ARFON
Mwyafrif:
92 (0.3%)
Mae’n deg dweud
y cafodd Plaid Cymru gryn sioc yma y tro diwethaf, gan laesu dwylo wrth i’r bleidlais Lafur
gynyddu gan dros 10% i ddod o fewn trwch blewyn i gipio’r sedd. Roedd yn
ganlyniad na ragwelsai unrhyw un.
Go brin y bydd
Plaid Cymru’r un mor ddi-hid y tro hwn. Y cwestiwn ydi faint yn fwy o
bleidleisiau Llafur sydd yma mewn gwirionedd, a hefyd i bwy fydd y 648
bleidleisiodd i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd amdani (Llafur mi dybiaf).
Gallai
presenoldeb plaid Brexit yma’r tro hwn effeithio ar y canlyniad yn fawr – mi fyddwn
i’n reddfol meddwl y bydd yn denu mwy o Lafurwyr nag o Bleidwyr ond gallai
dynnu pleidleisio oddi ar y ddwy.
Plaid
Cymru’n cadw
CEREDIGION
Mwyafrif:
104 (0.3%)
Y syndod mwyaf
i mi yn yr etholiad hwn ydi cyn lleied o sôn sydd wedi bod am Geredigion, a dwi’n
tybio bod hynny’n deillio o ansicrwydd o bob tu ynghylch beth allai ddigwydd
yma.
Bydd chwe
phlaid yn sefyll: PC, DRh, Llaf, Ceid, BP a’r Gwyrddion. Yr unig sicrwydd ydi y
bydd y blaid Brexit yn ennill pleidleisiau oddi ar y lleill. Mi fyddwn i’n
dyfalu y daw mwy gan Lafur a’r Ceidwadwyr na gan y ddwy brif blaid yn yr
etholaeth hon, ond y dygai fwy gan y DRh na Phlaid Cymru. Mae’n wir dweud hefyd
fod y wasgfa i’r Democratiaid Rhyddfrydol bosib am effeithio ar eu cyfleoedd
nhw i ail-gipio’r sedd. Serch hynny, dwi’n rhagweld cwymp mawr yn y bleidlais
Lafur yma y tro hwn, a fydd yn dyngedfennol. Alla i ddim dweud â sicrwydd i ba gyfeiriad aiff y bleidlais honno.
Efallai’r
ffactor mwyaf ydi’r ymgeiswyr, Ben Lake yr AS cyfredol yn erbyn y cyn-AS Mark
Williams. Dydi pobl ddim yn or-hoff o wleidyddion sy’n ceisio gwneud come-back, yn enwedig mewn seddi yr
arferent eu cynrychioli (mae digon o enghreifftiau o hyn i'w cael), ac efallai y gwelwn hynny yma.
Mae gen i
deimlad y bydd hon yn agos. Efallai nad ydi’r wasgfa genedlaethol ar y DRh am
gael gormod o effaith yma, ond mae’n annhebyg na chaiff effaith o gwbl - efallai jyst digon.
Plaid
Cymru’n cadw
GORLLEWIN CAERDYDD
Mwyafrif: 12,551 (26.9%)
Yn wahanol i
etholiadau Cynulliad a chyngor yn yr ardal, canlyniad parchus y bydd Plaid Cymru’n
dyheu amdano yma. Mi fûm i’n yr etholaeth ond ddoe ac mae llu o ddeunydd Llafur
i’w gweld yno. Hon oedd yr unig ran o Gaerdydd bleidleisiodd i adael yr UE yn
2016 ac felly mae’n dir ffrwythlon i’r BP, ond go brin yn ddigon i wirioneddol
ddifrodi’r mwyafrif Llafur enfawr.
Llafur yn cadw
PONTYPRIDD
Mwyafrif: 11,448 (28.7%)
Y sedd mwyaf randym,
o bosib, lle mae’r pact PC-Drh-G ar waith, mae ‘na gyfle y caiff y pact hwnnw
(PC sy’n sefyll ar ei ran) ganlyniad parchus, ond mae’n bur debyg y bydd
Pontypridd yn un o llond dwrn da o seddi yn ne Cymru lle daw’r BP yn ail. Mae
hefyd dri ymgeisydd annibynnol yn sefyll y tro hwn a daeth y Ceidwadwyr yn ail
cyfforddus tro diwethaf. Jobyn eithaf hawdd i olynydd Owen Smith.
Llafur yn cadw
BLAENAU GWENT
Mwyafrif: 11,907 (36.8%)
Er i Blaid Cymru
bron ag ennill y sedd yn etholiad cynulliad 2016 a dod yn ail parchus iawn yn
2017 dwi’n darogan y bydd Blaenau Gwent yn un o nifer o seddi lle bydd
pleidlais y Blaid yn gostwng yn sylweddol eleni wrth i’r polau gynyddol
bolareiddio.
Bydd Llafur yn
cadw Blaenau Gwent yn hawdd – ond mi wnaf i fentro darogan un peth – ym Mlaenau
Gwent y caiff Plaid Brexit ei chyfran uchaf o’r bleidlais yng Nghymru.
Llafur yn cadw
ABERAFAN
Mwyafrif: 16,761 (50.4%)
Roedd mwyafrif Stephen
Kinnock y tro diwethaf ymhlith y rhai mwyaf yng Nghymru a does yna lawer i’w
ddweud am yr etholaeth ond am y bydd yn ei ddychwelyd i San Steffan. Ond fel ym
Mlaenau Gwent uchod, cadwch lygad ar faint pleidlais y blaid Brexit yma, gallai
fod yn sylweddol.
Llafur yn cadw
DWYRAIN CASNEWYDD
Mwyafrif: 8,003 (21.7%)
Ers creu’r sedd
hon ym 1983 mae hi wedi bod yn sedd ddibynadwy i Lafur, hyd yn oed os ydi’r
mwyafrifau weithiau wedi bod yn dynn. Nid felly yr oedd hi’r tro diwethaf ac mi
fydd presenoldeb y BP yn sicrhau y bydd Llafur yn ei chadw, gan ddwyn
pleidleisiau Ceidwadol yn ogystal â rhai Llafur.
Llafur yn cadw
TORFAEN
Mwyafrif: 10,240 (26.6%)
Dydi Torfaen
ddim yn sedd sy’n cael llawer o sylw yn draddodiadol am ei bod yn pleidleisio’r
drwm dros Lafur. Ond aeth hi dan y radar braidd yn 2017, wrth i’r Ceidwadwyr ennill
31.0% o’r bleidlais. Oni fyddai am bresenoldeb Plaid Brexit, byddwn i’n meddwl
y gallai Torfaen fod yn sedd annisgwyl i gadw llygad arni.
Ond, er fy mod
i’n ailadrodd hyn, bydd BP yn sicrhau na ddaw’r Ceidwadwyr yn agos ati y tro
hwn. Disgwylier cwymp mawr yn eu cyfran nhw o’r bleidlais, yn ogystal â chyfran
y blaid Lafur.
Llafur yn cadw