y Ceidwadwyr yn disgwyl ei hennill – roedd yn dalcen caled iawn iddynt.

Y tro hwnnw enillodd Plaid drwy ddefnyddio cyn-brifathro uchel ei barch i drechu Dylan Jones-Evans, y byddai rhywun yn amgyffred o leiaf fel rhywun fyddai’n bur fodlon yn rhengoedd Plaid Cymru (p’un a fyddai ai peidio, sôn am ganfyddiadau dwi).

Ond cofiwn hyn hefyd – yn 2007 (hyd fy ngwybod) pleidleisiodd de’r etholaeth yn drymach o lawer na’r gogledd: hynny ydi, trodd yr ardaloedd Plaid Cymru allan i bleidleisio, arhosodd yr ardaloedd Ceidwadol i mewn. Nid dyma fydd y sefyllfa yn 2010.

Y tro hwn? Ymgeisydd Ceidwadol fu’n gyn-aelod amlwg o Blaid Cymru, ac ymgeisydd Plaid Cymru fu’n gyn-blismon. Ar yr olwg gyntaf, y Ceidwadwr sydd â’r fantais, ond cymrwch eiliad i feddwl: enillir Aberconwy ar draethau’r Costa Geriatrica, i bwy y byddai’r bobl hynny fwyaf tebygol o bleidleisio? Cyn-genedlaetholwr neu gyn-blismon?

Dewch i’ch casgliadau eich hun ond mae’n gwestiwn diddorol sydd yn haeddu sylw.

Peidiwn ychwaith â llwyr ddiystyru’r Rhyddfrydwyr a Llafur. Dwi’n credu fy mod i’n gywir i ddweud bod y ddau ymgeisydd yn gynghorwyr yn yr etholaeth, tra bod Phil Edwards yn gynghorydd yn etholaeth gyfagos Gorllewin Clwyd a Guto Bebb, wel, ddim. Anodd ydi rhagfesur yr effaith fechan honno, ond mae gan y ddau o leiaf seiliau lleol nad oes gan y ddau arall, o bosibl – mewn etholaeth y mae disgwyl iddi fod yn frwydr frwd, gall eu pleidlais hwy effeithio ar y canlyniad cyffredinol.

Ffactor arall fyddai’n sicr yn ddiddorol mewn sedd fel hon ydi petae UKIP yn sefyll – mae ‘na bleidleisiau i blaid fel UKIP yma, ac heb amheuaeth mi fyddai ei phresenoldeb yn dwyn pleidleisiau oddi ar y Ceidwadwyr yn fwy na Phlaid Cymru – ni fyddai’n amhosibl iddynt ennill fil neu ddwy o bleidleisiau, ac mi dybiaf yn yr etholaeth hon gallai hynny agosáu pethau’n sylweddol.

Yn ôl i bwynt a wnes yn gynharach, y bleidlais wrth-Dorïaidd a fu’n sail i bleidlais gref y Rhyddfrydwyr yn yr ardal, ac a gronnwyd yn llwyddiannus gan Lafur yn ’97, ’01 a hefyd ’05. Fel y nodais, mae’r Rhyddfrydwyr wedi dirywio’n enbyd yma, ac mae Llafur hefyd yn enwedig o golli ardaloedd lle y mae’n draddodiadol gryf (Bangor a Dyffryn Ogwen) a chael ardaloedd lle y mae’n gymharol wan (Dyffryn Conwy – er y bu’n weddol gryf yn ardal Llanrwst hyd yn ddiweddar). Y buddiolwr mawr ydi Plaid Cymru yn hynny o beth, ond mae colli’r gorllewin yn fantais i’r Ceidwadwyr hefyd.

Os am ennill, mae’n rhaid i Blaid Cymru gronni’r bleidlais wrth-Geidwadol. A all wneud hynny yn Llandudno a Chonwy a Phenmaenmawr? Byddai gwneud mewn etholiad cyffredinol yn gamp a hanner. Mae hon yn dasg y mae Plaid Cymru yn bwriadu ei chyflawni ledled Cymru – bydd Aberconwy yn feicrocosm o ba mor lwyddiannus y mae wedi llwyddo i wneud hynny.

I raddau, mae wedi llwyddo i wneud hyn eisoes yn y sir, gan arwain grŵp gwrth-Geidwadol ar y Cyngor – o leiaf felly fod fwy na thebyg ganfyddiad mai Plaid Cymru ydi’r prif blaid wrth-Geidwadol yma ac mae’n rhaid iddi fanteisio ar y canfyddiad hwnnw.

Dull diddorol o weithio pethau allan yw ystyried isafswm ac uchafswm pleidleisiau’r pleidiau, dull sy’n debyg i’r hyn a ddefnyddiodd Vaughan Roderick yn ddiweddar i wneud ambell broffwydiad. Ystyriwch hyn; yn etholiadau’r Cynulliad llwyddodd Plaid Cymru ennill bron 8,000 o bleidleisiau, a’r Ceidwadwyr tua 6,500. Byddwn i’n dueddol o feddwl bod yr 8,000 hynny nid ymhell iawn o uchafswm pleidleisiau’r Blaid yn yr etholaeth, a dydi o ddim yn afresymol dweud y gall Plaid Cymru ddisgwyl rhwng 7,000 ac 9,000 o bleidleisiau mewn unrhyw etholiad fel rheol.

Ond mae’r Ceidwadwyr yn ffactor dirgel yn hyn o beth – dydi’r lliaws sy’n gefnogol iddynt ddim am bleidleisio mewn etholiad cynulliad, ac eto mae’n amlwg bod eu lleiafswm pleidleisiau (tybiedig) rhwng 6 a 7 mil mewn etholiad cynulliad. Byddwn yn dueddol o ddweud mewn etholiad cyffredinol y gallai’r Ceidwadwyr ddisgwyl o leiaf naw mil o bleidleisiau, sef yn fy marn i, tua uchafswm Plaid Cymru.

Ond i’r Ceidwadwyr ei cholli y mae Aberconwy. Y storom berffaith i Blaid Cymru fyddai UKIP yn sefyll, a’i bod hithau yn llwyddo’n weddol dda i gronni’r bleidlais wrth-Geidwadol (ac er gwaethaf tueddiadau glas gogledd yr etholaeth mae’r bleidlais honno’n un gref), a’u bod yn llwyddo darlunio Guto Bebb fel ‘y cyn-genedlaetholwr’ a Phil Edwards fel ‘y cyn-blismon’. Dwi’n sicr fy marn y gallai’r dacteg honno fod yn frawychus o effeithiol.

Ond ar adeg lle y mae’r polau yn ffafrio’r Ceidwadwyr i’r fath raddau, mae Aberconwy yn sedd y dylent ei hennill os ydynt am ffurfio llywodraeth.

Proffwydoliaeth: mwyafrif rhwng 2,000 a 4,000 i’r Ceidwadwyr dros Blaid Cymru.

8 commenti:

Anonimo ha detto...

Dw i'n cytuno mai i'r Ceidwadwyr mae'r sedd yma'n debygol iawn o fynd. Pleidleisio ar sail enw a daliadau'r blaid fydd y rhan fwyaf o Geidwadwyr yn fy marn i, felly ni ddylai'r ffaith bod Guto'n gyn-genedlaetholwr fod yn broblem iddo. I'r gwrthwyneb, fe ddylai fod yn gryfder. Dw i'n siwr y bydd yn denu canran sylweddol o siaradwyr Cymraeg i'w gefnogi yn yr etholaeth hon a phwy a wyr - fe allai'r mwyafrif Ceidwadol fod yn bum mil neu'n uwch fyth.

Dylan Llyr ha detto...

dadansoddiad rhagorol. Dw i'n cytuno'n llwyr mai Aberoconwy fydd etholaeth difyraf Cymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf

ti'n gwybod lot mwy na fi am yr ardal, ond mae gen i bryderon ychwanegol eto (fel cefnogwr PC), sef bod yr etholiad am fod yn un Prydeinig ac felly mae gogwydd sylweddol Prydeinig am fod tua'r Ceidwadwyr. Yn fwy na hynny, gan mai Llafur ydi'r deilwyr presennol (er eu bod allan ohoni'n llwyr yn y ras mewn gwirionedd), tybed ar lefel Brydeinig a ydi hynny'n cyfateb i "er mwyn cael gwared ar Lafur, pleidleisiwch yn Geidwadol".

Mae Iwcip yn holl bwysig fan hyn dw i'n tybio, fel rwyt yn awgrymu. Dw i'n mawr obeithio y byddent yn cael ymgyrch lwyddiannus yma. Ti'n llygad dy le y byddai cyfanswm "Ceidwadwyr + UKIP" yn trechu Plaid Cymru yn weddol gyfforddus yma, felly waeth bod yn onest ac erfyn ar fathemateg i sichrau bod Iwcip yn cynnal momentwm yr etholiad Ewropeaidd a'n tynnu digon o bleidleisiau oddi ar Bebb. Pryd ddiawl gafodd unrnyw un fwyafrif uniongyrchol yn yr etholaeth yma wedi'r cyfan?

Er hynny, dw i'n rhagweld canlyniad digon tebyg i'r hyn rwyt ti'n ei ddarogan. Mae gan Phil Edwards lot o barch yn lleol ac mae'n foi digon hoffus, ond mae sylw'r wasg Brydeinig yn ddidrugaredd. Pob lwc iddo.

Hogyn o Rachub ha detto...

O ran di-enw, er bod Guto Bebb yn ymgeisydd cryf sy'n addas iawn i sedd fel hon, dydw i ddim yn meddwl y bydd yn denu tyrrau o bleidleisiau o Blaid Cymru am ei fod yn siaradwr Cymraeg - hyd yn oed yn yr etholaeth hon dybiwn i y byddai siaradwyr Cymraeg a'r ardaloedd Cymraeg eu hiaith o hyd yn debycach o lawer pleidleisio dros y Blaid na'r Ceidwadwyr.

Er 'sdim dowt mai'r Ceidwadwyr sydd â'r fantais.

Hogyn o Rachub ha detto...

Dylan, smai stalwm?

Y peth am Aberconwy dwi'n meddwl ydi bod y bleidlais wrth-Geidwadol yn gryf iawn - her y Blaid ydi ei chronni. Dwi ddim o'r farn y bydd hi'n gallu gwneud hynny digon, ond mae'r posibilrwydd yno a dylai ddylai anelu at wneud.

Yn anffodus, dwi ddim yn meddwl bod UKIP yn sefyll yma, ond dwi dal yn meddwl y bydd yn gymharol agos.

Anonimo ha detto...

Efallai y bydd llawer o'r Cymry Cymraeg yn cofio mai clymbleidio a Llafur yn y Cynulliad wnaeth Plaid Cymru. Pa ddiben felly bleidleisio drostyn nhw i gael gwared ar Lafur pan mae ymgeisydd Ceidwadol cryf sy'n medru'r Gymraeg yn sefyll?!

ap Neb ha detto...

Hogyn,
A ydych chi'n debygol o addasu eich proffwydoliaeth parthed Aberconwy, yn sgil y newyddio fod UKIP wedi dewis ymggeisydd i sefyll?

Hogyn o Rachub ha detto...

Wel, mae 'na ddwy ochr i'r geiniog. Gan fod y polau'n agosau mae'n bosib y bydd pobl sy'n ystyried pleidleisio i UKIP yn meddwl mynd am y Ceidwadwyr - ond eto mi fydd UKIP yn niweidio'r Ceidwadwyr, nid Plaid Cymru, ac mi fydd yn agosau pethau.

Mi fydda i'n ailadolygu popeth ar ol cwblhau'r proffwydoliaethau, felly cawn weld bryd hynny, ond dwi'n amgyffred bod pethau'n agosau yn Aberconwy, UKIP ai peidio.

Anonimo ha detto...

A fabulous gift idea that any mom & grandma links of london sale would be glad to accept is a mother's ring. There are countless styles to pick from london links charms and every one permits each of a mother's children's birthstone to be placed in the ring so mom & grandma can remember her children wherever she goes.Jewelry links london bracelet that is personalized or engraved makes great jewelry gifts for mom. You can have a particular word or meaningful expression engraved inside a ring, necklace or bracelet links of london earrings to demonstrate to your mother the depths of your feelings.Stylish watches are an additional idea for great jewelry gifts for mom. Your mother sweetie bracelet needs a stylish watch to go with her favorite outfit and perhaps even a few to go with her entire wardrobe.Another example of mom's & grandma's jewelry that makes a great gift is mother's earrings.