venerdì, agosto 02, 2013

Môn: y dadansoddi'n dechrau

Pleser o'r mwyaf yw gallu ysgrifennu 1000fed blogiad y blog 'newydd' ar fuddugoliaeth Rhun ap ar Ynys Môn 

Fydd pawb yn baglu dros ei gilydd heddiw i ddadansoddi neithiwr ond, diawl, ni ddisgwyliasai neb hynny. Neb. Roedd yn ganlyniad anhygoel. Yn ôl Dafydd Êlar Twitter, y mwyaf rhyfeddol ers 40 mlynedd. Efallai wir. Ond hoffwn gynnig dadansoddiad bras o ganlyniad pob plaid – ac eithrio Llafur Sosialaidd, tydw i ddim am wastraffu eiliadau prin fy mywyd yn gwneud hynny. Hoffwn gynnig beth oedd yn dda, beth oedd yn ddrwg, a gair i gall i atal pobl rhag mynd dros ben llestri gydag unrhyw un ohonynt. Mewn geiriau eraill, sbwylio hwyl pawb! Rhaid i rywun sbwylio’ch hwyl, yn does? (bydd Syniadau fwy na thebyg yn bitshio am y peth yn nes ymlaen heddiw i wneud hynny, ond twll ei din o, medda' fi).

Y DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL

Da: Allan nhw ddim gwneud yn waeth na hyn. Wir-yr. Dim peryg.  

Drwg: Wel, popeth. Ddaethon nhw’n olaf un, hyd yn oed y tu ôl i’r Blaid Lafur Sosialaidd sydd heb fath o wreiddiau yma, sy’n embaras llwyr. Yn waeth na hynny, mae 'na awgrym yng nghanlyniad neithiwr y gallai'r Dems Rhydd  fod yn blaid gwbl Seisnig yn 2015, heb dim ASau yng Nghymru na'r Alban. Y mae'n fwy o bosibiliad, o leiaf.  

Gair i gall: O’r cychwyn cyntaf roedd hwn am fod yn un anodd i’r Dems Rhydd. Mae Ynys Môn yn un o’u seddi gwannaf beth bynnag, ac mae’r cyd-destun gwleidyddol yn anffafriol iawn iddyn nhw. Fydd ‘na ddim tonnau o hyn. Ac eto, mae’n arwydd bach fod y blaid Gymreig yn mynd i’r llwch. Tybed beth ydi’r odds heddiw mai ond hi ei hun y bydd Kirsty Williams yn ei harwain yn y Senedd yn 2016?

 

CEIDWADWYR

 
Da: Eto, dim byd. Does dim cysur yn y canlyniad hwn i’r Torïaid, ond am y ffaith ei bod yng nghanol tymor llywodraeth Geidwadol, ac mae’r Ceidwadwyr wedi colli isetholiad wedi isetholiad ac yna ennill etholiad cyffredinol cofiwch (er, doedd dim UKIP i’w styrbio bryd hynny). Yr unig beth cadarnhaol oedd bod Neil Fairlamb wedi llonni calonnau ambell un ohonom ar Pawb a’i Farn ... roedd o’n lyfli, doedd?

Drwg: Roedd y canlyniad ei hun yn wael iawn, ond yn fwy na hynny dyma’r farwol i obeithion y Ceidwadwyr o ailadeiladu ar yr ynys. Tybia rhywun iddynt golli pleidleisiau nid yn unig i UKIP, ond dybiwn i Blaid Cymru hefyd y tro hwn (y mae yno ar Fôn bleidlais sy’n gogwyddo rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru). Ond dylai’r canlyniad hwn hoelio ar ddrws y Ceidwadwyr y ffaith, mewn etholaethau tebyg i Fôn yng Nghymru, fod UKIP yn fygythiad go iawn iddyn nhw. Allwch chi ddychmygu isetholiad yn Aberconwy neu Orllewin Clwyd ar y funud?

Gair i gall: Gan ddweud hynny, dyma’r stwffiad oedd ei angen ar y Ceidwadwyr i sortio’u hun allan go iawn ar Fôn – rhywbeth tebyg i ganlyniad siomedig iawn Plaid Cymru yn 2010. Gallan nhw ddysgu o Blaid Cymru sut i adfywio’u hunain. Ond er hynny mae’n dangos bod natur y bleidlais Geidwadol yng Nghymru – yn y gogledd yn benodol, efallai – yn ffafriol i gynulleidfa UKIP. Ac mae’n gwneud i’r sedd Ewropeaidd honno edrych yn freuach. Fentrwn i ddim edrych at 2016 eto o ran y Ceidwadwyr, mae ‘na ormod o bosibiliadau.

 

UKIP

Da: Canlyniad parchus iawn. Bron â dod yn ail wedi’r cyfan. Ac mae eu neges ‘genedlaethol’ yn taro deuddeg â pheth ran o'r etholwyr. Ac mae’n dangos pa mor agored yw’r bleidlais Geidwadol yng Nghymru iddynt, a dybiwn i fod hefyd bleidleisiau i’w dwyn oddi ar Lafur. Byddai gweld blychau Caergybi wedi bod yn ddiddorol.

Drwg: Y gwir plaen ydi mai dim ond 14% o’r bleidlais gawson nhw. Mae hynny’n llais nag y gallen nhw ei ddisgwyl mewn etholaeth gyffelyb yn Lloegr, ac o ystyried y cyd-destun gwleidyddol cyfredol, parchus – nid da – oedd eu pleidlais. Dwi’n rhyw dybio, yn gyfrinachol, yr hoffai UKIP fod wedi gwneud yn well.

Gair i gall: Dydi eu pleidlais gref ddim yn dynodi môr o newid yng ngwleidyddiaeth Cymru – y mae uchafbwynt pendant i’w cefnogaeth yma, sy’n gyfyng, er yn gallu creu problemau i bleidiau eraill. Ond o gael y lefel hon o gefnogaeth yn rhywle fel Môn fe allant fod yn hyderus at etholiadau Ewrop y flwyddyn nesaf; maen nhw’n sicr o gadw eu sedd Gymreig. Serch hynny, ymddengys nad ydi UKIP yn mynd i’r unman, mae wedi ei sefydlu ei hun, a hynny yng Nghymru yn ogystal ag ar y lefel Brydeinig. Y tric i UKIP ydi nodi a thargedu eu cefnogwyr yn hytrach na bloeddio’r un neges at bawb, er bod hynny’n gweithio i raddau hefyd. Os gwnawn nhw hynny, mi fyddan nhw’n rym peryglus dros y blynyddoedd nesaf.

 

LLAFUR

Da: Daeth y selogion allan i bleidleisio. Mewn rhai ardaloedd mae hynny o hyd yn ddigon, er nid ym Môn. A byddai dyn yn disgwyl i Lafur ddysgu llu o wersi o’r isetholiad hwn. Os na wnawn nhw maen nhw’n dwpsod o’r radd flaenaf.

Drwg: Yn fras, y bleidlais, canran y bleidlais a phob elfen ar yr ymgyrch a’u rhagflaenodd. Roedd hwn yn ganlyniad trychinebus i Lafur – fe ddylen nhw fod yn gwneud yn well ym Môn, dyna’r gwir amdani. Ond roedden nhw’n ddi-glem. Roedd hyn er gwaethaf i fawrion y blaid yng Nghymru ddod i ymgyrchu, ac yn ôl y sôn i £100,000 gael ei wario ar yr ymgyrch (er hoffwn i weld tystiolaeth o hynny). Isetholiad ai peidio, dangosodd arolwg barn ar ôl arolwg barn eleni y câi Llafur tua hanner y bleidlais yng Nghymru pe bai etholiad cynulliad – mae hynny’n ddigamsyniol ffafriol waeth beth fo materion penodol isetholiad lleol. Roedd 16% yn gywilyddus. Rhaid datgan yn glir, roedd isetholiad Ynys Môn yn drychineb i’r blaid Lafur, a phob elfen ar yr holl beth yn negyddol. Y gwir ydi, roedd yn gamp ynddo’i hun na lwyddon nhw gau’r bwlch rhyngddyn nhw a Phlaid Cymru, o leiaf fymryn. Anhygoel, a dweud y gwir!

Gair i gall: Fydd Albert yn ‘cachu brics’, chwedyla Twitter? Na, er na fydd wedi’i gysuro ryw lawer. Roedd y cyfraddau pleidleisio isaf yn Amlwch a Chaergybi, y llefydd mae Llafur gryfaf, a bydd y bobl hynny’n pleidleisio mewn etholiad cyffredinol, neu yn sicr bydd mwy ohonynt yn pleidleisio na ddoe.

Yn fy marn i, Llafur o hyd yw’r ffefrynnau yn 2015 – y mae’r pethau aeth o’u lle iddynt eleni yn bethau y gallan nhw eu hunioni, ac yn fwy na hynny roedd y diffyg sylw (yng Nghymru, heb sôn am Brydain) wedi’u taro yn galed. Mi gânt y sylw hwnnw yn 2015. Ond mae hynny ynddo’i hun yn dangos pa mor fregus ydi peiriant etholiadol Llafur ar lawr gwlad y tu allan i’w gwir gadarnleoedd, y maen nhw’n dibynnu ar y cyfryngau, a phan nad oes cyfryngau maen nhw’n dioddef. Ond eto, ni fydd Plaid Cymru’n gallu rhoi cymaint o sylw i Fôn y tro nesaf chwaith. Felly tydi hi ddim yn fagddu ar Fôn i Lafur – ond prin iawn y bydd yno Lafurwyr sy’n edrych ymlaen at etholiad cyffredinol 2015 ar ôl neithiwr.

A thybed faint o etholwyr Môn oedd am anfon neges i lywodraeth Lafur Caerdydd – Lazy Labour (credaf fod lot fawr o filltiredd i’r slogan hwnnw!)? Byddai hynny’n newid mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru, a’r dystiolaeth gyntaf o mid-term blues yn taro llywodraethau Cynulliad. Over to you, Dicw!

 

PLAID CYMRU

Da: Tri pheth. Y canlyniad – roedd hwn yn rhyfeddol ac y tu hwnt i unrhyw beth y meiddiai neb ei ddisgwyl. Yr ymgyrch – roedd yn amlwg iawn fod Plaid Cymru yn ymgyrchu’n galed iawn, ac mi dalodd ar ei ganfed. Yr ymgeisydd – ymgeisydd priodol a chryf a gyfiawnhaodd ei ddewis yn ddiamheuaeth. Roedd yn gyfuniad perffaith a ildiodd ganlyniad trawiadol tu hwnt.

Drwg: Yr unig negydd oedd y blas cas sy’n y geg am ymddygiad ambell Bleidiwr ar-lein – wyddoch chi’n iawn at bwy dwi’n ei gyfeirio ato. Os ydi hanes y Blaid yn dangos unrhyw beth, hynny ydi bod holltau yn gallu bod yn ddiawledig o beryglus i’w gobeithion etholiadol. Ond nid yw’r ‘drwg’ i Blaid Cymru ond yn negydd bach, ac yn bosibiliad bach - ond rhaid gwella'r briw.

Gair i gall: Er na allwch wadu mai Plaid Cymru oedd y ffefrynnau clir yma mewn difrif, nac ychwaith diglemrwydd eu gwrthwynebwyr, roedd maint y fuddugoliaeth yn wirioneddol anhygoel. Ond gochel a ddylai’r Blaid rhag datgan buddugoliaeth yn 2015. Nid yn unig y bydd y cyd-destun yn wahanol ond mae ‘na elfennau eraill i’w hystyried: ni fydd y llu o ymgyrchwyr a ddaeth i’r Ynys y tro hwn ar gael y tro nesaf – fwy na thebyg byddan nhw’n amddiffyn Arfon, a hyd yn oed Dwyrain Caerfyrddin, rhag yr ymchwydd Llafur. A bydd sylw’r cyfryngau Prydeinig i unrhyw etholiad yn fwrn, a mi fydd yn llu mewn etholiad cyffredinol, ar y telibocs bob nos. Yn fras, bydd 2015 o hyd yn etholiad anodd i’r Blaid. Serch hynny, mae rhywun yn teimlo y cofiodd y Blaid sut i ymladd ac ennill etholiad. Dyma oedd canlyniad gorau Plaid Cymru oddi ar 1999 – nid ym Môn, yn gyffredinol. Tybed a all y Blaid wneud yr hyn nad yw erioed wedi llwyddo’i wneud, a chynnal momentwm? Gofyn mawr o isetholiad, waeth pa mor dda’r canlyniad.

Ac er y bydd sylw pawb ar UKIP y flwyddyn nesaf, dwi’n eithaf siŵr y bydd gan Blaid Cymru bellach un llygad ar etholiadau Ewrop. Er na allwn drosi canlyniad isetholiad Môn yn ganlyniadau Ewropeaidd, os ydi Plaid Cymru’n defnyddio eu momentwm a’u dulliau ymgyrchu i’r eithaf, a bod yn gyfrwys, dydi ennill yr etholiad hwnnw ddim y tu hwnt i’w gafael.

Chwi gofiwch hefyd, dydi Plaid Cymru ddim yn rhai da am ddysgu gwersi. Ond y tro hwn, dysgu gwersi o fuddugoliaeth y maen nhw, nid o golli, ac mae hynny ynddo’i hun yn arwyddocaol.

 

*           *           *

 
Rhaid crybwyll yma hefyd yr isetholiad a gafwyd yng Nghaerffili ar ward Penyrheol – cadwodd Plaid Cymru ei sedd yno gyda mwyafrif mawr a thros hanner y bleidlais eto. Mewn ffordd mae hynny’n fwy arwyddocaol nag Ynys Môn. Os ystyriwn am funud fod Ynys Môn yn endid ar wahân yn wleidyddol, dydi Caerffili ddim – y mae’n fwy agored i ogwyddau cenedlaethol, ac mae pobl yn tueddu i ddilyn patrymau cenedlaethol hyd yn oed mewn etholiadau lleol i raddau helaeth. Fel y mae Richard Wyn Jones wedi’i ddweud (newydd ddarllen yr erthygl ar wefan y BBC ydw i – ‘di deud lot o be dwi wedi ‘fyd y diawl), er gwaethaf y ffaith bod Llafur ar y blaen yn y polau piniwn, y mae’r gefnogaeth honno’n feddal. Os na all Llafur ennill sedd cyngor yn y Cymoedd yn y cyd-destun gwleidyddol cyfredol (ac mae hynny gan ystyried ffactorau lleol) wel, mae’n gwneud i rywun feddwl ...

2 commenti:

Thorsten ha detto...

Fantastic!

Providence Dishwasher Repair ha detto...

Thank you for writing and sharing this