Y peth da am ddweud bod proffwydo etholiadol ond yn ‘hwyl’ ydi bod rhywun yn edrych ychydig yn llai gwirion os aiff pethau’n draed moch. At y diben hwnnw, ychydig o hwyl ydi proffwydo. Ond wir, dyna ydi hi, er gwaethaf dadansoddi, tueddiadau, mathemateg, polau a sïon, dyfalu mae unrhyw un wrth wneud yn y bôn. Mae’n eithaf trist fy mod i yn ystyried proffwydo etholiadau yn hwyl!
Ta waeth, heddiw ydi diwrnod olaf yr ymgyrch, y cyfle olaf i’r pleidiau ein hargyhoeddi. ‘Does fawr neb wedi fy ‘argyhoeddi’ i mewn difri calon – fel y mwyafrif o bobl dybiwn i, dwi’n gwneud fy meddwl i fyny ac yn sticio ato doed a ddêl. A welsoch chi’r ddadl arweinyddol echnos ar y BBC? Mae’n debygol efallai na wnaethoch ... roedd o am 10.40 gyda’r nos sy’n blydi stiwpid o amser i ddarlledu rhywbeth o’r fath achos prin welodd neb mohoni swni’n ei feddwl.
Lwcus mewn ffordd ‘fyd. Yn seiliedig ar honno, cafodd Ieuan Wyn Jones ddadl wael ar y cyfan a chynhesodd y gynulleidfa fawr ddim ato (er, i fod yn deg, cynhaliwyd y drafodaeth yng Nghasnewydd, un ardaloedd gwannaf y Blaid – efallai pe’i cynhelid yng Nghaernarfon fyddai hynny’n wahanol). Doedd Carwyn Jones fawr well na siwt. Roedd Nick Bourne yn weddol dda. Dwi’m yn cytuno efo fawr ddim o’i bolisïau ond mae’n cyfleu ei hun fel gŵr bonheddig a didwyll. Ac er nad ydi Kirsty Williams at fy nant, hi enillodd y ddadl yn hawdd iawn. Ond gan na ddarlledwyd y drafodaeth am amser call, ni chaiff effaith ar y bleidlais yfory.
Fe roddaf broffwydoliaeth derfynol yfory. Dim blog byw eleni, achos fydda i’m yn cael lot o hwyl nos yfory dwi’m yn meddwl. P’un bynnag dwisho gwylio Psychoville cyn y sioe ganlyniadau.
Ond dyma ambell synfyfyriad cyn yfory. O’i hymddygiad, ma’n ymddangos bod Llafur yn poeni’n arw am yfory – mae hi’n hysteraidd ar bob tro. Awgryma hynny nad ydi Llafur yn hyderus o ennill mwyafrif yfory, sef yr unig ganlyniad derbyniol iddi mewn gwirionedd. Mae tactegau’r blaid honno’n fwyfwy anghredadwy, o gelwydda yn Aberconwy (a all fod o fudd iddi yn etholiadol) i antics Wayne David yng Nghaerffili (a fydd, yn groes i’w fwriad, heb amheuaeth o fudd i Blaid Cymru ... a hynny mewn etholaeth sy’n ymddangos yn gynyddol anoddach i’w galw).
Ym mhob etholiad Cynulliad, Plaid Cymru sydd â’r lleiaf o waith i’w wneud o ran cael y bleidlais graidd allan i bleidleisio ... mae honno’n fwy tebygol o bleidleisio mewn etholiadau Cynulliad nag unrhyw etholiad arall. Ar y llaw arall, rhaid i’r pleidiau eraill weithio’n galetach i wneud hynny, a neb mwy na’r Ceidwadwyr. Teimla rhywun fod Ceidwadwyr yng Ngogledd Caerdydd, er enghraifft, yn fwy tebygol o bleidleisio na rhai arfordir y Gogledd, am y rheswm syml mai Cymry ydynt gan fwyaf. A fydd refferendwm y bleidlais amgen yn mynd â’r cefnogwyr i’r blychau pleidleisio? Dwi’m yn meddwl. Ond efallai jyst digon mewn llefydd fel Gorllewin Clwyd ac Aberconwy. Dwi’n meddwl y bydd Aberconwy’n drybeulig o agos rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr. Buaswn i ddim yn rhoi punt i lawr arni!
Ta waeth, mae rhywun yn teimlo erbyn hyn bod elfen o hyder tawel gan y Ceidwadwyr. Mae cael pleidlais gadarn, solet, ddi-newid fel sydd ganddynt yn gysurus iawn, ond mae’n amddiffyniad gwael yn erbyn twf enfawr ym mhleidlais plaid arall. Fydd Gorllewin Caerfyrddin ddim yn aros yn las eleni, dwi bron yn sicr o hynny. A dwi o hyd yn meddwl mai Llafur aiff â Gogledd Caerdydd, sy’n biti mewn ffordd achos mae Jonathan Morgan yn un o aelodau gorau’r Cynulliad a’r amlycaf o’i blaid yno.
P’un bynnag, mae hi’n rhy hwyr i ganfyddiadau erbyn hyn, yn rhy hwyr i newid fawr ddim. Ar y funud dwi’n teimlo bod Aberconwy, Trefaldwyn, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a Chaerffili yn rhy agos i’w galw.