martedì, agosto 03, 2010

Nid fel y bu y bu

Flwyddyn ar ôl blwyddyn mi fydda i’n dweud “dwi’m yn mynd i’r Steddfod ‘leni achos dwi fawr o Steddfotwr” a dyna dwi am ddweud eto ‘leni. Dwi byth yn mynd i Steddfod a dweud y gwir, a phrin fy mod i’n teimlo colled o wneud hynny. Hidia befo, dai’m i fwydro am y ffasiwn beth. ‘Sneb yn darllen achos maen nhw’n y Steddfod.

Mae’n torri calon rhywun bron â bod sylwi bod rhywbeth roeddech chi’n meddwl ei fod yn uffarn o beth da yn, wel, crap. Fe deimlais y profiad siomedig hwn ychydig nôl – nos Sul, dwi’n credu. Ydw, dwi’n dal i wylio fy rhaglenni ysbrydions a dirgelwch yng nghanol y paranoias ôl-alcohol ac felly y bu eto, ond mae gwylio comedi ar ôl y fath raglenni yn lleddfu eu heffaith. Yn rhannol a thros dro, os dwi dal yn effro tua thri yn bora dyna ddiwedd ar obeithio am ddydd Llun llawn llawenydd. Unig gyflawniad ddoe oedd llwyddo aros yn effro tan Dragon’s Den.

Pa raglen aeth â’m bryd felly? Red Dwarf, fel mae’n digwydd. Do’n i heb wirioneddol â gweld Red Dwarf ers blynyddoedd, felly dyma fi’n hapus braf yn ista i lawr o flaen y teli, heb hidio’r un cythraul na drychiolaeth, â’i wylio. Wel, dyna siom.

Pan o’n i’n ifancach, tenau fy ngên a gwiw fy nhraed, arferwn wylio Red Dwarf o hyd a meddwl bod o’n ffantastig. Ond hyd yn oed ar ôl ceisio fedrwn i fawr godi gwên heb sôn am chwarddiad o’i wylio. A dyma fi’n dod i’r casgliad ei fod o jyst ddim gystal ag o’n i’n ei gofio. Siom. Siom arw.

Ar nodyn hollol wahanol dani’n (wel, fi ac Aaron cariad y Dwd – a pha bwy bynnag arall amwni, dewch chwithau os hoffech) mynd ghost hunting yn fuan gobeithio. Os dwi gormod o bwff i wylio’r fath raglenni ar Sky Anytime yn ganol dydd mae rhywun yn meddwl mai’r prif offer fydd ei angen arnaf pan ddaw’r digwyddiad fydd o leiaf dri phâr o drôns. Argoel, mae ofn ysbrydions arna’ i.

2 commenti:

Ifan Morgan Jones ha detto...

Pa episod o Red Dwarf fuest ti'n gwylio. O be ydw i'n cofio roedd y cyfresi cyntaf braidd yn crap, ond roedd tua cyfres 4-6 yn dda, a wedyn aeth o'n crap eto.

Hogyn o Rachub ha detto...

Dwi'n meddwl mai 2 a 3. Dwi hefyd yn cofio'i fod o'n eitha da yn y canol ond wedi mynd yn wael eto tua'r diwedd - a minnau efo'n fy mhen fod y cyfan yn wych!