domenica, maggio 01, 2011

Argraffiadau o'r ymgyrch

Mae argraffiadau personol a sïon yn bethau peryglus a chamarweiniol ac mae’r blog hwn yn llwyr ymhyfrydu ynddynt. Sôn ydwyf wrth gwrs am yr etholiadau a gynhelir wythnos yma. Dwi wedi bwrw pleidlais bost eisoes, hyd yn oed ar y refferendwm diflas. ‘Ia’ wnes i bleidleisio, ond dydw i ddim yn deall y system yn dda iawn. Dwi’n deall bod rhywun yn rhestru ymgeiswyr, a beth sy’n digwydd i’r pleidleisiau dewis cyntaf, ac ail ddewis, ond dwi ddim yn dallt er fy myw y trydydd dewis. Efallai y gwnaiff rhywun call egluro’r peth i mi ryw ddydd.
Ta waeth, ‘sgen i ddim syniad, a llai byth o ddiddordeb mewn difrif, yng nghanlyniad y refferendwm hwnnw; mae etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn llawer pwysicach. Dwi eisoes wedi gwneud mân broffwydoliaeth am eleni (gan anghytuno â sawl un wrth eu llunio) ond mae fy meddwl yn raddol newid. Mae rhai seddau y mae’r sibrydion yn llu ohonynt, a rhai nad ydyn ni’n clywed dim yn eu cylch gan fod y canlyniad yn gwbl sicr, waeth beth a ddywedir ar flog gwaethaf Cymru.
Ond gadewch i mi fod o ddifrif am eiliad. Mae ‘na ryw fath o gonsensws yn datblygu am y canlyniad; ar y dechrau ro’n i’n teimlo fy mod i’n mynd rhywfaint yn groes i hynny, ond dwi ddim yn siŵr a ydw i mwyach. Ro’n i’n dueddol o feddwl y buasai Llafur yn gwneud cystal ag awgrym y polau piniwn ond dydi’r Hogyn ddim mor siŵr mwyach. Ai fi ydi’r unig un sy’n amgyffred bod ymgyrch y blaid Lafur yn eithriadol o fflat, ac nad oes wedi’r cwbl frwdfrydedd i bleidleisio dros Lafur er mwyn ‘amddiffyn Cymru’? Os cawn arolwg barn arall cyn yr etholiad, mi fydd y canlyniadau yn ddiddorol.
Gadewch i mi ymhelaethu. Mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn gymharol ddistaw, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn targedu eu hadnoddau. Pwy all eu beio? Dyma’u cryfder, ac yn yr etholiad hwn dyma’r peth callaf i’w wneud o gryn dipyn. Ond mae Llafur wedi bod yn ddistaw iawn ers sbel.
Mae tair damcaniaeth i egluro diffyg gweithgarwch Llafur. Y cyntaf yw bod y blaid yn gyfrinachol ddod i’r casgliad y bydd 2011 yn flwyddyn anoddach na’r disgwyl iddynt, ac mai gwell ydi peidio â thynnu gormod o sylw at eu hunain o’r herwydd. Hynny yw, maen nhw wedi colli calon i raddau – yn anochel mi fydd Llafur yn gwneud yn well nag yn 2007, o ran seddau a phleidleisiau, ond bod y mwyafrif y tu hwnt i’w cyrraedd. Ac os na chânt fwyafrif, wel, wnaethon nhw fyth dweud y byddan nhw’n ei gael!
Mae’r ail ddamcaniaeth yn sicr yn wir i raddau, waeth beth fo’r gwir yn llawn – gall Llafur ddim cynnal ymgyrch barhaus o bwys oherwydd nad ydi’r drefniadaeth, y cyllid na’r gwirfoddolwyr ganddynt i wneud hynny. Yn wir, er mor beryg ydi amgyffred, mae rhywun yn dirnad mai Llafur yn wir sydd â’r peiriant etholiadol gwannaf yng Nghymru erbyn hyn, er bod ganddynt y fantais nad oes angen iddynt ymgyrchu o ddifrif yn y rhan fwyaf o’r Cymoedd a’r dinasoedd: mae canlyniadau diweddar yn cuddio’r gwendid hwn, er yn amlygu cryfder y bleidlais Lafur graidd.
Mae’r drydedd ddamcaniaeth efallai’n agosach ati na’r cyntaf – mae Llafur yn hyderus. Dydyn nhw ddim isio gwneud dim byd yn anghywir, ac felly’n dewis gwneud dim byd o gwbl. Maen nhw’n cael ymateb da ar stepen y drws, yn enwedig mewn rhai ardaloedd, sy’n cael ei atgyfnerthu gan y polau cadarnhaol. Sylwer bod Llafur yn Llanelli yn gwneud llawer mwy o sŵn na Llafur yng Ngorllewin Caerfyrddin neu Aberconwy.  Mae’r post hwn ar flog Saesneg yr Hen Rech yn ddiddorol i’w ddarllen o ran hynny. 
Er i mi grybwyll ambell waith bod pethau’n edrych yn ddu ar y Blaid, dwi ddim mor siŵr am hynny bellach chwaith, er fy mod i’n eithaf sicr fy marn na chaiff bymtheg sedd eleni. Ar ôl dechrau siomedig i’r ymgyrch, mae’n gynyddol amlwg bod ymgyrch y Blaid yn fwy effeithiol nag ymgyrchoedd y pleidiau eraill. Ddechreuodd hi yn bur anweledig, er gwaethaf ei hymdrechion, ond debyg bod hynny’n newid i raddau. Fy argraff i ydi bod gan Blaid Cymru fomentwm, a hynny ar yr adeg gywir ... yn wir, mae’n bosibl ei bod yn rhy hwyr erbyn hyn i’r pleidiau eraill ddal y Blaid i fyny o ran hynny. ond wir, gwell iddi beidio â gorgyffroi – dylid dysgu o 2009 a 2010.
Pa oblygiadau sydd i’r amgyffred cyffredinol hwn? O safbwynt personol, mae ambell un. Bydd Aberconwy’n frawychus o agos ond dwi’n sticio i feddwl mai Plaid Cymru aiff â hi. Drws nesa’ yng Ngorllewin Clwyd mi fydd hi eto’n agos, ond erbyn hyn dwi’n rhyw amau mai’r Ceidwadwyr aiff â hi yn y pen draw. Mae goblygiadau i hynny o ran y rhestr ... dwi’n amau hefyd y bydd y Blaid yn cael mwy o bleidleisiau na’r Ceidwadwyr erbyn hyn, yn y Gogledd o leiaf.
 Yn y Canolbarth, buaswn i bellach yn ffafrio Plaid Cymru yn Llanelli. O drwch blewyn, gallai fod yn frwydr agos iawn eto. Dwi’n dal i feddwl mai Llafur fydd yn cipio Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, ond pwy ag ŵyr mewn difri! Un peth na fuaswn i’n ei wneud ydi llwyr ddiystyru’r Ceidwadwyr yma. Tua’r gogledd i Drefaldwyn, dwi’n dal i feddwl y bydd y Ceidwadwyr yn fuddugol yma, ac y byddant hefyd yn cadw Preseli Penfro.
Yn y de, tueddaf i feddwl y bydd Julie Morgan yn trechu Jonathan Morgan. Ond dwi ddim mor siŵr am Ganol Caerdydd – o ystyried natur a hanes y sedd mae’n ddigon posibl y bydd hi’n ras deirffordd rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd. Dwi wedi meddwl y buasai Llafur yn adennill hon ers ychydig, ond mae’n anodd ei galw. Yn reddfol, buaswn i’n gachwr ac yn darogan y bydd y sedd yn aros yn felen.
Un sedd sy’n cael mwy a mwy o sylw ydi Caerffili, ac sy’n dechrau cynhyrchu mwy a mwy o sïon wrth i amser fynd heibio. Mae’n un sedd efallai lle y mae sïon a gwybodaeth leol yn fwy o werth nag unrhyw bôl piniwn. Os nad ydych chi’n ymddiried mewn sïon gan bleidiau amdanynt eu hunain, mae sïon pleidiau eraill amdanynt efallai’n agosach ati, yn enwedig pan fônt yn ddigon diduedd. Yn ôl y sôn, mae Ceidwadwyr yng Nghaerffili yn meddwl mai Ron Davies sy’n mynd â hi ar hyn o bryd.
Un sylw bach olaf ydi Ynys Môn. Dwi ddim yn meddwl y gwelwn ni sioc yma, ond dwi’n meddwl y caiff IWJ sioc o weld maint ei fwyafrif.
Af i ddim i oblygiadau o ran seddau ar hyn o bryd, ond yn gryno mae’n ymddangos bod gan Blaid Cymru fomentwm, bod y Dems Rhydd yn targedu’n ffyrnig, bod y Ceidwadwyr rhwng petrus a thawel hyderus, a Llafur naill ai’n hyderus neu’n gwbl analluog. Tybed a ydi’r argraffiadau hynny’n gywir!

3 commenti:

BoiCymraeg ha detto...

Caiff eich ail ddewis ei gyfri os yw'ch eich dewis cyntaf yn cael ei "eliminateo". Caiff eich trydydd dewis ei gyfri os yw eich ail ddewis wedyn yn cael ei eliminateo, eich pedwerydd os gaiff y trydydd ei elminateo ac yn y blaen.

Gobeithio eich bod chi'n gywir am bleidlais y Blaid. Yn sicr dwi'n teimlo'n fwy optimistaidd am Caerffili bellach.

Anonimo ha detto...

Cadwa lygad ar Dde Clwyd!

Hogyn o Rachub ha detto...

Mae De Clwyd yn un diddorol ... mi ddyweda i ddau beth. Yn gyntaf, buaswn i'n gochel rhag cyffroi gormod. Mae tueddiad gan Blaid Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, hyd yn oed yr amlycaf a'r gorau o'u gwleidyddion, i feddwl eu bod nhw'n gwneud yn well nag y maen nhw o ddifrif - rhyw fath o 'Syndrom 99' - felly dwi'm yn meddwl bod unrhyw ffynhonnell gan y Blaid yn gwbl ddibynadwy. Ac mae digon o enghreifftiau o 'Syndrom 99' yn ei rhengoedd ers cyfnod o rai blynyddoedd bellach.

Ond yn ail, mae'r wybodaeth sy'n dod o Dde Clwyd yn ymddangos yn fwy cadarn na sïon a honiadau yn unig. Pan fo sedd yn troi o fod yn gwbl anniddorol i fod yn cynhyrchu bob math o sibrydion mewn mater o wythnosau, a hynny gan amryw ffynonellau, mae rhywbeth yn yr awel yno!