mercoledì, gennaio 20, 2010

De Caerdydd a Phenarth

O rannu fy amser rhwng Rachub a Chaerdydd fe fyddaf yn dueddol o bleidleisio yn Arfon, ond petawn i ddewis pleidleisio yng Nghaerdydd yn yr etholaeth hon y byddwn yn bwrw’r bleidlais honno. Rŵan, o ran seddau’r brifddinas (sydd hefyd yn cynnwys Penarth yn y Fro) mae hon yn un o dair na fyddech yn disgwyl i newid dwylo, ond dydi hynny ddim yn meddwl y bydd troi lliw’r etholaeth yn amhosibl.


Dwi’n rhywun digon prin sydd wedi byw mewn etholaethau ac wedi fy nghynrychioli gan bob un o brif bleidiau Cymru. Yng Nghonwy fe’m cynrychiolwyd gan Lafur, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr ar adegau a lefelau gwahanol, ac yn fy nghyfnod fel myfyriwr yn Cathays a’r Rhath y Dems Rhydd. Yma yn Ne Caerdydd a Phenarth, Llafur sy’n teyrnasu’n gadarn iawn ers blynyddoedd.

Fyddwch yn gyfarwydd â’r AS lleol, hefyd, neb llai nag Alun Michael, nid y math o enw y byddwn yn disgwyl i gael ei ddisodli dros y misoedd nesaf. Fodd bynnag, mae enw da Alun Michael wedi cael cnoc y llynedd gyda’r busnes treuliau, a dydi ei wraig heb helpu materion yn ddiweddar. Bydd y fath eiriau yn sicr yn cael effaith ar yr etholiad hwn, ond ni ba raddau, ni wn.

Ychydig eiriau am yr etholaeth ei hun yn gyntaf. Mae hon yn etholaeth dlawd ar y cyfan gyda’r canran uchaf o Foslemiaid yng Nghymru - sydd ond yn 3.9%. Mae’n ymestyn yn helaeth o ardaloedd na fyddech yn disgwyl i’r un blaid ond am Lafur gael effaith ynddynt - Llaneirwg, Butetown, Grangetown - i Benarth, sef yr unig ran o’r etholaeth y mae gan y Ceidwadwyr bleidlais naturiol - ac i’r de o Benarth wedyn i ardal Sili. Ac eto ceir yma rhai o eiconau’r Gymru fodern megis Canolfan Mileniwm Cymru ac, wrth gwrs, y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn gyntaf dwi am waredu Plaid Cymru o’r hafaliad. Dydi’r Blaid byth wedi cael mwy na phedair mil o bleidleisiau yma, hyd yn oed ym 1999. Er ei bod yn ceisio cryfhau mewn ardaloedd fel Grangetown, aflwyddiannus fu’r ymdrech hyd yn hyn (un o siomedigaethau’r Blaid yn etholiadau 2008 yw na ddychwelodd yr un cynghorydd yn y ward). Bydd ennill degfed o’r bleidlais eleni yn gamp. Nid tir naturiol i genedlaetholdeb Cymreig yw’r sedd hon ar unrhyw lefel. Ni aiff yn wyrdd o fewn yr ugain mlynedd nesa’, credwch chi fi.

Reit, awn at y pleidiau eraill ar ein hunion felly. Yn fras iawn dyma hanes y tair plaid rhwng 1992 a 2005. Yn gyntaf, fel arfer, canran y bleidlais yn ’05 ac yna’r newid o 1992.

Llafur 47% (-9%)
Ceidwadwyr 22% (-12%)
Dems Rhydd 20% (+11%)

Mae natur y bleidlais Lafur yma wedi bod yn ddiddorol. Roedd yn uwch yn 2001 nac ym 1992 – ac yn is yn ’97 na’r etholiad diwethaf hwnnw. Ar y cyfan, fodd bynnag, dydi’r dirywiad ddim mor wael â nifer o seddau Llafur eraill.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gweld cynnydd mawr yma – ond yn bennaf yn ardal Caerdydd ac nid Penarth ar y cyngor. Mae hyn wedi dechrau adlewyrchu mewn etholiadau cenedlaethol, ac mae’r ffaith iddynt bron â dyblu eu pleidlais rhwng 1997 a 2005 yn destun i waith caled ar ran y blaid yn ardal Caerdydd.

Stori drist sydd i’r Ceidwadwyr yma. Roedd y bleidlais Geidwadol dros draean o’r bleidlais, 16,000 o bleidleisiau, nôl ym 1992, ond dirywiodd i fymryn dros hanner hynny erbyn 2005.

Symudwn heibio 2007 am ennyd. Awn i 2008 a’r etholiadau Cyngor. Dyma nifer y cynghorwyr ddychwelodd y pleidiau yma:

Ceidwadwyr 11
Llafur 9
Dem Rhydd 6

Mae’r Ceidwadwyr yn dominyddu ym Mhenarth. Y broblem iddynt ydi nad ydynt yn gryf iawn yn Ne Caerdydd, maen nhw’n hynod o wan os rhywbeth. Y cyferbyniad rhyfedd yn hynny o beth ydi er mai dyma’r ardaloedd mwyaf poblog yn yr etholaeth, sy’n gadarnleoedd traddodiadol Llafur, dyma’r math o ardaloedd lle mae’r niferoedd sy’n pleidleisio yn llai. Felly er bod potensial y pleidleisiau Llafur yn uchel, fel y gwelwn o ganlyniadau etholiadol, gall patrwm apathi Llafurwyr yn hawdd iawn gael ei adlewyrchu yma. Ategir at hynny y ffaith bod y Dems Rhydd wedi dechrau bwyta i mewn i’r bleidlais Lafur yng Nghaerdydd ers blynyddoedd, ac mae uchafswm pleidleisiau Llafur yn fwy cyfyng na fu.

Profwyd hyn i raddau yn Etholiadau Ewrop. Dyma ganlyniadau’r etholaeth i bob plaid gafodd dros ddeg y cant o’r bleidlais:

Ceidwadwyr 22.6%
Llafur 21.9%
Plaid Cymru 11.4%
UKIP 11.3%

Dau beth felly. Yn gyntaf, mi enillodd y Ceidwadwyr. O drwch blewyn, gyda chanran isel. Fel yr etholiad cyfan hwnnw yng Nghymru, Llafur gollodd yn hytrach na’r Ceidwadwyr enillodd. Yn wir, roedd canran y Ceidwadwyr yn is nag yn etholiadau Cynulliad 2007 o bump y cant.

Yr ail beth, wrth gwrs, ydi na chafodd y Democratiaid Rhyddfrydol ddeg y cant o’r bleidlais. Fe’u curwyd gan Blaid Cymru (a allai yn hawdd fod yn arwydd o gynnydd y Blaid yn y ddinas – post arall!) ac UKIP. Mae isafswm pleidleisiau’r Dems Rhydd yn amlwg yn erchyll o isel yma.

Ceisiaf ddyfalu isafsymiau ac uchafsymiau nesaf. O ran y Dems Rhydd, dydi’r polau ddim yn edrych yn rhy dda, ac mewn sawl ffordd dydi’r etholaeth hon ddim yn dir naturiol iddynt . Ond, er gwaethaf siom Ewrop y Rhyddfrydwyr, dwi ddim yn ei gweld yn amhosibl y byddant yn bwyta’r bleidlais Lafur ymhellach yma – mae eu heffeithiolrwydd wrth wneud hynny yng Nghaerdydd yn syfrdanol. Gallan nhw gael unrhyw beth rhwng 6,500 a 9,500 o bleidleisiau.

Yn etholaeth fwyaf poblog Cymru, ni fydd hynny’n ddigon i gipio’r sedd.

Beth am y Ceidwadwyr? Er iddynt ennill yr etholaeth y llynedd, roedd y ganran yn ddigon pathetig. Yn gyffredinol, dydyn nhw heb ddod yn agos at gael traean o’r bleidlais ers 1992 – a hyd yn oed bryd hynny roedd y fuddugoliaeth i Lafur yn hawdd. Yn ogystal, does ganddyn nhw ddim gwreiddiau yn ne Caerdydd ei hun, dim ond Penarth, sy’n llai poblog.

Awgrymodd arolwg diweddaraf YouGov ogwydd o 9% i’r Ceidwadwyr yng Nghymru. Hyd yn oed petai hynny’n digwydd yn yr etholaeth hon gyda nifer sylweddol uwch yn pleidleisio, fyddai’r Ceidwadwyr ddim yn taro’r 14,000. Dwi am amcangyfrif pleidlais rhwng 9,000 a hynny iddynt yn 2010 – mae’n anodd gweld na fyddant yn ennill tir yma i ryw raddau o leiaf.

Hyd yn oed yn 2007, llwyddodd Llafur ennill dros ddeng mil o bleidleisiau yma, ac a thros 17,000 yn 2005. Gwyddwn fod uchafswm posibl Llafur yma’n uchel iawn – y tu hwnt i allu’r Ceidwadwyr i’w gyrraedd – ond mae’r isafswm yma’n ddirgelwch. Ar hap, synnwn petai’n llawer is na 15,000, ond gyda phobl Butetown a Grangetown yn llai tebygol o bleidleisio na phobl Penarth, mewn blwyddyn ddrwg synnwn i ddim petai’n agosach i’r 13,000.

Yn syml, problem y Ceidwadwyr ydi mwyafrif Llafur – mae’n 25%. Yn ddamcaniaethol, petai dwy ran o dair o’r etholwyr yn pleidleisio eleni, byddai hynny’n golygu, ar ogwydd uniongyrchol, bod angen i’r Ceidwadwyr ennill o leiaf bymtheg mil o bleidleisiau – saith mil yn fwy na chawsant yn 2005.

A all y Ceidwadwyr ennill yma? Mae’n annhebygol, ond gallant, ond byddai’n rhaid i’r canlynol ddigwydd:

1) Nifer uchel yn pleidleisio ym Mhenarth a’r cyffiniau
2) Nifer isel yn pleidleisio yn Ne Caerdydd
3) Y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i ddwyn pleidleisiau gan Lafur yng Nghaerdydd
4) Gogwydd cryf i’r Ceidwadwyr ym Mhenarth

Mae pob un heblaw am rif 3 yn debygol o ddigwydd – dydw i ddim yn gwbl siŵr am rif 3. Er gwaethaf amhoblogrwydd y llywodraeth ganolog, dydi Cyngor Caerdydd, a arweinir gan y Rhyddfrydwyr, ddim yn eithriadol boblogaidd. Fel gydag ambell sedd arall hefyd, pan fo’n frwydr ddeuffordd rhwng y Ceidwadwyr a Llafur a Llafur mewn perygl, gall sbarduno Llafurwyr y tu hwnt i’r garfan ‘selogion’ i bleidleisio hefyd.

Proffwydoliaeth: Gogwydd sylweddol i’r Ceidwadwyr, ond Alun Michael i fynd â hi o ryw 2,500 – 3,000 o bleidleisiau.

Nessun commento: