martedì, agosto 10, 2010

Arweinydd nesaf Plaid Cymru - fy marn i

Mae’n drist na fydd Adam Price yn y Cynulliad flwyddyn nesaf. Dwi’m yn meddwl mai fi fyddai’r unig un i ryw amau hynny ers ychydig. Ond mae’n broblem fawr o ran hynny ydi pwy fyddai arweinydd nesaf Plaid Cymru (fel y blogiodd Guto Dafydd amdano’n ddiweddar). Waeth beth ddywediff neb, mae’n annhebygol iawn y bydd Ieuan Wyn Jones dal yn arweinydd erbyn 2015 (neu’r tu hwnt) ac Adam Price oedd yr olynydd naturiol. Er i IWJ greu argraff dda arna i yn ystod ymgyrch 2007, ers hynny mae o wedi mynd nôl i’r mowld ‘cyfreithiwr cefn gwlad da’, chwedl Price, ac er bod i hynny rinweddau, nid un ohonynt yw fel gwladweinydd nac arweinydd plaid.

Nid fy mod innau’n 100% yn siŵr o bleidleisio dros y Blaid yn 2011 fy hun – ymhell ohoni i fod yn onast, os mai diben y bleidlais honno fyddai cadw Llafur mewn grym am bedair mlynedd arall. Ta waeth.

Felly, mae hi’n 2013 arnom ac Ieuan Wyn yn camu i’r ymylon. Yn bersonol wela i mohono’n gwneud ynghynt. Yn wahanol i rai, mae’n anodd gen i weld y Blaid yn colli seddau, er o bosibl dir, yn 2011 – yn wir, mae’r etholaethau, mi gredaf, i gyd yn ddigon ddiogel o ran nad oes pryderon mawr gen i, er bod ambell un yn gwneud i mi deimlo’n bur anesmwyth. Edrychwn ar yr etholaethau am arweinydd nesaf y Blaid – does un ar y rhestrau eto.

Ddaw’r arweinydd nesaf ddim o’r Gogledd. Mae Gareth Jones a, diolch i Dduw ac Allah a phawb arall, Dafydd Êl, yn rhy hen. Gadawa hynny Alun Ffred, gweinidog gweddol ond arweinydd plaid? Na. Os rhywbeth, byddai’n ffitio i’r mowld IWJ o arweinyddiaeth, ac mae’n annhebygol yn fy marn i y byddai am gael go ar y joban.

Rhaid felly mynd i Ddyfed i chwilio am arweinydd, ac efallai hen bryd hefyd. Yn gyntaf, Rhodri Glyn. Er i Guto Dafydd ei grybwyll, rhaid i mi ei ddiystyrru. Dwi’n hoff iawn o Rhodri Glyn ers iddo ymddeol fel gweinidog, ac mae o’n codi pwyntiau dilys a phwysig o hyd (yn sicr yn ddiweddar), ond ac yntau’n fethiant fel gweinidog prin y gallai fod yn arweinydd. Gadawa hynny ddau – neu ddwy: Helen Mary ac Elin Jones.

Arferai Helen Mary greu argraff hynod arna i. Bûm yn aelod o’r Blaid y ddau dro i Ieuan Wyn gael ei ethol, a dwywaith mi bleidleisiais dros Helen Mary Jones yn hytrach nag Ieuan. Erbyn hyn, dwi ddim mor siŵr. Mae HMJ wedi dod i gynrychioli agwedd ar y Blaid na alla i mo’i stumogi, sef ceisio ei chynghreirio o hyd â’r blaid Lafur, fel petai’r ddwy blaid yn gynghreiriaid naturiol; yr elfen honno o’r Blaid sy’n obsesiynu braidd â gwerthoedd sosialaidd a hynny’n aml ar draul cenedlaetholdeb traddodiadol. Dwi dal yn licio Helen Mary, ond allwn i fyth ei chefnogi fel arweinydd mwyach, a dwi’n meddwl y gallai o bosibl fod yn niweidiol ymhlith y bleidlais graidd.

Na, o dan y fath amgylchiadau un person yn unig y galla i ei gweld yn sefyll yn y bwlch, sef Elin Jones – yn fy marn i, heb amheuaeth, gwleidydd mwyaf rhagorol Plaid Cymru yn y Cynulliad. Mae hi’n weinidog gwych, yn sefyll ei thir, yn areithiwr da (os nad gwych), yn ymarferol yn hytrach na dogmataidd, yn berfformiwr cyson yn y Cynulliad a hefyd yn genedlaetholwr mawr sydd yn fwy i’r canol na’r chwith. Dwi’n meddwl bod hyn yn bwysig – dieithrio cenedlaetholwyr y dde ydi’r peth mwyaf dwl y gall y Blaid ei wneud, ac mae hi wedi graddol wneud hynny dros y blynyddoedd diwethaf.

Ac mae ‘na rywbeth arall – mae ganddi fwy o ‘deimlad’ gwladweinyddol na’r un arall o aelodau cynulliad cyfredol Plaid Cymru, y cydbwysedd iawn o sylwedd, ymarferoldeb, egwyddorion a charisma.

Y pryder ydi sedd Ceredigion ei hun. Dylai fod yn ddiogel, o ystyried y glymblaid Lundeinig, ei henw da a’i gwaith rhagorol fel gweinidog materion gwledig mewn etholaeth cefn gwlad. Ond roedd maint buddugoliaeth y Rhyddfrydwyr eleni yn gonsyrn – mae’r newidiadau ar droed yno’n rhewi’r gwaed i fod yn onest – a phan soniais yn y proffwydoliaethau am y bleidlais wrth-genedlaetholgar, seddau fel Ceredigion roedd gen i mewn golwg. Os ydych chi’n wrth-genedlaetholwr, mi bleidleisiwch yn dactegol i atal Plaid Cymru.

Gan ddweud hynny byddwn yn disgwyl iddo gael ei dychwelyd yn haeddiannol i Fae Caerdydd.

‘Does gen i ameheuaeth y gwnâi Elin Jones arweinydd penigamp ar Blaid Cymru, yng ngwir draddodiad y Blaid hefyd. Gydag Adam Price yn swnio’n ddigon llugoer am ei uchelgais i fod yn arweinydd (er nid yn rhan o wleidyddiaeth Cymru a’r Blaid, mawr obeithiaf), fedra i’n bersonol ddim gweld neb arall a allai camu i’r adwy lawn cystal ag Elin Jones.

Ond dwi'n crafu pen am un peth - pam bod y ddadl yma wedi dod i'r wyneb? A phan dwi'n dweud 'pam' dwi ddim yn golygu 'pam ddiawl' ond yn hytrach 'tybed'...

4 commenti:

Anonimo ha detto...

Beth am feddwl y tu allan i'r bocs Gwynedd / Gorllewin?

Mae gan PC wrth gwrs Ddirprwy Weinidog hynod effeithiol sydd a set saff, trac record o frwydro Llafur ar y ffrynt lein dros ddegawdau, meddwl strategol ac sydd yn uchel ei pharch yn y Cynulliad ac ymhlith yr hacs ayyb.

Os all sefydliad mor draddodiadol a'r Steddfod weld y potensial yng nghymoedd Gwent siawns na all aelodau'r Blaid yng Ngwynedd ac yn Nyfed blygu'r rheol iaith am unwaith ac oleiaf ystyried Jocelyn Davies fel arweinydd? Rwan dyna fyddai owtfflancio Llafur!

Hogyn o Rachub ha detto...

Yn bersonol, alla i ddim gweld arweinydd o tu hwnt i'r ardaloedd mwy traddodiadol ar hyn o bryd. Mae Jocelyn Davies yn weinidog da, ond fel HMJ dwi'n rhyw deimlo mai dilyn y trywydd 'cynghreiriaid naturiol â Llafur' y byddai hi, sydd i'w osgoi ar bob cyfrif. A rhaid i mi ddweud hefyd dwi'n credu'n gryf y dylai arweinydd Plaid Cymru fod yn ddwyieithog.

Anonimo ha detto...

Alla i ddim meddwl am unrhyw enghreifftiau o Jocelyn Davies yn cwtsio i fynny i'r Blaid Lafur.

Yn wir, mae pobl fel Jocelyn, Pauline Jarman (ar lefel llywodraeth leol), Geraint Davies, Lyndsey Whittle, Syd Morgan, Jill Evans ayyb wedi brwydro yn erbyn sefydliad a pheiriant Llafur lleol ciaidd a chas dros ddegawdau mewn ffordd sydd efallai ddim yn cael ei lwyr werthfawrogi gan genedlaetholwyr o du allan i gymoedd Morgannwg a Gwent. Mae gan amblell un ohonynt y creithiau i brofi hyn.

Dylid gwahaniaethu rhwng y bobl yma a Sosialwyr cenedlaetholgar dosbarth canol Gorllewin Caerdydd a'r Undeb Myfyrwyr.

Dwi'n cytuno na welwn ni arweinydd o du allan i'r ardaloedd traddodiadol ar hyn o bryd. Piti - mae'r ffaith na ellir hyd yn oed ystyried y posibilrwydd o arweinydd sydd ddim yn ddwy-ieithog yn tanlinellu'r bwlch rhwng y ddelfryd o genedl inclwsif o ddinasyddion cyfartal ar realiti ar lawr gwlad sef "da iawn bois am frwydro dros bleidlais Ie / PC / addysg Gymraeg ayyb but sorry butt, there's no way you can be allowed to run the show - keep on cheering from the back of the bus or head for Nant Gwyrtheyrn".

Duw a wyr sut mae sgwario'r cylch ieithyddol, ond swario fydd rhaid os yw PC am dorri drwodd go iawn i'r Dwyrain o'r afon Llwchwr.

Golwg360.com ha detto...

Shwmae Hogyn,

Lico'r blog. Mae Golwg360.com wedi sefydlu blog nawr gyda linc i'r blog hwn. Mae'n blog ni yn roi llawer o sylw i wleidyddiaeth, fyddai modd i ti wneud linc yn ol.

diolch,
Golwg360.com