lunedì, marzo 20, 2006

Y Blewfran

Smai gyfeillion, gelynion a'r rheiny rhy amhwysig i ennill fy llid ne'm llawenydd! Siomedig oedd Dydd Sadwrn, de? Ond mae atgofion yn llifo drwy mhen i (megis cwyr fy nghlustiau) a gan nad oes gennyf ddim gwell i'w ddweud mi a'u hatgofiwn (a, byddwn onast, 'sa gynnoch chi rwbath gwell i wneud 'sa chi'm yn darllen y crap 'ma chwaith).

Aethon ni i'r Mochyn Du, fel arfer, a phenderfynu peidio rhegi. Be wnaethon ni oedd rhoi bocs rhegi yn y canol a 50c i mewn bob tro y rhegem. Afraid dweud mai Dyfed fu'n bennaf gyfrifol am y rownd a ddilynodd ohoni. Nid dyna fy uchafbwynt i, wrth gwrs, ond yn hytrach gweled yr enwog Bilbo Baggins yno, yn amlwg wedi bod ar un o'i deithiau bellefig...

bilbo mochyn du

Cwl neu be? Fodd bynnag, ar wahan i stalkio Bilbo am y peth gorau i awr dyma ni'n gwylio'r gem a meddwi a wedyn canu gyda hen ddyn oedd y dweud ei bod yn braf iawn cliwed bechgyn ifanc yn cani Cwmrag. Yn amlwg yn esgeuluso Lowri Dwd (er bod mam Dyfed yn hwyrach yn y nos wedi meddwl mai hogyn oedd Lowri dros y ffon). Debyg mai fi ydi'r unig un gyda unrhyw atgof o'r nos; Dyfed yn taflu peint dros Haydn (ar bwrpas hi hi) a siarad i Lydawyr nad oedden nhw go iawn yn cefnogi Ffrainc ond oeddan nhw yng Nghaerdydd eniwe. A Gwenan yn dweud wrtha i dorri fy ngwinadd - rhag ofn i mi ei brifo.

Cyrraeddais i ddim mo Clwb Ifor o gwbl, dw i'n siwr y bu imi fod adra cyn deuddeg. Ond fela mai. Gaethon ni hwyl mawr yn son am anifeiliaid newyddwych; y condamentsquirrel, y toiledfuwch, yr afiachbry, a'r gorau oll:

blewfran

Y Blewfran!!
Mae'r Blewfran yn wreiddiol o Walchmai ond wedi mudo i Gaerdydd am ychydig i wneud cwrs ymarfer dysgu. Nis fedrai hedfan, dim ond cerdded yn flewog.

Nessun commento: