mercoledì, agosto 28, 2013

Sylwadau sydyn ar Syria

Dwi’n meddwl bod pawb, fwy neu lai, wedi’u rhannu ar Syria, neu yn fwy fanwl, a ddylai’r Gorllewin ymyrryd yno. Ar yr un llaw mae Irac, a’r llanast sy’n parhau yno, ym meddyliau pawb. Does neb isio Irac arall. Mae hynny’n safbwynt dealladwy a theg. Ond tydw i ddim yn siŵr a alla i’n bersonol gytuno. Egluraf pam.
 
Wedi’r cyfan, mae’r sefyllfa’n wahanol iawn a dylid cofio hynny. Aethpwyd i Irac ar gelwydd, dan gysgod yr arfau niwclear a chemegol honedig yr oedd Saddam Hussein yn eu celu, a’r bygythiad yr oedd i’r byd o’u herwydd. Pe byddai’r DU ac UDA wedi mynd i ryfel ar y sail bod angen disodli unben erchyll a ormesai ei bobl ei hun – i’r graddau na allwn ni ei amgyffred yn ein bywydau breintiedig yng Ngorllewin Ewrop ein hoes – mae’n bosibl y byddai’r gefnogaeth wedi bod yn fwy, a’r rheswm ei hun yn gyfiawn; a hynny hyd yn oed petai pethau o hyd wedi mynd yn draed moch. Doedd disodli Saddam ynddo’i hun ddim yn beth drwg.
 
Yn wir, tydi disodli arweinwyr gwledydd sy’n cam-drin ac yn gormesu eu pobl eu hunain ddim yn beth anghyfiawn ynddo’i hun. I’r gwrthwyneb, gellid dadlau mai dyma’r peth cyfiawn i’w wneud. Dylai pawb, ym mhob cwr o’r byd, fyw dan lywodraeth sy’n gofalu amdanynt ac yn rhoi iddynt hawliau sylfaenol fel yr hawl i fynegi barn a byw mewn heddwch. Tydi’r Gorllewin ddim yn berffaith yn hyn o beth – wedi’r cyfan, gwelsai Prydain dan Lafur Newydd gyfyngu mawr ar ein rhyddid personol, ac mae’n digwydd yn UDA dan Barack Obama yn llawer mwy na ddigwyddasai dan lywodraeth George Bush. Ond pan  ddaw at yr enghreifftiau gorau o lywodraethau agored sy’n gwneud yr hyn y dylai llywodraeth ei wneud – gofalu am ei phobl – y mae’r model gorllewinol yn cymharu’n dda â mathau eraill o lywodraeth.
 
Y mae gennym ddywediad yn y Gymraeg, Y pechod gwaethaf yw gweld pechod a gwneud dim amdano. Dyna wnaeth y byd cyfan yn Rwanda yn y 90au. Tydi Syria ddim yn yr union un sefyllfa â Rwanda, ond mae’r ddau yn gyffredin am eu bod yn dangos anallu’r byd i ymyrryd yn effeithiol ac yn ddigon cyflym pan fo sefyllfaoedd felly’n codi.
 
Ymddengys mai’r unig drywydd y gellid ei gymryd yn achos Syria ydi ymyrraeth filwrol. Ni fydd pwysau gwleidyddol yn cyflawni dim, nid pan fo gan Assad gyfaill pwerus a ffyddlon ar ffurf Rwsia – sydd ddim â llywodraeth all hawlio’r tir uchel moesol ar fawr ddim. A dybiwn i na châi sancsiynau economaidd unrhyw newid i wlad sydd â’i seilwaith economaidd yn rhacs. Ac a ydi’r rheiny’n ymatebion ddigonol pan fo gwlad yn gormesu ei phobl? Dengys enghraifft Gogledd Corea inni mai ‘na’ ydi’r ateb. Yn wir, dyna ichi wlad sydd eto’n dangos anallu’r byd i ymyrryd pan fo gormes yn rhan o fywyd bob dydd yno.
 
Un peth dwi’n sicr yn ei gylch yn yr holl sefyllfa: tydi o ddim yn iawn gwneud dim. Mae gan holl wledydd y byd ddyletswydd foesol i ymyrryd pan ormesir pobl gan eu harweinwyr. Y piti mwyaf ydi, er gwaethaf y ffaith fod gennym y Cenhedloedd Unedig a datganiadau lu ynghylch hawliau dynol, fod cynifer o wledydd – nid yn unig y rhai amlwg fel Sawdi Arabia neu Syria neu Ogledd Corea, ond rhai fel Rwsia a Tsieina – yn dal i reoli eu pobl dan bawen dduraidd, ddigyfaddawd. A pha gyfle gwirioneddol sydd i ddod â’r ddwy(+) ochr at y bwrdd trafod erbyn hyn? Dim.
 
Y cwestiwn mawr ydi, a oes gan y Gorllewin ddyletswydd, neu hawl, foesol i ymyrryd? Wel, oes. Er gwaethaf y ffaith fod sylfeini ein cymdeithas o blaid rhyddid, cyfiawnder a democratiaeth yn amherffaith ac weithiau’n wantan, a bod ein llywodraethau yn ddigon parod i gynghreirio ag unbeniaid a’u tebyg pan fo’n gyfleus iddynt, dwi’n meddwl y gallwn ni hawlio’r tir moesol pan ddaw at lywodraethu. Pwy yn wir allai ddweud i’r gwrthwyneb? Allwch chi ddim dweud bod llywodraeth Ffrainc yn fwy gormesol nag un Zimbabwe, er enghraifft, neu'r Almaen yn llymach na Byrma. Onid ydych chi’n gwbl wallgof, hynny yw.
 
Pan fo dioddef ar raddfa o’r fath rydyn ni’n ei gweld yn Syria, rhaid gwneud rhywbeth. Ac yn y sefyllfa hon, nid dim ond UDA a’i phwdl, Prydain, sy’n meddwl hynny. Y mae Ffrainc hefyd. Y mae nifer o wledydd y Gorllewin yn edrych tua’r Dwyrain Canol ac yn dechrau meddwl mai’r peth gwaethaf yw gwneud dim.
 
Dwi’n gwybod bod yr uchod yn ddadansoddiad syml iawn a bod bylchau i’w cael ynddi e.e. bod mwy na dwy ochr i’r rhyfel, y gallai’r Gorllewin waethygu’r sefyllfa drwy ymyrryd heb gynllunio'n drylwyr, ymateb Rwsia ac Iran. Tydw i ddim yn awgrymu eu hanwybyddu. Ond allan nhw ddim atal y Gorllewin rhag ceisio dwyn y rhyfel brawychus hwn i ben.
 
Pan fo pobl yn cael eu lladd yn eu cannoedd a’u miloedd, pan fo arfau cemegol yn cael eu defnyddio ar ddinasyddion cyffredin, a phan fo’r dioddef ar raddfa rydym yn ffodus na allwn ei gwerthfawrogi fel dinasyddion y Gorllewin – pethau rydym yn falch yn y Gorllewin ein bod yn ymwrthod â nhw yn ein gwledydd ein hunain o leiaf – sut allwn ni fyth wynebu’r rhai yn ein byd sy’n dioddef a dweud “Wnaethon ni ddim am mai dyna’r peth cywir i’w wneud – rhyngo chi a’ch pethau”?
 
Dylai’r un person yn y byd cyfan hwn ddioddef dan law ei lywodraeth. Mae’r ffaith ein bod yn caniatáu iddo ddigwydd yn warth arnom oll. Ac os gall y Gorllewin atal llywodraeth Syria rhag lladd ei phobl ei hun, fe ddylai wneud, hyd yn oed os taw ymateb milwrol ydi’r ateb.
 
A dyma pam fy mod i'n amharod gefnogi ymyrraeth filwrol. Hawdd gweiddi heddwch, ond y pechod mwyaf ydi gweld pechod a gwneud dim amdano.
 

3 commenti:

Anonimo ha detto...

Ond pwy wnaeth y pechod dyna cwestiwn

Ifan Morgan Jones ha detto...

Mae'n bwnc anodd iawn ac rydw i wedi newid fy meddwl saw gwaith dros y dyddiau diwethaf.

Y ddau ffactor sy'n tueddu i wneud i mi feddwl na ddylid ymosod yw:

Beth fyddai ymosodiad yn ei gyflawni, yn bon? A fydd pobl Syria sy'n dioddef yn elwa os yw rhagor o fomiau yn cae eu ollwng ar y wlad?

Ai job Prydain yw bod yn heddlu'r byd? Ar adeg pan dyn ni'n cicio pobl anabl allan o'u tai oherwydd toriadau dwfn? Ydi'r syniad yma ein bod ni'n gallu fforddio ymyrryd mewn pob rhyfel yn y dwyrain canol (dyma'r pedwerydd ers 12 mlynedd) yn hangover o'r dyddiau pan oedden ni'n ymerodraeth mawr?

Mae'r Unol Daleithiau yn mynd i fwrw ymlaen felly bydd y bomio yn digwydd os ydyn ni'n rhan o'r peth ai peidio. Efallai mai unig wir bwrpas rhan Prydain oedd fel bod Obama yn gallu honni fod ganddo gefnogaeth ledled y byd.

Anonimo ha detto...

Post gwan iawn. Yn le mae'r dystiolaeth fod Assad wedi defnydddio arfau cemegol? Hefyd, wyt ti'n meddwl fod Irac yn well le i fyw ynddo yn awr? Lladdwyd 800 fis ddiwethaf! Mae gan Flog Menai flogiad ardderchog ar y pwnc yma.