mercoledì, gennaio 27, 2010

Newidiadau mawrion bywyd

“Myn sbienddrych i,” ddywedodd y Dwd, gan droi ataf a bron fy nharo oddi ar y gwely gyda’i thrwyn enfawr, “dan ni’n edrych yn hŷn”. Cyn i mi fynd ymlaen dylwn egluro digwydd bod ar y gwely er mwyn mynd drwy hen luniau prifysgol yr oeddem. Roedden ni ar fin mynd am dro i ASDA ond roeddwn i wrthi’n trefnu dillad i roi i elusen, sef sanau gan fwyaf, wyddoch yn y bagiau hynny a ddaw i’ch tŷ bob hyn a hyn ac fe’u cesglir yn nes ymlaen. Rhoes y Dwd ffrae i mi am hyn, gan ddweud eu bod nhw’n cwyno eisoes bod pobl yn defnyddio siopau elusen fel biniau dillad ac na werthfawrogid fy hen slipars llychlyd.

Basdads anniolchgar, feddyliais i, cyn eu rhoi nhw’n y bag yn barod i fynd i’r siop, a throi at y lluniau ennyd.

Am flynyddoedd ar ôl brifysgol roeddwn i’n erfyn am fynd nôl. Dwi wedi pasio hynny rŵan, newidiwn i mo ‘mywyd ar y cyfan, er y byddai ambell fis nôl yn Senghennydd yn codi ‘nghalon. Ond ‘rargian, roedd ‘na olwg ar y rhan fwyaf ohonom. Mae’r wynebau ffres, opstimistaidd wedi troi’n fodlon ac mor amlwg, amlwg hŷn, a’r ddillad ‘smart’ yn edrych yn unrhywbeth ond am hynny – mae byd o wahaniaeth rhwng deunaw oed a chanol yr ugeiniau.

Erbyn hyn, gofia’ i ddim sut beth oedd bod yn naw stôn na chael gwallt trwchus. Gas gen i’r gwallt tenau a etifeddwyd gan fy Mam. Dyddiau da yw dyddiau fu. Mae’r newid yn rhywun o adael ysgol fawr i ddechrau’r ugeiniau yn anferthol – o fynd i brifysgol, os dyna’ch ffawd, rydych yn aeddfedu i raddau ond eto ddim. Ar ôl gadael a chyrraedd 22-23 mae ‘na aeddfedu pellach wedi mynd rhagddo wrth i rywun ddechrau dallt faint o gostus yw byw a pha mor undonog y gall byd gwaith fod. Rwyt erbyn hynny, waeth beth fo’th rawd, yn oedolyn.

Ond sylwais adref dros y penwythnos bod un newid mwy yn digwydd mewn bywyd, sef ymadael â ysgol fach a mynd i’r ysgol fawr. Roedd y nesaf peth i bedair blynedd ar ddeg yn ôl y tro diwethaf i mi grio, a chofiaf yn iawn mai’r diwrnod y gadewais Ysgol Llanllechid ydoedd. Er gwaethaf ambell gyfnod isel ers hynny, fydd hwnnw wastad yn un o ddyddiadu tristaf fy mywyd. Ar y llwyfan, yn canu ‘ysgol Llan yw’r ysgol orau...’, gwyddwn â’r doethineb rhyfedd hwnnw sy’n perthyn i blant fod rhywbeth arbennig wedi dod i ben yn fy mywyd.

Feddyliais am hyn wrth ddarllen fy hen ddyddiaduron. Y flwyddyn oedd 1996 a minnau ym mlwyddyn olaf Llanllechid. Gwelais yn syth pa mor ddi-niwed a dwl a bodlon yr oeddwn o’r ysgrifennu – o fynd i hel penbyliaid yng Nghae Poncs i Sion Bryn Eithin yn ffendio porno yng ngwrychoedd yr ysgol a Jarrod yn sgrechian arnynt, ew, atgofion da, os nad od. Erbyn mis Medi roeddwn yn Nyffryn Ogwen. Ar y cyfan, wnes i ddim mwynhau’r ysgol fawr – dwi ddim yn meddwl y buodd tan y chweched i mi wirioneddol dechrau mwynhau bywyd i fod yn onast – ond gwelir o’r ffordd yr ysgrifennais erbyn Rhagfyr ’96 – ‘nothing happened today’, ‘not bothered to write anything’ – y newid mawr sydd rhwng y ddwy ysgol. Mae’n ymylu ar drawmatig.

Un cofnod diddorol oedd o 1997 fymryn cyn etholiad hanesyddol y flwddyn honno. Y geiriau ysgrifennwyd yn y dyddiadur (a oedd am ryw reswm yn ddyddiadur yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) ‘I want the Lib Dems to win and Plaid Cymru to win a seat’.

Dydi pobl ddim yn hoff o newidiadau, myfi yn eu mysg, ond dylwn ddiolch am rai!

Nessun commento: