mercoledì, gennaio 06, 2010

Delyn

Mae’n bryd mentro i ran arall o Gymru rŵan, sef y gogledd-ddwyrain. Rhaid i mi ddweud cyn cychwyn nad ydi’r gogledd-ddwyrain yn gyfarwydd i mi yn y lleiaf – yn wir, ac eithrio Gorllewin Clwyd, mae’n ddiarth ofnadwy. Byddai unrhyw sylwadau yn cael eu croesawu’n fawr!

Beth allwn ni ddweud am Ddelyn yn fras felly, er mwyn ei chyflwyno i’r rhai ohonom nad ydym yn gyfarwydd â hi? Wel, mae’n cynnwys trefi fel Yr Wyddgrug, Treffynnon a Fflint. Mae llai o bobl o oedran ymddeol yn Nelyn na chyfartaledd Cymru, a chyfradd is na Chymru yn ddi-waith. Ganed 60% o’r boblogaeth yng Nghymru, gyda 17% yn medru Cymraeg. Ystadegau taclus, cyflym, digonol.

Cafwyd ad-drefnu yn y gogledd-ddwyrain ar gyfer etholiad 1997, ond roedd Delyn ar ryw ffurf yn bodoli cyn hynny, er ei bod ychydig yn fwy. Fe’i crëwyd ym 1983 i bob pwrpas – a phryd hynny roedd hollt wleidyddol amlwg yn yr ardal, gyda’r gorllewin yn pleidleisio i’r Ceidwadwyr, a’r dwyrain i Lafur. Y Ceidwadwyr enillodd yn ’83 ac yn ’87, a Llafur aeth â hi yn ’92. Ond cofiwn fod Delyn bryd hynny yn fwy ac yn cynnwys ardaloedd mwy Ceidwadol eu tueddiadau gwleidyddol, ac felly roedd ganddynt fantais mewn unrhyw etholiad. Dydi hi ddim yn syndod iddynt golli ym 1992, serch hynny; roedd y llanw’n hen droi yn erbyn y Ceidwadwyr ar ddechrau’r nawdegau.

Dilëwyd y fantais ym 1997 gyda’r newid ffiniau, a chollodd Delyn tua 9,000 o etholwyr - Ceidwadwyr gan fwyaf. Roedd buddugoliaeth Llafur ym 1997 yn enfawr - cafodd 23,000 o bleidleisiau, sef 57% o’r bleidlais; canran nid yn annhebyg i nifer o’i chadarnleoedd yn Ne Cymru. Roedd y Ceidwadwyr ymhell y tu ôl ar 26%.

Dydyn ni ddim am balu drwy’r ystadegau rhwng 1999 a 2004 oherwydd na fyddant o fudd i ni. Gallwn ddweud hyn, fodd bynnag. Yn y sedd hon, gall Llafur ennill hyd at 23,000 o bleidleisiau, a hithau wedi llwyddo gwneud eisoes. Ar ei ffurf bresennol, unwaith y mae’r Ceidwadwyr wedi cael mwy na 10,000 o bleidleisiau, a hynny yng nghyflafan ‘97. Yn amlwg, mae gwahaniaeth sylweddol yn apêl ehangaf bosibl y ddwy blaid yma.

Beth am gael newid bach? Beth am edrych nid ar y canrannau ond y pleidleisiau eu hunain y cafodd y pleidiau ym 1997 ac yn 2005. Ceir, fel arfer, faint a gafwyd yn ’05 a’r gwahaniaeth yn y cromfachau.

Llafur 15,540 (-7,760)
Ceidwadwyr 8,896 (-1,711)
Dems Rhydd 6,089 (+1,929)
Plaid Cymru 2,524 (+966)

Erbyn hyn gwyddom nad ydi’r gwymp enfawr ym mhleidlais y blaid Lafur yma yn rhywbeth arwyddocaol (i’r graddau nad yw’n unigryw), ond mae ffigurau’r Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr yn ddiddorol iawn. Gallwn ar yr olwg gyntaf gael ein twyllo i feddwl bod y Rhyddfrydwyr wedi dwyn nifer o bleidleisiau Ceidwadol, ond mewn difri dydi hynny ddim yn debygol ac mae’n fwy tebygol mai pleidleisiau Llafurwyr wedi’u dadrithio ydynt yn cynrychioli gogwydd uniongyrchol o Lafur i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dydi hi ddim mor haws egluro dirywiad y Ceidwadwyr. Trefnidiaeth? Diffyg aelodau? Diffyg gweithgarwch? Yr esboniad amlycaf fyddai fod y gyfradd bleidleisio o 76% yn 1997 yn llawer uwch na’r 64% yn 2005. Gan ddweud hynny, ddylai hi ddim fod yn destun hyder i’r Ceidwadwyr i’w pleidlais ddirywio tua 20% ers y flwyddyn waethaf yn eu hanes. Cynnig rhesymau dwi - Ceidwadwyr yr ardal yw’r unig rai all egluro.

Gallwn ddiystyru unrhyw effaith y caiff y Blaid ar Ddelyn eleni, bydd hi’n ffodus cael 10% o’r bleidlais, ond tybed felly’r Rhyddfrydwyr? Y consensws ydi na fydd y Dems Rhydd yn cael cystal blwyddyn yn 2010 â 2005. Dwi wedi mynegi eisoes y gallai hynny fod yn anghywir – ond mae un posibilrwydd diddorol. O’u holi, ymddengys erbyn hyn y byddai’n well gan fwyafir o bobl sy’n bwriadu pleidleisio i’r Democratiaid Rhyddfrydol eleni weld David Cameron yn Rhif 10 na Gordon Brown. A fydd hynny, mewn ambell sedd, yn golygu gwyrdroi’r bleidlais wrth-Geidwadol draddodiadol yng Nghymru yn bleidlais wrth-Lafur?

I fod yn deg pe byddai pawb a bleidleisiodd Dem Rhydd yma yn 2005 am weld Cameron yn Rhif 10 yn lle Brown ac yn benthyg pleidlais i’r Ceidwadwyr, byddai’r Torïaid dal yn fyr o ychydig gannoedd. Ond dwi’n dueddol o feddwl, gyda’r llywodraeth o hyd yn amhoblogaidd, y gallai pleidlais ambell Ryddfrydwr gael ei benthyg i’r Ceidwadwyr mewn ambell sedd – gallai’r sedd hon fod yn un.

Ond a oes tystiolaeth i’r ddamcaniaeth honno?

Yr ateb ydi – efallai (simsan, mi wn!). Mae dau etholiad gweddol ddiweddar y gellir eu defnyddio i awgrymu hyn, sef 2007 a 2009.

Os dechreuwn gyda 2007, roedd Delyn yn un o lond dwrn o seddau y daeth y Ceidwadwyr o fewn trwch blewyn i’w hennill. Mewn etholiad a welodd 10% yn fwy o bobl yn bwrw eu pleidlais nag yn 2003, daeth y Ceidwadwyr o fewn 511 o bleidleisiau i ddisodli Sandy Mewies. Dim ond 3% gynyddodd pleidlais y Ceidwadwyr, ond gostyngodd pleidlais y Dems Rhydd 5%. Mae hynny’n awgrymu i ambell Ryddfrydwr, hyd yn oed bryd hynny, fwrw pleidlais wrth-Lafur – er mi gyfaddefaf na all brofi hynny.

Ond nid Llafur, eithr UKIP drechodd y Ceidwadwyr yma. Gyda’r 1,300 o bleidleisiau a gafodd, gellir yn hawdd iawn dychmygu mai’r Ceidwadwyr ddioddefodd fwyaf yn sgîl presenoldeb y blaid – mwy am hynny yn y man.

Wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol segura yma yn etholiadau Ewrop, gyda dim ond degfed o’r bleidlais, enillodd y Ceidwadwyr gyda 27% i 19% Llafur. Tybed a roddodd ambell Ryddfrydwr gic i Brown gydag esgid Cameron? Yn bersonol, dwi ddim yn meddwl y bod y tu hwnt i reswm.

Mewn ardal heb draddodiad Rhyddfrydol diweddar, gellir damcaniaethu mai pleidlais feddal sydd gan y Dems Rhydd yma. O ganlyniad, gallai’r pleidleisiau hynny’n hawdd droi’n rhai tactegol, boed hynny yn yr achos hwn er budd y Ceidwadwyr neu Lafur.

Eithriad i hynny ydi etholiadau cyngor 2008. Cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol fwy o bleidleisiau na’r Ceidwadwyr yma y flwyddyn honno, gyda Llafur yn gyntaf, er iddi golli rheolaeth ar gyngor Sir y Fflint.

Credaf fod tri rhwystr i’r Ceidwadwyr o ran ennill Delyn.

Yn gyntaf, mae angen miloedd o bleidleisiau ychwanegol arnynt. Synnwn i ddim petai’r bleidlais Lafur yn segura neu’n dirywio fymryn yma, ond dyweder bod 70% yn pleidleisio yma eleni, byddai dal angen i’r Ceidwadwyr ennill o leiaf 6,000 yn fwy o bleidleisiau ar ogwydd o 10% (er bod y mwyafrif ond yn 6,664, ‘sdim dianc o’r ffaith na welir y fath ogwyddau mewn etholiadau cyffredinol yn aml iawn).

Er gwaetha’r posibiliadau o ran pwy allai bleidleisio dros bwy y broblem ydi, ar ffurf bresennol Delyn, nad yw’r Ceidwadwyr byth wedi dod yn agos at ennill y ffasiwn gefnogaeth. Petai’r polau’n darogan buddugoliaeth fawr i’r Ceidwadwyr, a chyflafan i Lafur, gallai hynny yn hawdd iawn ddigwydd yma. Edrychasai felly ychydig fisoedd nôl. Nid erbyn hyn.

A dyna’r ail rwystr, yn bur syml - y polau. Dydyn nhw ddim yn awgrymu unrhyw beth tebyg i ogwydd o 10% i’r Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Mae’n deg, mi gredaf, feddwl y bydd y gogwydd yng Nghymru yn debyg i 6%-8% wedi i’r pleidleisiau gael eu cyfrif. Ond dydi hynny jyst ddim yn ddigon.

Y trydydd rhwystr ydi un a grybwyllwyd yn fras uchod – bydd UKIP yn sefyll yma. Dim ond 500 o bleidleisiau gafodd yn 2005, cofiwch, ond cafodd ymhell dros fil yn 2007, ac ymhell dros ddwy fil yn 2009.

Hyd yn oed os bydd y polau eto’n ffafrio’n gryf y Ceidwadwyr am gyfnod hir, mae angen pob pleidlais arnynt i ennill Delyn. Mae’n annhebygol y caiff UKIP gymaint o bleidleisiau â’r llynedd, ond ‘sdim angen iddi er mwyn rhoi anrheg fach i Gordon Brown yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Byddai’r pum cant o bleidleisiau a gafodd yn 2005, petaent oll ar draul y Ceidwadwyr, yn ddigon.

Credaf y caiff fwy y tro hwn, yn bennaf o du pobl a fyddai fel arall yn pleidleisio i’r Ceidwadwyr.

Wrth i mi ysgrifennu, fodd bynnag, daw’n amlwg, ar ôl cyfnod o dawelwch ac undod gweddol yn rhengoedd y Blaid Lafur, nad dyna’r achos mwyach. Wyddoch chi’n union oblygiadau plaid ranedig, ac os ydyw’r blaid Lafur yn ymddangos yn wan, mae seddau fel Delyn mewn peryg gwirioneddol. Os bydd y sïon o gynllwynio yn erbyn Brown yn parhau i fis Chwefror, gall seddau fel hon droi cefn arni.

Proffwydoliaeth: Er ei bod yn bosibl i'r Ceidwadwyr gipio Delyn, ar hyn o bryd tueddwn i roi Delyn i Lafur gyda mwyafrif o tua 1,000 – 2,000.

Nessun commento: