lunedì, marzo 13, 2006

Rhewi

Oeddwn i'n siarad i'n hun gynnar. Diddorol, 'fyd.

Ma'n rhewi yng Nghaerdydd. Debyg ei bod yn well na Rachub, ond dydi hynny fawr o gysur imi. Dw i dal yn teimlo'n sal wedi'r penwythnos (os nad oedd perfformiad Cymru yn fy neud yn sal yr alcohol oedd. Ia, alcohol, debyg. Neu cwmni Haydn a Dyfed.). Y peth gwaethaf o bosib oedd mynd yn slei i chwydu rownd pabell y Beverly, dim ond i edrych i fyny, gweld bod pawb yn gallu gweld a chlywed nhw'n canu 'You Are Spewing'. A wedyn chwydais mewn jar gwin yn Gatekeeper. Ond roedd hi'n iawn achos roeddwn i wedi hen orffen y gwin.

Digwyddodd cryn dipyn o bethau yng Nghlwb Ifor. Y rhan fwyaf ohoni'n bethau nad ydw i'n cofio ond uchafbwynt y nos oedd bod yn y toiledau efo Lowri Dwd (faint o bobl sy 'di deud hynny o blaen ho ho!). Ond na, nid felly ydoedd, dim ond i mewn am dro yr aethon ni, a dyma rhyw ddynas blin yn dod i mewn (sy'n gweithio yn Clwb, debyg) a pwyntio ataf a gweiddi 'Ti! Mas!' cyn mynd i mewn i ciwbicl. Nis werthfawrogais ei swnian felly mi wnes (gyda llawn cefnogaeth LD) wlychu rhyw bapur toiled a rhoi ffling iddi dros ben y ciwbicl. Sgrechiodd hi a rhedem ni. Yn gyflym.

Treuliwyd gweddill y nos yn dawnsio polyn, gyda Lowri Dwd yn llwyddo i'm cnocio i mewn i'r polyn mewn modd sy'n boenus iawn i un o'r cryfach ryw. Gwingais mewn poen, a pheidio gadael mynd o'r polyn am peth amser. Wedyn, aeth Ceren a mi o gwmpas yn dawnsio yn y tai bach megis fersiwn toiledaidd o Strictly Come Dancing.

A dw i dal efo hangowfyr heddiw. Casau penwythnosau.

Nessun commento: