martedì, aprile 27, 2010

Y darnau yn disgyn i'w lle ... efallai!

Mae’r darnau yn disgyn i’w lle yn araf bach. Nid yn unig ydw i wedi dechrau meddu ar y gallu i anwybyddu’r polau piniwn, dwi’n cael y car nôl heddiw (mi gostiff), mae’r cefn yn gwella’n dow dow diolch i ambell beth a dwi fy hun yn teimlo’n well. Does ‘na ddim llawer o bethau yn digalonni rhywun na bod mewn poen 24/7, dydi o jyst ddim yn hwyl, dyna’r gwir amdani.

Braf fyddai peint heno ‘ma yn yr haul poeth, ond gan gael y car nôl rhaid siopa bwyd er mwyn i mi bara ychydig ddiwrnodau’n ychwanegol cyn ehedeg i’r Gogledd. Bydda i yn y gogledd y rhan fwyaf o wythnos nesa’, gan ddiogi’n bennaf, ond hefyd ceisio cael argraffiadau o sut y mae pethau’n mynd yn y ras etholiadol.

Rhaid i mi gyfaddef, o ddarllen Proffwydo 2010, na wn sut y mae ambell sedd am fynd, a bod llawer o’r dadansoddiadau yn ddigon redundant erbyn hyn (mae bron yn teimlo fel wast o 50,000 a mwy o eiriau!). Y straeon yw bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn eithaf hyderus yng Ngorllewin Abertawe, bod Plaid Cymru am symud adnoddau o Aberconwy i Geredigion, y gallai Arfon fod yn agos iawn os ydi Bangor yn penderfynu pleidleisio, ac y gallai Lembit gael sioc ar y diawl. Mae rhai yn darogan trydydd iddo fo – wn i ddim awn i mor bell â hynny!

Ac mae’r syrj yn cyflwyno heriau enfawr i Lafur – ym Mhen-y-bont, y ddwy sedd yng Nghaerdydd sydd ganddi a seddau Clwyd. Yr wythnos hon, wrth ystyried y posibiliadau’n llawn, be di’r gair dŵad, dwi’n stumped. Hollol, hollol stumped.

Un peth a ddywedaf ydi hyn: dwi’n meddwl y bydd lot o bobl sy’n dweud eu bod am fwrw pleidlais i’r Lib Dems naill ai a) ddim yn boddran pleidleisio, neu b) yn newid eu meddwl yn y blwch pleidleisio. Faint o effaith gaiff hynny, wn i ddim.

Pe gofynnid i mi rŵan beth fydd yn digwydd, swni’n rhoi 5 i Blaid Cymru, 4 i’r Democratiaid Rhyddfrydol, 11 i’r Ceidwadwyr, 17 i Lafur, ac 1 i Lais y Bobl sy’n gadael dau. Fedra i ddim ar hyn o bryd alw Ceredigion: chi ar lawr gwlad yno ŵyr yn llawer gwell na fi. Y llall ydi Maldwyn, mae ‘na straeon od iawn yn dod o’r fan honno!

Ta waeth, erbyn dydd Iau nesaf mi fydda i yn galw pob un – gobeithio bydd y blogsffêr Cymraeg hefyd yn barod i wneud erbyn hynny!

4 commenti:

Cai Larsen ha detto...

Fedra i ddim siarad am llawer o Gymru wrth gwrs, ond 'does yna ddim lle ar hyn o bryd i feddwl bod Arfon mewn perygl o safbwynt y Blaid, a cheisio symud adnoddai i Aberconwy mae'r Blaid os rhywbeth.

Tegwared ap Seion ha detto...

Dwi ddim am ail-ddechrau blogio, ond mi roi £10 ar Albert yn ennill Ynys Môn efo mwyafrif mwy...

Anonimo ha detto...

Dwi di haeru ers tro bod Lembit O'Prick mewn perig ym Maldwyn. Mae pawb wedi cael llond bol ohono. Wnaeth y fordaith, y treuliau ac yn anad dim, ei fywyd personol erchyll, amharu ar ei siawns o ddal ei afael ar y sedd. Gwelir e fel ffwl gwirion, heb unrhyw deyrngarwch i'r etholaeth. A bod yn onest, Heledd Fychan, sydd wedi bod yn drawiadol yma, a hi yw'r unig berson sydd wedi bod yn eofn a gofyn cwestiynau anodd iddo. Mae Glyn Davies wedi bod yn lwcus iawn, oherwydd Heledd sydd wedi bod yn gwneud yr ymosodiadau i gyd, a GD fydd yn elwa. Gellid cael moment Portillo ym Maldwyn. Bydd llawer o bleidleisio tactegol er mwyn cael gwared ar O'Prick. A dynan'n union be dwi'n bwriadu gwneud!

Anonimo ha detto...

O ble daw'r sibrydion parthed Maldwyn? Unrhyw oleuni??