mercoledì, marzo 08, 2006

Sgriptio a chri am help gyfrifiadurol!

O myn ffwc i dw i'n cal traffarth 'ma! 'Sgynnoch chi'm syniad sut beth ydi ysgrifennu sgript. Ma'n anodd iawn iawn i wneud un ugain munud. Dyna dw i'n ceisio'i wneud ar y funud ac ers ddoe ac echoddoe. 13 tudalen sy bron yn 13 munud, a dw i wedi rhedeg allan o syniadau. A ddoe ffeindish i allan nid un unig ei fod o fod i mewn erbyn Ddydd Mawrth, ond mae gennai un arall i'w wneud erbyn hynny a sgennai'm syniad bedio!

Mae'r plot yn syml, sef pump person yn eistedd mewn tŷ. Dw i'm efo dychymyg mawr ar y cyfan, dachi'n gweld. Haws o lawer yw dwyn syniadau pobl eraill a'u newid i be sy'n siwtio chi; fel nath Hitler i Mussolini ond mewn ffordd sgriptiol.

--------------------------------------------------

Reit ar nodyn hollol seriws dwi'n pledio gyda unrhyw un sydd allan yno i helpu fi efo problem gyfrifiadurol. Efallai bryna i beint i chi os newch chi, neu Milky Way, wnim. Ond dyma hi: dw i wedi prynu gêm gyfrifiadurol newydd, sef hwn. Mi fedra i ei roi ar y cyfrifiadur yn ffein, a gwneud ambell i beth gyda hi ond bob tro dw i'n mynd i'r darn lle ma'r gêm go iawn yn digwydd (y darn RTS = real-time strategy) ma'n mynd at y Desktop. Ai isho mwy o RAM ydw i? Diolch!

1 commento:

Unknown ha detto...

Oes angen i chi werthu eich aren i godi arian ar gyfer eich treuliau a dyled? Rydym yn eich gwahodd i Doctor Clinig Charlie. Mae ein clinig wedi ei leoli yn India, UDA, ac Affrica yn y drefn honno ac rydym yn arbenigo ar lawdriniaeth arennau a llawdriniaethau eraill, rydym hefyd yn cymryd rhan yn y prynu a trawsblannu arennau. Rydym yn gofalu am eich costau teithio a'ch croeso. rydym yn sicrhau y byddwch yn cael y boddhad mwyaf ei angen arnoch yn dda. Ar gyfer rhoddwyr iach sydd â diddordeb, cysylltwch â Clinig Charlie ar e-bost: doctorcharlieclinic@gmail.com